Pregeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:07, 14 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio


Araith (o’r Lladin praeceptum), yn seiliedig ar ddarn o’r Ysgrythur, sy’n esbonio’r darn hwnnw yng ngoleuni’r efengyl Gristnogol, ac yn ei gymhwyso i fywyd y gwrandäwr. Er y byddai proffwydi’r Hen Destament yn cymell pobl i fod yn ffyddlon i Dduw ac ymagweddu’n deilwng o’i gyfamod, yng nghyfnod y Gaethglud i Fabilon yn y 6g. cyn Crist, wedi i gyfundrefn addoli’r deml ddod i ben, y datblygwyd y cysyniad o’r bregeth fel y cyfryw. Ynddi yr esbonnid cynnwys y Torah neu’r Ddeddf yng nghyd-destun addoli’r synagog. Ceir darlun byw o’r peth yn yr hanes am Iesu’n pregethu yn y synagog yn Nasareth, Luc 4:16-21. Byrdwn y pregethu Cristnogol cyntaf oedd yr haeriad fod Crist, trwy ei farw a’i atgyfodiad, wedi cyflawni proffwydoliaethau’r Hen Destament a thrwy hynny gael ei ystyried yn Feseia. Byddai’r neges yn cael ei thraddodi yn yr awyr agored, fel yn hanes Pedr ar Ddydd y Pentecost (Actau 2), neu yn y synagogau (e.e. Actau 9:20-2). Tameidiog yw’n gwybodaeth am ddatblygiad y bregeth yn yr 2g. ond gydag Aurelius Ambrosius neu Sant Emrys (c. 340-397), esgob Milan, ac Ioan Chrysostom (c. 349-407), archesgob Caergystennin, y cyrhaeddodd crefft pregethu, a’r bregeth, eu penllanw cynnar. Yn fwy helaeth na’r homili ac yn fwy athrawiaethol ei chynnwys, roedd i’r bregeth ragymadrodd a chymhwysiad.

Ychydig a wyddom am y pregethau boreaf yng Nghymru. Er i Gildas ddyfynnu llawer o’r Hen Destament yn De Excidio Britanniae (c. 540) ac i’r cynharaf o fucheddau’r saint sef Vita Samsonis (‘Buchedd Samson’) ddisgrifio gweithgareddau’r cymunedau mynachaidd, nid yw’r naill na’r llall yn cyfeirio at bregethu fel y cyfryw. Er bod Buchedd Dewi gan Rigyfarch (1056-99) yn cyfeirio at y sant yn traethu yn synod Brefi, mae’n anodd tynnu unrhyw gasgliadau oddi wrthi am natur, ansawdd na chynnwys pregethau yn Oes y Saint. Erbyn y cyfnod canol mae’r dystiolaeth yn cynyddu ond nid yn helaeth iawn. Gellid tybio fod y diwygiad eglwysig a darddodd o’r Pedwerydd Cyngor Lateran (1215), ynghyd â dyfodiad yr urddau pregethwrol sef y Dominiciaid (y Brodyr Duon) a’r Ffransisgiaid (y Brodyr Llwydion) i Gymru, adfywio pregethu yn y llannau, tra gwyddom fod Cymry megis Johannes Wallensis, Rhosier o Gonwy a Thomas Wallensis wedi ennill enwogrwydd ar dir mawr Ewrop yn y 13g. fel arbenigwyr yn ars praedicandi (‘celfyddyd pregethu’). Cymhellwyd Thomas Wallensis, awdur y traethawd De modo componendi sermonis (‘Dull cyfansoddi pregethau’), i ddychwelyd o Baris i fod yn archddiacon Lincoln cyn ei benodi’n esgob Dewi yn 1248. Awgryma’r ffaith fod exemplae Odo o Cheriton (sef casgliad o foeswersi at ddefnydd pregethwyr) ar gael yn Gymraeg erbyn dechrau’r 15g. mai moesol yn hytrach nac ysgrythurol neu athrawiaethol oedd natur y bregeth Gymraeg erbyn hynny.

Gyda’r Diwygiad Protestannaidd rhoddwyd bri newydd ar y bregeth athrawiaethol, gydag esgobion fel Richard Davies (?1510-81) a William Morgan (?1541-1604), a Phiwritaniaid cynnar fel John Penry (1563-93), yn uno yn y galw i ddiwygio’r eglwys yn ôl cyfarwyddyd Gair Duw. Roedd y bregeth Biwritanaidd ac eiddo Anglicaniaid fel Rhys Prichard (?1569-1644), ficer Llanymddyfri, yn debyg iawn i’w gilydd wrth bwysleisio’r angen i’r gwrandäwr ymateb i’r neges efengylaidd mewn edifeirwch dwys, ffydd ddilys ac adnewyddiad buchedd trwyadl, a hyn a fu nodwedd y pulpud Cymraeg ar hyd yr 18g. Cafwyd parhad yn sgil y Diwygiad Efengylaidd, ac ystyrir Daniel Rowland (?1711-90), curad Llangeitho, yn brif areithydd y Diwygiad hwnnw. Y 19g., fodd bynnag, oedd ‘oes aur’ y bregeth Gymraeg. Gyda thoreth o bregethwyr o allu anghyffredin fel John Elias (1744-1841), Henry Rees (1798-1869), Edward Matthews (1812-92) a Thomas Charles Edwards (1837-1900), traddodwyd a gwrandawyd myrddiynau o bregethau a chyhoeddwyd miloedd ohonynt, oll yn ffrwyth diwylliant ffyniannus, Gair-ganolog y Gymru Ymneilltuol.

Ar un wedd, felly, y bregeth yw ffurf lenyddol fwyaf cyfarwydd y Cymry ar hyd y canrifoedd. (Nid yw’n gyd-ddigwyddiad mai ar ffurf pregethau y lluniodd yr athronydd J. R. Jones ei fyfyrdodau olaf yn Ac Onide (1970)). Mewn cyfnod mwy seciwlar, fodd bynnag, y gamp yw dirnad ehangder ei heffaith a chyfaredd ei hapêl.

D. Densil Morgan

Llyfryddiaeth

Brilioth, Y. (1965), A Brief History of Preaching (Philadelphia: Fortress Press).

Davies, A. T. (1957), Pregethu a Phregethau’r Eglwys (Llandybie: Llyfrau’r Dryw).

Morgan, D. D. (2012), ‘Preaching in the vernacular: the Welsh sermon, 1689-1901’, yn Gibson, W. a Morgan-Guy, J. (goln), The Oxford Handbook of the Sermon (Oxford: Oxford University Press), tt. 199-214.

Thomas, O. (1874), Cofiant y Parchedig John Jones, Tal-sarn, mewn cysylltiad â Hanes Duwinyddiaeth a Phregethu Cymru (Wrecsam: Hughes a’i Fab).

Thomas, V. (1951), ‘Pregethau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o safbwynt eu gwerth llenyddol’ (traethawd MA, Prifysgol Cymru Abertawe).

Williams, I. (1926), Chwedlau Odo (Wrecsam: Hughes a’i Fab).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.