Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pragmatiaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ Cysylltir pragmatiaeth yn bennaf gydag ysgol o athronyddu yr esgorwyd arni yn yr Unol Daleithiau yn y 19g., ac a gysylltir gyda ffigyrau m...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__
Cysylltir pragmatiaeth yn bennaf gydag ysgol o athronyddu yr esgorwyd arni yn yr Unol Daleithiau yn y 19g., ac a gysylltir gyda ffigyrau megis Williams James, Charles Sanders Peirce ac yn ddiweddarach, John Dewey.  Cnewyllyn yr athroniaeth hon yw’r gred nad oes ystyr i ddamcaniaeth oni wireddir y syniad hwnnw, a bod gwerth a moesoldeb damcaniaeth yn ymwneud â’u canlyniadau, ac yn arbennig â gallu’r syniad hwnnw i ddatrys problem neu wella sefyllfa.  Y tu ol i’r safbwynt hwn ceir agwedd sy’n gwrthod yr awgrym fod modd cynnig cyfrif gwrthrychol a ‘gwir’ o gredoau a gwerthoedd moesol yn yr ystyr traddodiadol, a bod gwirionedd, os yw’n bodoli o gwbl, yn ymwneud â’r hyn sy’n gweithio neu sy’n dderbyniadwy gan bobl.   
+
Cysylltir pragmatiaeth yn bennaf gydag ysgol o athronyddu yr esgorwyd arni yn yr Unol Daleithiau yn y 19g., ac a gysylltir gyda ffigyrau megis Williams James, Charles Sanders Peirce ac yn ddiweddarach, John Dewey.  Cnewyllyn yr athroniaeth hon yw’r gred nad oes ystyr i ddamcaniaeth oni wireddir y syniad hwnnw, a bod gwerth a moesoldeb damcaniaeth yn ymwneud â’u canlyniadau, ac yn arbennig â gallu’r syniad hwnnw i ddatrys problem neu wella sefyllfa.  Y tu ôl i’r safbwynt hwn ceir agwedd sy’n gwrthod yr awgrym fod modd cynnig cyfrif gwrthrychol a ‘gwir’ o gredoau a gwerthoedd moesol yn yr ystyr traddodiadol, a bod gwirionedd, os yw’n bodoli o gwbl, yn ymwneud â’r hyn sy’n gweithio neu sy’n dderbyniadwy gan bobl.   
  
Ym maes llenyddiaeth y mae’r safbwynt pragmataidd yn ymwneud â’r un gred ym mhwysigrwydd effeithiau a chanlyniadau ymarferol.  Hynny yw, ystyrir a beirniedir testun o safbwynt ei effeithiau ar y darllenydd.  Yn hynny o beth, mae modd olrhain y safbwynt yma i Platon a’i feirniadaeth o farddoniaeth, yn seiliedig ar y gred bod yr elfen o efelychu sydd ynghlwm â’r gelfyddyd yn ein tywys ymhellach o’r gwirionedd. Yn yr oes fodern, Philip Sidney a gysylltir gyda datblygiad yr ysgol hon o feirniadaeth lenyddol, gyda’i gred mai er mwyn yr effeithiau ar y darllenydd y saernir barddoniaeth, ac y dylai’r bardd anelu at addysgu a gwironi.   
 
Yn y traddodiad athronyddol collodd Pragmatiaeth ei ddylanwad ar ôl gwaith John Dewey, ond tua diwedd yr 20g. fe ddaeth ffigyrau meis Cornell West a Richard Rorty i gofleidio’r agwedd yn eu gwaith.  Fe’u hadnabyddir fel neo-bragmatwyr, ac o safbwynt llenyddol, Rorty yw un o’r ffigyrau mwyaf diddorol, oherwydd y modd y mae’n cysylltu llenyddiaeth  ‒ a’r broses o ddarllen ‒ gyda’i athroniaeth foesol a gwleidyddol ehangach.  Iddo ef, yn hytrach na phwysleisio syniadau haniaethol megis hawliau, mae’n bwysicach ein bod ni’n ehangu ein gorwelion a phersonoliaeth foesol trwy ddarllen a dod i ddeall a chydymdeimlo gydag eraill, rhag sathru ar eu bywydau a’u credoau.   
+
Yn y traddodiad athronyddol collodd Pragmatiaeth ei dylanwad ar ôl gwaith John Dewey, ond tua diwedd yr 20g. fe ddaeth ffigyrau megis Cornell West a Richard Rorty i gofleidio’r agwedd yn eu gwaith.  Fe’u hadnabyddir fel neo-bragmatwyr, ac o safbwynt llenyddol, Rorty yw un o’r ffigyrau mwyaf diddorol, oherwydd y modd y mae’n cysylltu llenyddiaeth  ‒ a’r broses o ddarllen ‒ gyda’i athroniaeth foesol a gwleidyddol ehangach.  Iddo ef, yn hytrach na phwysleisio syniadau haniaethol megis hawliau, mae’n bwysicach ein bod ni’n ehangu ein gorwelion a phersonoliaeth foesol trwy ddarllen a dod i ddeall a chydymdeimlo gydag eraill, rhag sathru ar eu bywydau a’u credoau.   
  
'''Huw Williams'''
 
'''Huw Williams'''

Y diwygiad cyfredol, am 15:14, 23 Rhagfyr 2016

Cysylltir pragmatiaeth yn bennaf gydag ysgol o athronyddu yr esgorwyd arni yn yr Unol Daleithiau yn y 19g., ac a gysylltir gyda ffigyrau megis Williams James, Charles Sanders Peirce ac yn ddiweddarach, John Dewey. Cnewyllyn yr athroniaeth hon yw’r gred nad oes ystyr i ddamcaniaeth oni wireddir y syniad hwnnw, a bod gwerth a moesoldeb damcaniaeth yn ymwneud â’u canlyniadau, ac yn arbennig â gallu’r syniad hwnnw i ddatrys problem neu wella sefyllfa. Y tu ôl i’r safbwynt hwn ceir agwedd sy’n gwrthod yr awgrym fod modd cynnig cyfrif gwrthrychol a ‘gwir’ o gredoau a gwerthoedd moesol yn yr ystyr traddodiadol, a bod gwirionedd, os yw’n bodoli o gwbl, yn ymwneud â’r hyn sy’n gweithio neu sy’n dderbyniadwy gan bobl.

Ym maes llenyddiaeth y mae’r safbwynt pragmataidd yn ymwneud â’r un gred ym mhwysigrwydd effeithiau a chanlyniadau ymarferol. Hynny yw, ystyrir a beirniedir testun o safbwynt ei effeithiau ar y darllenydd. Yn hynny o beth, mae modd olrhain y safbwynt yma i Platon a’i feirniadaeth o farddoniaeth, yn seiliedig ar y gred bod yr elfen o efelychu sydd ynghlwm â’r gelfyddyd yn ein tywys ymhellach o’r gwirionedd. Yn yr oes fodern, Philip Sidney a gysylltir gyda datblygiad yr ysgol hon o feirniadaeth lenyddol, gyda’i gred mai er mwyn yr effeithiau ar y darllenydd y saernir barddoniaeth, ac y dylai’r bardd anelu at addysgu a gwironi.

Yn y traddodiad athronyddol collodd Pragmatiaeth ei dylanwad ar ôl gwaith John Dewey, ond tua diwedd yr 20g. fe ddaeth ffigyrau megis Cornell West a Richard Rorty i gofleidio’r agwedd yn eu gwaith. Fe’u hadnabyddir fel neo-bragmatwyr, ac o safbwynt llenyddol, Rorty yw un o’r ffigyrau mwyaf diddorol, oherwydd y modd y mae’n cysylltu llenyddiaeth ‒ a’r broses o ddarllen ‒ gyda’i athroniaeth foesol a gwleidyddol ehangach. Iddo ef, yn hytrach na phwysleisio syniadau haniaethol megis hawliau, mae’n bwysicach ein bod ni’n ehangu ein gorwelion a phersonoliaeth foesol trwy ddarllen a dod i ddeall a chydymdeimlo gydag eraill, rhag sathru ar eu bywydau a’u credoau.

Huw Williams

Llyfryddiaeth

Rorty, R. (1989), Contingency, Irony and Solidarity (Cambridge: Cambridge University Press).

Sidney, P. (2002), An Apology for Poetry (or Defence of Poesy), ail argraffiad (Manchester: Manchester University Press).

Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.