Pibgorn, Pibgod

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Organoleg ac Offerynnau)

Pibgorn

Offeryn gyda chorsen idioglot sengl yw’r pibgorn a chwaraewyd hyd at o leiaf ddiwedd y 18g. ym Môn, ac o bosibl hyd at y 19g. yn Sir Benfro. Cyfeirir ato’n hanesyddol fel cornicyll neu bib-corn. Yn 1824 cyfeiriodd y Gentleman’s Magazine and Historical Chronicle at gerdd gan William o Lorris a ysgrifennwyd yn wreiddiol yng nghanol y 13g. ac a soniai am y defnydd o’r cornbib (hornpipe) yng Nghernyw yn ystod yr Oesoedd Canol; nodir bod yr offeryn yn gyfarwydd i nifer y tu hwnt i Gernyw hefyd, gan gynnwys ‘yng Nghymru ... lle y’i hadwaenir yn ôl yr enw Pib-gorn’ (Cave a Nichols 1824, 412).

Ceir cyfeiriadau at offerynnau chwyth mewn ysgrifau Cymraeg o’r Oesoedd Canol ymlaen, ond y pibgorn oedd yr unig offeryn cwbl unigryw Gymreig i oroesi o’r cyfnod. Cofnodir ei bwysigrwydd yng Nghymru yng nghyfreithiau Hywel Dda (c.940–50), sy’n datgan y dylai pob pencerdd ddarparu diddanwch ar gyfer ei feistr ar y delyn, y crwth a’r pibgorn. Mae tystiolaeth eiconograffig o’r Oesoedd Canol hefyd yn awgrymu nad yng Nghymru’n unig y chwaraewyd yr offeryn. Mae ffenestr Beauchamp (1447) yn Eglwys y Santes Fair, Warwig, yn dangos angel yn chwarae cornbib tra mae angel arall yn dal offeryn sy’n edrych yn debyg i’r pibgorn Cymreig. Yn Sallwyr Beauchamp (1372) gwelir ffigwr o fugail y tu allan i furiau Caerfaddon yn chwarae’r hyn sy’n ymdebygu i gornbib. Mewn cerfiadau ar furiau Eglwys Sant Eilian, Llaneilian, Môn, sy’n dyddio’n ôl i’r 15g., gwelir angylion yn chwarae pibgodau gyda chyrn troellog tebyg i’r pibgorn.

Ceir ambell gyfeiriad mewn cerddi o’r 14g. ymlaen at ddefnydd o’r pibgorn a’r bibgod mewn dawnsfeydd, ynghyd ag offerynnau eraill, megis y delyn ( Kinney 2011, 24–5). Fodd bynnag, ni cheir cofnod ysgrifenedig o’r offeryn tan ail hanner y 18g. Mae cyfeiriadau o’r cyfnod hwn yn sôn am yr offeryn fel un bugeiliol a ddefnyddid yn ucheldiroedd Sir Feirionnydd, gogledd Sir Benfro ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru, lle âi gweision fferm, porthmyn a bugeiliaid â’r offeryn gyda nhw i farchnadoedd, ffeiriau ac achlysuron tebyg. Fodd bynnag, erbyn 1770 nodai’r hynafiaethwr Daines Barrington (1727–1800) mai ym Môn yn unig y clywid y pibgorn, a rhoddid gwobr flynyddol am ei chwarae. Mewn un digwyddiad o’r fath yn ystod y 18g. mae’n debyg fod dros 200 o offerynwyr wedi perfformio ar yr offeryn. Yn yr un modd, dywed Edward Jones yn ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards mai offeryn unigryw i fywyd gwledig ac amaethyddol Môn oedd y pibgorn erbyn hynny (Jones, 1794).

O ran gwneuthuriad, roedd y pibgorn wedi ei greu o diwben bren neu asgwrn (gallai fod un ai’n grwn neu’n sgwâr yn allanol), gyda chwe thwll ar gyfer y bysedd ac un ar gyfer y bawd. Wrth geg yr offeryn roedd cap bychan ar gyfer y gorsen wedi ei wneud o gorn anifail, a byddai gwaelod yr offeryn wedi ei wneud o ddarn arall troellog a mwy estynedig o gorn anifail, a hwnnw’n aml wedi ei dorri gydag ochrau miniog. Roedd y gorsen wedi ei chreu o diwb silindraidd o ysgawen, yn debyg i’r hyn a ddefnyddid mewn dawnsfeydd ar gyfer y pibgod; defnyddir corsen wytnach erbyn heddiw.

Mae’r pibgorn yn perthyn i deulu offerynnol sydd i’w ganfod yn aml ar draws Ewrop, Asia a Gogledd Affrica; fe’i cysylltir gyda’r alboka yng Ngwlad y Basg a’r stock and horn Albanaidd. Ceir cornbeipiau dwbl mawr yng Ngogledd Affrica yn ogystal. Nid oes offeryn tebyg wedi goroesi yn Iwerddon, er y credai F. W. Galpin y gallai rhan o asgwrn carw (a gedwir erbyn hyn yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon) fod yn diwben ar gyfer cornbib (Galpin, 1910).

O ran y pibgorn Cymreig, mae tri wedi goroesi ac i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, gyda phob un yn chwarae’r radd fwyaf gan ddechrau ar un ai traw C (C ‘ganol’ ar y piano) neu F pedwerydd yn uwch. Mae’r offerynnau’n amrywio rhwng 41 a 52 cm o ran hyd; nid yw’r corsennau gwreiddiol wedi goroesi. Er nad oes cofnod o unrhyw foddau neu dechnegau perfformio o’r cyfnod, mae darlun ar banel mawr yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, yn dangos dyn yn chwarae’r pibgorn gyda’i ddwy foch wedi ymchwyddo. Mae’r llun felly’n awgrymu’r posibilrwydd fod anadlu cylchol yn dechneg gyffredin ar yr offeryn; mae addasiadau diweddar o’r offeryn yn sicr yn eu cynnig eu hunain i’r modd yma o berfformio. Er diwedd yr 1970au mae Jonathan Shorland o Gaerdydd wedi cynllunio dros hanner cant ohonynt ac maent i’w clywed ar recordiau gan chwaraewyr megis Ceri Rhys Matthews o Saith Rhyfeddod, Antwn Owen Hicks o Carreg Lafar a Stephen Rees gyda’r grŵp Crasdant.

Pibgod

Mae’r cyfeiriad cyntaf at y bibgod (a elwir weithiau yn cotbib, pibau cŵd neu piba cwd) yn dyddio o’r 12g. Mae’n debyg fod pibyddion wedi cystadlu yn yr Eisteddfod gyntaf i’w chofnodi, a drefnwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176. Tua’r un cyfnod nododd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis; c.1146–1223) fod y Cymry’n chwarae’r delyn, y bibgod a’r crwth. Cyfeirir yn aml atynt ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol (sonia Iolo Goch, er enghraifft, am ‘chwibanogl a chod’, neu bib a bag) tra mae cerddi dychanol gan feirdd a oedd hefyd yn delynorion yn ddirmygus o bibyddion a’u hofferynnau.

Cyfansoddwyd nifer o alawon ar hyd y blynyddoedd gyda’r bibgod mewn golwg, alawon y mae eu teitlau’n amlygu’r bwriad i’w perfformio ar yr offeryn, megis ‘Erddigan y Pibydd Coch’ a ‘Conset y Peipar Coch’. Mae’r rhain yn dyddio o’r 17g. hyd at y 19g. Ceir cryn dystiolaeth eiconograffig o bibgodau a phibyddion yng Nghymru hefyd, yn amrywio o gerfluniau sy’n dyddio o’r 11g. o bibyddion, gan gynnwys cornbeipiau dwbl, i ddarluniau o bibyddion ar gefn ceffylau mewn seremonïau priodasol yn y 19g. Yn ôl disgrifiadau o arferion pibyddion erbyn y 19g. dyma oedd y cyd-destun mwyaf cyffredin ar gyfer pibgodau. Mae’n debyg mai ucheldir anial Bannau Brycheiniog oedd cadarnle olaf y bibgod, gydag enwau dau chwaraewr wedi goroesi o’r cyfnod, sef Evan Gethin ac Edward Gwern y Pebydd. Chwaraeai’r ddau mewn priodasau yng Nglyn-nedd oddeutu 1860, neu o bosibl ychydig yn ddiweddarach. Lleoliad arall tebygol oedd tref Caerfyrddin, lle clywid pibgodau yn fwyaf aml mewn priodasau mawreddog.

Ni oroesodd unrhyw bibgodau cynhenid Gymreig o’r cyfnod. Un ai fe wnaethant ddiflannu neu fe’u difrodwyd. Cafodd cannoedd ohonynt eu llosgi neu eu claddu yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth eiconograffig, disgrifiadau ysgrifenedig a’r gerddoriaeth sydd wedi goroesi mewn llawysgrifau yn gyson â’r math o fagbib a oedd yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Ewrop (e.e. Llydaw a Galicia), megis y gaita, y veuze a’r binou. Roedd gan rai offerynnau un drôn, rhai ddau ac eraill dri. Yn achos y ddau olaf roedd y dronau yn anghyfartal o ran hyd ac wedi eu tiwnio wythfed a phumed yn is na’r nodyn ar y chweched bys, er ei bod yn bosibl fod rhai dronau wedi eu tiwnio i’r pumed bys fel ag a geir yn Llydaw, yn arbennig wrth ystyried y repertoire cyffredin o alawon sy’n perthyn i’r traddodiadau hyn. Nid oes digon o dystiolaeth ynglŷn â gwneuthuriad mewnol y pibau eu hunain i wybod a oedd gorchwythu neu groesfyseddu yn bosibl. Mae gwneuthurwyr pibgodau cyfoes fel Jonathan Shorland yn creu pibau gyda gwahanol dyllfeddau ar gyfer defnydd gwahanol fel sy’n gyffredin ymysg gwneuthurwyr bagbibau ar y cyfandir.

Joan Rimmer, Wyn Thomas, Stephen Rees, Pwyll ap Siôn a Ceri Matthews

Llyfryddiaeth

  • D. Barrington, ‘Some Account of Two Musical Instruments used in Wales’, Archaeologia, iii (1775), 30–34
  • E. Jones, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (Llundain, 1794)
  • E. Cave a J. Nichols (gol.), Gentleman’s Magazine and Historical Chronicle (Llundain, 1824)
  • H. Balfour, ‘The Old British “Pibcorn” or “Hornpipe” and its Affinities’, Journal of the Anthropological Institute, xx (1890), 142–54
  • F. W. Galpin, Old English Instruments of Music (Llundain, 1910 [adolygwyd 1965 gan Thurston Dart])
  • M. S. Defus, ‘The Pibgorn’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 4/1 (1972–5), 5–10
  • J. Shoreland, ‘The Pibgorn’, Taplas, 17 (1986), 15
  • T. Schuurmans a D. R. Saer, ‘The Bagpipe’, Taplas, 21 (1987), 12–15
  • P. Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.