Reynolds, Peter (1958-2016)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr a aned yng Nghaerdydd. Graddiodd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1979. Yn 1983 derbyniodd radd MA mewn dadansoddi cerddoriaeth fodern. Astudiodd gyfansoddi yn Ysgol Haf Ryngwladol Dartington, yn fwyaf arbennig gyda Peter Maxwell Davies (yn 1984), Morton Feldman (yn 1986) a Gordon Crosse (yn 1987). Bu’n weithgar fel gweinyddwr yn ogystal ag fel cyfansoddwr ac ef oedd cyfarwyddwr y PM Ensemble o Gaerdydd, a ffurfiwyd ganddo yn 1991. Bu’n gyfarwyddwr artistig Gŵyl Machen Isaf rhwng 1997 a 2009, a chyhoeddodd lawer fel awdur a cholofnydd. Ysgrifennodd lyfr sy’n croniclo hanes Cerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC. Bu’n gysylltiedig â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o 1994 a bu’n diwtor cyfansoddi yno o 2002 hyd ei farwolaeth annhymig yn 2016.

Cyfansoddodd Reynolds ym mhob genre fwy neu lai. Oherwydd iddo astudio am gyfnod byr gyda Feldman efallai fod dylanwad yr athro hwnnw i’w weld yn ei waith, yn enwedig yn y llonyddwch telynegol a’r symlrwydd sydd, ynghyd ag elfen chwareus, yn nodweddu ei arddull, er enghraifft ei The Head of Brass (2010) ar gyfer adroddwr a phedwarawd sacsoffon. Ni cheir ganddo rethreg ymwthgar ac mae tuedd i’w ddarnau fod yn gryno. Yn 1993 cofnodwyd ei opera The Sands of Time yn y Guinness Book of Records fel yr opera fyrraf a gyfansoddwyd erioed. A hithau’n 3 munud 34 eiliad roedd yr opera tua hanner hyd Deliverance of Theseus gan Darius Milhaud, a gyfansoddwyd yn 1928. Er bod The Sands of Time wedi’i lleoli yn yr 1990au clywir dylanwad operâu Eidalaidd y 19g. ar y gwaith, sy’n cynnwys wyth aria.

Fodd bynnag, mae darnau eraill ganddo yn haeddu mwy o sylw. Ymhlith ei weithiau mwyaf llwyddiannus y mae Bye, Baby Bunting (1993) i driawd llinynnol, Pedwarawd Rhif 1 (1996), Beiliheulog (2009) ar gyfer ffliwt, feiola a thelyn, Bayvil (2011) ar gyfer piano, footsteps quiet in the shadows (Pedwarawd Llinynnol Rhif 2, 2012) a Moon-Ark (2013) ar gyfer soddgrwth a cherddorfa linynnol. Mae Partishow (2014), ar gyfer ffliwt, feiolin, gitâr a bas dwbl, yn enghraifft o agwedd anghyffredin Reynolds, lle mae’n cysylltu lleoliad penodol gan ddefnyddio ffilm ac elfennau technolegol i greu synthesis artistig.

Mae’r ffilm Cippyn (2015), gyda cherddoriaeth i fas dwbl a seiniau electronig, yn enghraifft bellach o’r math hwn o fenter. Cydweithiodd ar Cippyn gydag aelodau o Gyfadran y Diwydiannau Creadigol yn ATRiuM, Prifysgol De Cymru, Caerdydd. Yn y gwaith ceir portread o gapel anghyfannedd ger Aberteifi. Fe’i perfformiwyd yn ATRiuM fel digwyddiad anffurfiol, a phrif nodwedd y gerddoriaeth yw’r seiniau electronig sy’n cynnwys recordiadau o seiniau naturiol o’r tu mewn i’r capel. Cyn iddo farw bu’n cyfansoddi ymdeithgan ar gyfer cyrn hen geir ar gyfer Gŵyl Bro Morgannwg 2016.

Richard Elfyn Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.