Puw, Guto (g.1971)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Un o gyfansoddwyr mwyaf nodedig ei genhedlaeth yng Nghymru ym maes cerddoriaeth gelfyddydol. Daw Guto Puw o’r Parc ger y Bala ac mae’n perthyn i deulu cerddorol gyda’i dad, Dan Puw, yn adnabyddus fel hyfforddwr a beirniad cerdd dant ac alawon gwerin.

O Ysgol y Berwyn aeth Guto i Brifysgol Bangor lle astudiodd o dan John Pickard, Andrew Lewis a Pwyll ap Siôn gan ennill PhD mewn cyfansoddi yn 2002. Cafodd ei benodi’n ddarlithydd yn adran gerdd Bangor yn 2004. Yn 2000 sefydlodd Ŵyl Gerdd Newydd Bangor, sydd wedi datblygu’n un o brif ddigwyddiadau’r ardal ac sy’n rhoi cryn sylw i gerddoriaeth electronaidd ac arbrofol.

Yn 1995 daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru; fe enillodd yr wobr hon eto yn y Bala yn 1997. Yn sgil hyn daeth amryw o gomisiynau i’w ran gan wyliau cerdd megis rhai Bro Morgannwg, Gogledd Cymru, Caerfaddon a Huddersfield.

Yn dilyn llwyddiant Reservoirs (2002) - darn cerddorfaol pwerus a ysbrydolwyd gan gerdd enwog R. S. Thomas - cafodd gyfle gwych i ddatblygu’r grefft o ysgrifennu ar gyfer cerddorfa drwy gael ei ddewis yn gyfansoddwr preswyl cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC rhwng 2006 a 2010. Un o uchafbwyntiau’r cyfnod oedd cyfansoddi darn newydd i’r Proms yn Llundain yn 2007, lle perfformiwyd ‘... onyt agoraf y drws ...’ yn Neuadd Frenhinol Albert, gwaith sy’n gwneud defnydd effeithiol o ofod arbennig y neuadd. Ymddangosodd cryno-ddisg o’i waith yn 2014 a oedd yn ffrwyth ei gyfnod o weithio gyda’r BBC.

Yn 2007 enillodd darllediad o’i Gonsierto ar gyfer Obo a Cherddorfa (2006) wobr gwrandawyr Radio 3, ac yn 2009 derbyniodd wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’i galluogodd i weithio ar opera ar gyfer Music Theatre Wales yn seiliedig ar ddrama Gwenlyn Parry Y Tŵr, a hynny i libreto gan Gwyneth Glyn. Cafodd yr opera ei pherfformio am y tro cyntaf yn 2017 i adolygiadau ffafriol.

Geraint Lewis

Disgyddiaeth

  • Reservoirs: Gweithiau Cerddorfaol gan Guto Puw (Signum SIGCD378, 2014)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.