Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Realaeth"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
Llinell 4: Llinell 4:
 
Mae ymwneud â realiti bywyd yn rhan hanfodol o’r cysyniad o gelfyddyd. Ni ellid honni fod gweithiau celfyddydol y byd hynafol, fel ''Odyssey'' Homer, yn adlewyrchu realiti bywyd, heb sôn am weithiau mawrion yr oesoedd canol, fel ''La Divina Comedia'' Dante. Yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg, cawn enghreifftiau digonol o ffresni profiad yng ngherddi Dafydd ap Gwilym ac o hylltra drygioni yng ngweledigaethau’r Bardd Cwsc. Sut bynnag, y gwahaniaeth rhwng celfyddyd y byd hynafol a’r oesoedd canol ar y naill law a chelfyddyd y byd modern ar y llall yw’r argyhoeddiad a gynyddai o ganol y 18g. bod gwirionedd i’w ddarganfod yn y  profiad dynol ac mai celfyddyd yw’r cyfrwng i’w gyrraedd. Realaeth yw un o’r geiriau sy’n disgrifio’r modd o gyrraedd yr amcan hwnnw, rhywbeth sy’n perthyn i’r byd modern yn unig.
 
Deillia Realaeth, fel cysyniad yn ei ffurf bresennol, o ail ddegawd y 19g., pan y’i mabwysiadwyd i ddisgrifio llenyddiaeth a gyflwynai ddarlun gwir o fywyd cyfoes, gan osgoi goddrychedd eithafol Rhamantiaeth a’r Ddelfrydiaeth a gysylltwyd â chonfensiynau bywyd bwrgeisaidd. Yn y degawdau canlynol, yn Ffrainc ac wedyn yn Lloegr, ymddangosodd nifer o awduron a  symbylwyd gan yr un awydd i ymestyn at y gwirionedd drwy gyfrwng portread ffyddlon, diffuant o’r byd o’u cwmpas. Y cyntaf o’r rhain oedd y Ffrancwr, Stendhal, ac fe’i dilynwyd gan Honoré de Balzac a Gustave Flaubert ac yn Lloegr gan Charles Dickens, William Makepeace Thackeray a George Elliot. Eto i gyd, ystyrir gan lawer mai’r nofelydd Rwsieg, Leo Tolstoi, awdur ''Rhyfel a Heddwch'' oedd yr awdur realaidd mwyaf.
+
Deillia Realaeth, fel cysyniad yn ei ffurf bresennol, o ail ddegawd y 19g., pan y’i mabwysiadwyd i ddisgrifio llenyddiaeth a gyflwynai ddarlun gwir o fywyd cyfoes, gan osgoi goddrychedd eithafol Rhamantiaeth a’r Ddelfrydiaeth a gysylltwyd â chonfensiynau bywyd bwrgeisaidd. Yn y degawdau canlynol, yn Ffrainc ac wedyn yn Lloegr, ymddangosodd nifer o awduron a  symbylwyd gan yr un awydd i ymestyn at y gwirionedd drwy gyfrwng portread ffyddlon, diffuant o’r byd o’u cwmpas. Y cyntaf o’r rhain oedd y Ffrancwr, Stendhal, ac fe’i dilynwyd gan Honoré de Balzac a Gustave Flaubert ac yn Lloegr gan Charles Dickens, William Makepeace Thackeray a George Elliot. Eto i gyd, ystyrir gan lawer mai’r nofelydd Rwsieg, Leo Tolstoi, awdur ''Rhyfel a Heddwch'', oedd yr awdur realaidd mwyaf.
  
Er ei fod i raddau’n adwaith yn erbyn goddrychedd Rhamantiaeth, y mae’n bwysig cydnabod bod llawer o brif elfennau Rhamantiaeth yn parhau yng ngwaith Realwyr y 19g. Y gwir yw bod y ddau fudiad celfyddydol hyn yn agweddau gwahanol ar yr un chwyldro cymdeithasol a symbylodd ddatblygiad diwylliant bwrgeisaidd yng nghanol y ganrif honno. Cydnabu’r beirniad Eric Auerbach ddwy brif elfen wreiddiol yn nofelau Stendhal: triniaeth ddifrifol o brofiad pobl gyffredin, yn cynnwys eu profiad goddrychol; a dadansoddiad o hanes cyfredol cymdeithas trwy gyfrwng y profiad hwnnw. Y tu ôl i’r ymdrech i ddatblygu a chydbwyso’r ddwy elfen hon sy’n gyffredin yng ngwaith yr awduron ‘Realaidd’ i gyd gwelir  prif symbyliad awduron Rhamantaidd yr oes o’r blaen, sef yr ysfa i ddefnyddio celfyddyd i ymestyn at ddealltwriaeth o unoliaeth bywyd.
 
Llinell 14: Llinell 14:
 
Yn ogystal â llenyddiaeth, bu’r cysyniad o Realaeth yn bwysig mewn Arluniaeth yn negawdau canol y 19g. Yn Ffrainc, er enghraifft, yng ngwaith arlunwyr fel Camille Corot, Jean-François Millet ac, yn anad neb, Gustave Courbet, gwelwyd tuedd i ddewis pynciau sy’n cynnwys cymeriadau o ddosbarthiadau cyffredin a’u lleoli mewn cyd-destunau cyfoes. Yn Lloegr hefyd ceir rhai o briodoleddau Realaeth yng ngwaith yr arlunwyr a elwid yn ''Pre-Raphaelites'', sef Dante Gabriel Rossetti, Holman Hunt a John Everett Millais. Mae eu gwaith yn portreadu’n fanwl cyd-destunau naturiol a chymdeithasol. Y darlun y cyfeirir ato’n fwyaf aml yn y cyd-destun hwn yw ''Gwaith'' Ford Madox Brown, a gyfansoddwyd dros ddeuddeng mlynedd, rhwng 1852 ac 1865.
 
Erbyn diwedd y 19g., gwelir sawl mudiad celfyddydol newydd yn ymddangos sy’n gwrthryfela yn erbyn prif athrawiaethau realaeth. Ym myd y ddrama ceir Mynegiadaeth sy’n ymwrthod â’r cysyniad mai adlewyrchu amodau’r byd cymdeithasol yw swyddogaeth celfyddyd. O ran arluniaeth a cherddoriaeth, ceir Argraffiadaeth a Symbolaeth ac mewn llenyddiaeth farddoniaeth symbolaidd awduron fel Stéphan Mallarmé a Paul Valéry, ynghyd â nofelau mwyaf y mudiad modernaidd, gan gynnwys gweithiau James Joyce a Marcel Proust sy’n gwyrdroi’r cysyniad bod unrhyw gytgord yn bosibl rhwng y gwirionedd a geir drwy gyfrwng celfyddyd a strwythurau bywyd cymdeithasol.
+
Erbyn diwedd y 19g., gwelir sawl mudiad celfyddydol newydd yn ymddangos sy’n gwrthryfela yn erbyn prif athrawiaethau Realaeth. Ym myd y ddrama ceir Mynegiadaeth sy’n ymwrthod â’r cysyniad mai adlewyrchu amodau’r byd cymdeithasol yw swyddogaeth celfyddyd. O ran arluniaeth a cherddoriaeth, ceir Argraffiadaeth a Symbolaeth ac mewn llenyddiaeth farddoniaeth symbolaidd awduron fel Stéphan Mallarmé a Paul Valéry, ynghyd â nofelau mwyaf y mudiad modernaidd, gan gynnwys gweithiau James Joyce a Marcel Proust sy’n gwyrdroi’r cysyniad bod unrhyw gytgord yn bosibl rhwng y gwirionedd a geir drwy gyfrwng celfyddyd a strwythurau bywyd cymdeithasol.
  
Nid yw dweud hynny’n awgrymu bod ffydd yr artist yng ngallu celfyddyd i’w ganiatáu i fynd i’r afael â realiti’n llai ar ddiwedd y 19g.  nag yr oedd ar y dechrau, er bod seiliau athronyddol a chymdeithasol Realaeth wedi darfod yn llwyr. Y mae cred yr artist bod celfyddyd yn gyfrwng i gyrraedd yr unig wirionedd sydd ar gael i ni ar y ddaear mor gryf ag y bu mewn unrhyw gyfnod ers diwedd y 18g.   
+
Nid yw dweud hynny’n awgrymu bod ffydd yr artist yng ngallu celfyddyd i’w ganiatáu i fynd i’r afael â realiti’n llai ar ddiwedd y 19g.  nag yr oedd ar y dechrau, er bod seiliau athronyddol a chymdeithasol Realaeth wedi darfod yn llwyr. Y mae cred yr artist bod celfyddyd yn gyfrwng i gyrraedd yr unig wirionedd sydd ar gael ar y ddaear mor gryf ag y bu mewn unrhyw gyfnod ers diwedd y 18g.   
 
'''Ioan Williams'''
 
'''Ioan Williams'''

Diwygiad 17:30, 24 Rhagfyr 2016

Term yw Realaeth a ddefnyddir er mwyn disgrifio gwaith llenyddol sy’n cyflwyno darlun cyflawn, manwl a chywir o fywyd fel y mae’n ymddangos i bobl yn eu bywyd beunyddiol. Ymddengys hynny yn weddol glir a syml, ond aiff y cysyniad yn fwy niwlog a chymhleth pan fydd pobl yn dechrau anghytuno ynglŷn â natur y real a bortreadir. Ai bywyd fel y mae’n ymddangos i ddynion o ddydd i ddydd yw’r real? Onid yw gwir ‘realiti’ bywyd dynol yn gorwedd islaw wyneb ein profiad ystrydebol, ac islaw ymddangosiadau twyllodrus y confensiynau cymdeithasol? Pan ofynnir y cwestiynau hyn y mae’r cysyniad o realaeth yn dechrau ymddatod.

Mae ymwneud â realiti bywyd yn rhan hanfodol o’r cysyniad o gelfyddyd. Ni ellid honni fod gweithiau celfyddydol y byd hynafol, fel Odyssey Homer, yn adlewyrchu realiti bywyd, heb sôn am weithiau mawrion yr oesoedd canol, fel La Divina Comedia Dante. Yng nghyd-destun llenyddiaeth Gymraeg, cawn enghreifftiau digonol o ffresni profiad yng ngherddi Dafydd ap Gwilym ac o hylltra drygioni yng ngweledigaethau’r Bardd Cwsc. Sut bynnag, y gwahaniaeth rhwng celfyddyd y byd hynafol a’r oesoedd canol ar y naill law a chelfyddyd y byd modern ar y llall yw’r argyhoeddiad a gynyddai o ganol y 18g. bod gwirionedd i’w ddarganfod yn y profiad dynol ac mai celfyddyd yw’r cyfrwng i’w gyrraedd. Realaeth yw un o’r geiriau sy’n disgrifio’r modd o gyrraedd yr amcan hwnnw, rhywbeth sy’n perthyn i’r byd modern yn unig.

Deillia Realaeth, fel cysyniad yn ei ffurf bresennol, o ail ddegawd y 19g., pan y’i mabwysiadwyd i ddisgrifio llenyddiaeth a gyflwynai ddarlun gwir o fywyd cyfoes, gan osgoi goddrychedd eithafol Rhamantiaeth a’r Ddelfrydiaeth a gysylltwyd â chonfensiynau bywyd bwrgeisaidd. Yn y degawdau canlynol, yn Ffrainc ac wedyn yn Lloegr, ymddangosodd nifer o awduron a symbylwyd gan yr un awydd i ymestyn at y gwirionedd drwy gyfrwng portread ffyddlon, diffuant o’r byd o’u cwmpas. Y cyntaf o’r rhain oedd y Ffrancwr, Stendhal, ac fe’i dilynwyd gan Honoré de Balzac a Gustave Flaubert ac yn Lloegr gan Charles Dickens, William Makepeace Thackeray a George Elliot. Eto i gyd, ystyrir gan lawer mai’r nofelydd Rwsieg, Leo Tolstoi, awdur Rhyfel a Heddwch, oedd yr awdur realaidd mwyaf.

Er ei fod i raddau’n adwaith yn erbyn goddrychedd Rhamantiaeth, y mae’n bwysig cydnabod bod llawer o brif elfennau Rhamantiaeth yn parhau yng ngwaith Realwyr y 19g. Y gwir yw bod y ddau fudiad celfyddydol hyn yn agweddau gwahanol ar yr un chwyldro cymdeithasol a symbylodd ddatblygiad diwylliant bwrgeisaidd yng nghanol y ganrif honno. Cydnabu’r beirniad Eric Auerbach ddwy brif elfen wreiddiol yn nofelau Stendhal: triniaeth ddifrifol o brofiad pobl gyffredin, yn cynnwys eu profiad goddrychol; a dadansoddiad o hanes cyfredol cymdeithas trwy gyfrwng y profiad hwnnw. Y tu ôl i’r ymdrech i ddatblygu a chydbwyso’r ddwy elfen hon sy’n gyffredin yng ngwaith yr awduron ‘Realaidd’ i gyd gwelir prif symbyliad awduron Rhamantaidd yr oes o’r blaen, sef yr ysfa i ddefnyddio celfyddyd i ymestyn at ddealltwriaeth o unoliaeth bywyd.

Mae absenoldeb yr ymdrech i gyrraedd at gydbwysedd ym mhrofiad yr unigolyn o’r byd allanol yn un o’r prif wahaniaethau rhwng nofelau realaidd y cyfnod rhwng 1830 a 1875 a gwaith y Naturiolwyr a ymddangosai yn negawdau ola’r ganrif. Ni ellid gwadu mai portreadu realiti bywyd yn fanwl a ffyddlon oedd amcan y Naturiolwyr, ond ysgrifenasant heb ddisgwyl darganfod na chytgord nac ystyr yn sylwedd y profiad dynol. Dewiswyd ganddynt, felly, bynciau a sefyllfaoedd a oedd yn eu galluogi i ddatgelu breuder bywyd a diymadferthedd yr unigolyn. Esbonia hynny pam fod yr awduron Naturiolaidd yn llwyddo llawer mwy â’r ddrama na’r Realwyr. Ochr-yn-ochr â nofelau Emile Zola, Guy de Maupassant a George Gissing, cofiwn hefyd ddramâu fel Y Gwaelodion Maxim Gorky, Y Gwehyddion Gerhart Hauptmann a Deffro’r Gwanwyn Frank Wedekind.

Yng nghyd-destun Cymru, Daniel Owen yw’r nofelydd sy’n cael ei gymharu ag awduron y mudiad realaidd, ond y mae’n ddiddorol nodi na lwyddai i greu ffuglen lle y mae’r elfennau goddrychol a gwrthrychol wedi’u cydbwyso’n effeithiol. Mae ei waith yn llawn o gymeriadau a allai fyw yn fodlon ym myd y nofelau realaidd, ond ni chredai eu creawdwr ei bod yn bosibl creu ffuglen ar sail eu profiad o’r byd.

Yn ogystal â llenyddiaeth, bu’r cysyniad o Realaeth yn bwysig mewn Arluniaeth yn negawdau canol y 19g. Yn Ffrainc, er enghraifft, yng ngwaith arlunwyr fel Camille Corot, Jean-François Millet ac, yn anad neb, Gustave Courbet, gwelwyd tuedd i ddewis pynciau sy’n cynnwys cymeriadau o ddosbarthiadau cyffredin a’u lleoli mewn cyd-destunau cyfoes. Yn Lloegr hefyd ceir rhai o briodoleddau Realaeth yng ngwaith yr arlunwyr a elwid yn Pre-Raphaelites, sef Dante Gabriel Rossetti, Holman Hunt a John Everett Millais. Mae eu gwaith yn portreadu’n fanwl cyd-destunau naturiol a chymdeithasol. Y darlun y cyfeirir ato’n fwyaf aml yn y cyd-destun hwn yw Gwaith Ford Madox Brown, a gyfansoddwyd dros ddeuddeng mlynedd, rhwng 1852 ac 1865.

Erbyn diwedd y 19g., gwelir sawl mudiad celfyddydol newydd yn ymddangos sy’n gwrthryfela yn erbyn prif athrawiaethau Realaeth. Ym myd y ddrama ceir Mynegiadaeth sy’n ymwrthod â’r cysyniad mai adlewyrchu amodau’r byd cymdeithasol yw swyddogaeth celfyddyd. O ran arluniaeth a cherddoriaeth, ceir Argraffiadaeth a Symbolaeth ac mewn llenyddiaeth farddoniaeth symbolaidd awduron fel Stéphan Mallarmé a Paul Valéry, ynghyd â nofelau mwyaf y mudiad modernaidd, gan gynnwys gweithiau James Joyce a Marcel Proust sy’n gwyrdroi’r cysyniad bod unrhyw gytgord yn bosibl rhwng y gwirionedd a geir drwy gyfrwng celfyddyd a strwythurau bywyd cymdeithasol.

Nid yw dweud hynny’n awgrymu bod ffydd yr artist yng ngallu celfyddyd i’w ganiatáu i fynd i’r afael â realiti’n llai ar ddiwedd y 19g. nag yr oedd ar y dechrau, er bod seiliau athronyddol a chymdeithasol Realaeth wedi darfod yn llwyr. Y mae cred yr artist bod celfyddyd yn gyfrwng i gyrraedd yr unig wirionedd sydd ar gael ar y ddaear mor gryf ag y bu mewn unrhyw gyfnod ers diwedd y 18g.

Ioan Williams

Llyfryddiaeth

Furst, L. R. (1992), Realism (London: Longman).

Levin, H. (1963), The Gates of Horn: A Study of Five French Realists (Oxford: Oxford University Press).

Morris, P. (2003), Realism (London: Routledge).

Williams, I. (1975), The Realist Novel in England. A Study in Development (London: Macmillan). [[CC BY-SA}}