Phillips, Dewi Z.

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Dewi Z. Phillips (1934-2006) yn athronydd o fri rhyngwladol ym maes athroniaeth crefydd, a bu'n Athro ym Mhrifysgol Abertawe (ei ddinas enedigol) ac yn Claremont Graduate University, Califfornia. Ysgogwyd ei waith i raddau helaeth iawn gan syniadau gwreiddiol a chwyldroadol Ludwig Wittgenstein (1889-1951). Roedd dau gyfnod i yrfa Wittgenstein. Yn y cyfnod cyntaf, trafododd y cwestiwn, ‘Beth yw perthynas iaith a realiti?’ Daeth i’r casgliad fod iaith yn ystyrlon pan gyflawna un swyddogaeth yn unig, sef ‘darlunio’ realiti. Felly, nid yw’n bosibl mynegi dim ymhellach. Dengys y darlun mai darlun ydyw. Dyma yw ystyr ei osodiad, ‘Am yr hyn na ellir ei fynegi, bydded distawrwydd.’

Flynyddoedd yn ddiweddarach, ailgychwynnodd Wittgenstein athronyddu drwy gydnabod fod gwallau difrifol yn ei waith cynnar. Beirniadodd ei hunan yn hallt ac wrth wneud hynny, beirniadodd yr holl draddodiad athronyddol Gorllewinol o’r Groegiaid gynt hyd ei gyfnod ei hun. Yn ôl ei feirniadaeth ei hun, ei fai mawr yn y Tractatus yw’r bai y cyfeirir ato fel ‘hanfodaeth rhesymegol’, sef yr ymgais i ddiffinio’n derfynol hanfod realiti rhyw gysyniad neu’i gilydd. Mae hanes athroniaeth yn llawn ymdrechion i gynnig diffiniadau pendant, digyfnewid o gysyniadau megis ‘gwybodaeth’ a ‘gwirionedd’. Felly, yn ei weithiau diweddarach, argymhelliad Wittgenstein oedd i’r athronydd ymwrthod yn llwyr â phob cyfundrefn athronyddol. Yn hytrach, priod waith yr athronydd yw edrych yn fanwl ar sut mae iaith yn cael ei defnyddio yn yr amrywiol gyd-destunau lle y'i defnyddir hi. Dim ond wrth ddilyn y fethodoleg yma y gellir osgoi dryswch syniadol a chamddeall.

Dyma’r argymhelliad sylfaenol i’r cyfan a geir gan Dewi Z. Phillips yn ei drafodaeth o feirniadaeth lenyddol. Na fydded i’r un beirniad gael ei gaethiwo gan ei ragfarnau ei hun, boed y rheini’n seiliedig ar ryw ddiffiniad o hanfod sy’n rhesymol, neu o’r hyn sy’n foesol, neu wleidyddol, neu grefyddol. Yn hytrach, edryched yn fanwl ar gefndir diwylliannol y gwaith, a hynny heb ragdybio fod gan y cynnwys ryw sylwedd digyfnewid a fyddai’n cynrychioli hanfod cyfanrwydd y diwylliant hwnnw. Mewn geiriau syml, ni ddylid cymryd un darlun o ‘realiti’ (cymdeithasol, moesol, gwleidyddol, crefyddol ac ati) fel pe bai’n ddarlun hollgynhwysfawr ohono.

Walford Gealy

Llyfryddiaeth

Phillips, D. Z. (1981), Through a Darkening Glass (Notre Dame: University of Notre Dame Press).

Phillips, D. Z. (1982), Dramâu Gwenlyn Parry (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn).

Phillips, D. Z. (1985), Ffiniau (Tal-y-bont: Y Lolfa).

Wittgenstein, L. (1958), Philosophical Investigations, ail argraffiad (Oxford: Blackwell).

Wittgenstein, L. (1961), Tractatus Logico-Philosophicus (London: Routledge & Kegan Paul).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.