Plowman, Lynne (g.1969)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwraig a ffliwtydd a aned yn Dorking, Surrey. Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd gyda’r bwriad o astudio’r Ffliwt. Tra yno, derbyniodd wersi cyfansoddi oddi wrth Andrew Wilson-Dickson a Gary Carpenter. Ymgartrefodd yng Nghaerdydd gan rannu ei gyrfa rhwng perfformio a chyfansoddi. Daeth i sylw yn gyntaf pan dderbyniodd ei darn cerddorfaol Blue (1995) wobr cystadleuaeth cyfansoddwr ifanc Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Cafodd lwyddiant pellach pan berfformiodd Music Theatre Wales ei opera i blant, Gwyneth and the Green Dragon (2002), i libreto gan Martin Riley. Yn dilyn hyn comisiynodd y cwmni ail opera ganddi, House of the Gods (2005).

Mae ei harddull gerddorol - sydd yn cyfuno elfennau o’r idiom fodern, gyfoes gyda naws theatrig nwyfus - wedi dod â chryn sylw a chlod iddi. Mae’n aelod o staff adran gyfansoddi y Coleg Cerdd a Drama ac enillodd wobr Cymru Greadigol i astudio cyfansoddi a cherddoriaeth ymhellach gyda Syr Harrison Birtwistle (g.1934) yn Wiltshire.

Geraint Lewis



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.