Prys, Edmwnd (1542/3-1623)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Offeiriad a bardd. Fe’i cofir yn bennaf am ei gyfieithiadau i’r Gymraeg o’r Salmau Cân. Ganed yn Llanrwst yn 1542 neu 1543. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgol ramadeg esgobaeth Llanelwy. Yn 1565 aeth yn efrydydd i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle bu’n gyd-fyfyriwr gyda William Morgan. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn eglwys Conington, Sir Gaint yn 1567. Graddiodd gyda BA yn 1568 ac MA yn 1571. Fe’i hurddwyd yn offeiriad Ffestiniog a Maentwrog yn 1573. Yn 1576 daeth yn rheithor yn Llwydlo, Sir Amwythig, ac yna’n archddiacon Meirionnydd yn 1576. Yn 1580 rhoddwyd bywoliaeth ychwanegol iddo yn Llanenddwyn, tua wyth milltir o Faentwrog i gyfeiriad Abermaw. Fe’i gwnaed yn un o ganoniaid Llanelwy yn 1602.

Ychydig o ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Bu’n cynorthwyo’r esgob William Morgan gyda’r gwaith o gyfieithu’r Beibl. Ysgrifennodd Prys lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth, ac hefyd rai darnau yn y mesur rhydd. Bu’n ymryson gyda rhai o feirdd cyfoes y cyfnod. Ceir gan Prys hefyd rai cywyddau ar destunau crefyddol. Dichon mai propaganda yw’r rhain dros y grefydd Brotestannaidd newydd. Ond yn y cywyddau sy’n cynnwys ei sylwadaeth ar fywyd y gwelir ei farddoniaeth orau, yn arbennig ei gywydd ‘yn erbyn anllywodraeth y cedyrn.’

Fodd bynnag, fe’i cofir yn bennaf am iddo gyfieithu’r Salmau Cân i’r Gymraeg ar gyfer canu cynulleidfaol, er nad oes sicrwydd pendant mai ef ei hun a gwblhaodd y gwaith. Cyhoeddwyd argraffiad cyntaf Llyfr y Salmau - y Sallwyr mydryddol printiedig cynharaf yn y Gymraeg - yn Llundain yn 1621. Cyhoeddwyd o leiaf 19 o argraffiadau wedi hyn. Er fod eraill (megis Sternhold a Hopkins) wedi gwneud yr un gwaith yn Lloegr, ac eraill yng Nghymru, llwyddodd Prys i greu salmau ar fesur mwy canadwy na’r gweddill, ac yn ei lyfr cynhwysodd hefyd rai tonau, gan ei wneud y llyfr cyntaf yn y Gymraeg i’w gyhoeddi gyda cherddoriaeth.

Mae dwy o’r deuddeg salmdon fonoffonig a geir yno yn unigryw i’r cyhoeddiad, ac yma y gwelodd dwy arall ohonynt olau dydd am y tro cyntaf. Bu i rai o’r alawon (megis ‘St Mary’) barhau yn boblogaidd hyd heddiw, ac fe gyfieithwyd fersiwn Prys o Salm 23 i’r iaith Saesneg, sef yr emyn poblogaidd ‘The King of Love My Shepherd Is’. (Am archwiliad llawn, a thrawsgrifiad o’r alawon, gw. Harper 2003, 221-67.)

Sally Harper

Llyfryddiaeth

  • Sally Harper, ‘Tunes for a Welsh Psalter: Edmwnd Prys’s Llyfr y Psalmau’, Studia Celtica, 37 (2003), 221–67
  • Adrian Morgan, ‘Astudiaeth o Salmau Cân (1621) Edmwnd Prys’ (traethawd PhD Prifysgol Aberystwyth, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.