Pope, Mal (g.1960)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Mal (Maldwyn) Pope ym Mrynhyfryd, yn Abertawe. Cafodd ei fagu mewn tŷ a oedd yn llawn cerddoriaeth, gyda’i fam yn bianydd a’i fam-gu yn chwarae’r piano a’r organ. Pan oedd yn fachgen mynychai’r Gospel Hall yn ardal Manselton o’r ddinas, lle’r oedd yr oedfaon yn cynnwys canu digyfeiliant.

Yn 1967 daeth ei frawd David â gitâr yn ôl o’i wyliau, a dechreuodd Mal Pope chwarae’r offeryn a gwrando ar gasgliad recordiau ei frawd. Roedd y casgliad yn cynnwys Cat Stevens, Simon & Garfunkel a Donovan. Ddwy flynedd yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu ei ganeuon ei hunan a hynny gyda chefnogaeth frwd un o’i athrawon, Peter Williams.

Anfonwyd un o ganeuon Mal Pope at John Peel, y troellwr disgiau ar Radio 1. Fe’i gwahoddwyd gan Peel i Lundain i recordio ar gyfer y rhaglen Sounds of the Seventies. Ymunodd Mal Pope â label newydd a oedd wedi’i sefydlu gan Elton John, sef y Rocket Record Company. Bu gyda’r label am dros chwe mlynedd. Cafodd gefnogaeth bersonol Elton John, a gynhyrchodd un o recordiau Pope yn absenoldeb Gus Dudgeon, y cynhyrchydd arferol.

Tra’r oedd Mal Pope yn astudio ym Mhrifysgol Caergrawnt ymadawodd â Rocket Records. Yn y cyfnod hwn ymunodd â chwmni Harvey Goldsmith, sef A.M.P, a dechrau cyd-gyfansoddi gyda cherddor a oedd o dan ofal yr un cwmni, sef Andy Piercy, prif leisydd y grŵp After the Fire. Aeth un gân o’u heiddo, sef ‘Der Kommissar’, i rif pump yn siartiau’r Unol Daleithiau. Cynlluniwyd record hir ynghyd â thaith o gwmpas y wlad. Fodd bynnag, oherwydd newidiadau yn y cwmni recordio, ni wireddwyd y bwriadau hyn. Siomwyd Pope i’r fath raddau fel y bu iddo adael y diwydiant a mynd i weithio fel ymchwilydd radio i’r BBC, cyn cael ei benodi’n gynhyrchydd ym maes rhaglenni cerddorol. Symudodd i weithio ym myd teledu ond gan fod ei ganeuon yn cael eu chwarae ar Radio 1 cynigiwyd cytundeb recordio iddo gan y cynhyrchydd o fri Larry Page a oedd wedi gweithio gyda’r Troggs a’r Kinks yn yr 1960au.

Am y pum mlynedd nesaf bu’n ymwneud â sawl prosiect gwahanol, gan gynnwys ffeinal Song for Europe, cynhyrchu rhaglenni Aled Jones a chanu’r prif ganeuon i’r cartwnau Sam Tân/Fireman Sam a Superted. Bu’n cyflwyno ac yn cynhyrchu rhaglenni teledu, o rai arbennig am y Pasg i’r gyfres The Mal Pope Show lle ymddangosodd gwesteion megis Cliff Richard, The Bee Gees a John Cale. Enillodd y gyfres sawl gwobr gan gynnwys BAFTA Cymru. Cyfansoddodd Pope sioe gerdd y Copper Kingdom fel rhan o Flwyddyn Llenyddiaeth 1995 yn Abertawe a dilynwyd honno gan y sioe gerdd Amazing Grace.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • ‘I Don’t Know How To Say Goodbye’ [sengl] (The Rocket Record Company PIG6, 1974)
  • ‘When You’re Away’ [sengl] (The Rocket Record Company ROKN505, 1976)
  • ‘If I Wasn’t There’ [sengl] (The Rocket Record Company ROKN529, 1977)
  • Reunion Of The Heart (Kingsway Music KMCD2074, 1998)
  • Dream Out Loud (OTR Records OTRCD5012, 2003)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.