Renan, Ernest

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Ganed Ernest Renan (1823-92) yn Tréguier, tref Lydaweg ei hiaith yng ngogledd Llydaw. Yn ysgolhaig Hebraeg ac yn un o feddylwyr pwysicaf ei ganrif yn Ffrainc, cofir amdano heddiw yn bennaf fel awdur Qu’est-ce qu’une nation? [Beth yw cenedl?]. Yn ei ddydd achosodd ei lyfr Vie de Jésus [Bywyd Iesu] (1863) sgandal oherwydd iddo drin bywyd Crist o safbwynt hanesyddol yn hytrach na diwinyddol, a thrwy hynny amau duwdod Iesu. Ond ef hefyd yw awdur un o’r traethodau pwysicaf yn hanes astudiaethau Celtaidd, sef ‘La poésie des races celtiques’ [Barddoniaeth yr hiliau Celtaidd] (1854). Yn y traethawd honna Renan nad oes un pobl neu hil wedi bod mor agos at fodau is byd natur â’r Celtiaid, sy’n mwynhau perthynas bur ac uniongyrchol â’r byd naturiol yn gyffredinol. I’r perwyl hwn dyfynna’n awgrymog, ond yn ddetholus, o lenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol.

Mae Patrick Sims-Williams ac eraill wedi bwrw amheuaeth ar safbwynt Renan, gan ddadlau bod ei orbwyslais ar bwysigrwydd anifeiliaid i’r Celtiaid yn amlygu agwedd nawddoglyd a threfedigaethol. Dylanwadodd y traethawd ar Matthew Arnold, deiliad cyntaf y Gadair Geltaidd yn Rhydychen ac awdur On the Study of Celtic Literature (1867). Yn achos Arnold, ochr yn ochr â’r ‘magical charm of nature’ a’r ‘fairy-like loveliness of Celtic nature’, ceir y farn ganlynol: ‘I must say I quite share the opinion of my brother Saxons as to the practical inconvenience of perpetuating the speaking of Welsh’. Felly gwelir agwedd Brydeinig yng ngwaith Arnold fel y gwelir agwedd Paris-ganolog yn Renan. Cydnabyddir Renan ac Arnold fel dau o sylfaenwyr Astudiaethau Celtaidd modern, ond hefyd fel tarddle disgwrs ‘Celtigiaeth’ [Celticism], sy’n cyfateb i’r disgwrs a astudiwyd gan Edward Said yn ei gyfrol ddylanwadol Orientalism (1978). Ar ddiwedd ei oes, daeth yn un o hoelion wyth y ‘Dîners celtiques’ [Ciniawau Celtaidd].

Heather Williams

Llyfryddiaeth

Arnold, M. (1867), On the Study of Celtic Literature (London: Smith, Elder & Co).

Brown, T. (gol.) (1996), Celticism (Amsterdam: Rodopi).

Renan, E. (1854), ‘La Poésie des races celtiques’, Revue des Deux Mondes n.s. 5, 473-506.

Sims-Williams, P. (1996), ‘The Invention of Celtic nature poetry’, yn Brown, T. (gol.) Celticism (Amsterdam: Rodopi), tt. 97–124.

Williams, D. (2000), ‘Pan-Celticism and the Limits of Post-Colonialism: W. B. Yeats, Ernest Rhys, and Williams Sharp in the 1890s’, yn Brown, T. a Stephens, R. (goln), Nations and Relations: Writing Across the British Isles (Cardiff: New Welsh Review), tt. 1–29.

Williams, H. (2008), ‘Ecofeirniadaeth i’r Celtiaid’, Theori Mewn Llenyddiaeth, 3, 1-28.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.