Prifardd

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Prifardd yw’r teitl swyddogol a roir i fardd sydd wedi ennill un ai’r Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyna’r unig ystyr a roir i’r gair bellach, ond mae ‘prifardd’, neu ‘prif fardd’, yn perthyn i gyfnodau cynharach o lawer na’r 20g. Disgrifir Dafydd ab Owain o Wynedd fel ‘Ardduniant [anrhydedd] prif-feirdd’ gan Lywarch ap Llywelyn (c. 1150-1260), a cheir epithed tebyg yn yr un gerdd, sef ‘teÿrnfardd’. Ystyr prifardd yn y cyfnod hwnnw oedd bardd o statws, pen-bardd. Yn llac y defnyddiwyd y term. Fe’i defnyddiwyd gan Goronwy Owen yn y 18g., ‘Ceir profi cwrw y prifardd’, yng Nghywydd y Gwahodd. Heddiw mae iddo un ystyr yn unig, sef enillydd y Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.