Pickard, John (g.1963)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:24, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr, arweinydd ac addysgwr a aned yn Burnley, Swydd Gaerhirfryn. Treuliodd flynyddoedd ei astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig a chyfnod cychwynnol ei yrfa ym Mangor. Yn ystod ei blentyndod yn Swydd Gaerhirfryn bu John Pickard yn cyfansoddi’n doreithiog ac yn chwarae ym mandiau pres traddodiadol y cylch.

Amlygodd ddiddordeb cynnar yng ngwaith cyfansoddwyr Seisnig megis Edmund Rubbra (1901-86), Havergal Brian (1876-1972) a Robert Simpson (1921-97), a dewisodd astudio ym Mhrifysgol Bangor er mwyn cael cyfarwyddyd mewn cyfansoddi gan William Mathias. Bu am gyfnod ar ôl graddio yn astudio yn Conservatoire yr Hâg yn yr Iseldiroedd gyda’r cyfansoddwr minimalaidd Louis Andriessen (g.1939), er na fu’n ddylanwad amlwg ar ei gerddoriaeth. Daeth yn ôl i Fangor i gwblhau PhD ac i ddarlithio am gyfnod yn yr adran gerdd.

Cafodd lwyddiant mawr yn 1991 pan berfformiwyd ei gathl symffonig The Flight of Icarus gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mewn erthygl ar y cyfansoddwr, defnyddiodd Guy Rickards y gair ‘dazzling’ i ddisgrifio’r gwaith (Rickards 1997, 2). Yn ddiweddarach cafodd The Flight of Icarus ei berfformio ar sawl cyfandir a hefyd yn y Proms yn Llundain. Perfformiwyd Channel Firing gan y Gerddorfa yng Ngŵyl Gerdd Gogledd Cymru yn 1993 a chomisiynwyd y Drydedd Symffoni gan y BBC yn 1995.

Symudodd Pickard o Gymru i Fryste yn 1993 fel darlithydd yn adran gerdd y Brifysgol yno lle mae bellach yn Athro. Ef yw prif olygydd yr Elgar Edition ac mae’n weithgar yn yr adran fel arweinydd cerddorfaol. Cyfansoddodd bump o bedwarawdau llinynnol a nifer o weithiau ar gyfer bandiau pres. Recordiwyd llawer o’i gyfansoddiadau ar label BIS o dan yr arweinydd Martyn Brabbins. Cyhoeddir ei weithiau gan Bardic Edition.

Geraint Lewis

Llyfryddiaeth

  • Guy Rickards, ‘Icarus Soaring: The Music of John Pickard’, Tempo, 201 (Gorffennaf, 1997), 2–5



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.