Rhaglenni Teledu Pop

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ymddangosodd artistiaid pop ar raglenni teledu mor bell yn ôl ag 1964 - yr un flwyddyn â darllediad cyntaf Top of the Pops - pan ddarlledwyd Hob y Deri Dando am y tro cyntaf. Sioe gerdd oedd honno gyda phwyslais ar gerddoriaeth canu gwlad ar y cyfan. Erbyn 1968 roedd TWW wedi herio rhaglen y BBC gydag Ysgubor Lawen. Roedd y ddwy raglen yn canolbwyntio ar gerddoriaeth a oedd yn addas i’r nosweithiau llawen. Yn wir, yn ddiweddarach, o ddyddiau cynnar S4C, cafodd nosweithiau o’r fath eu darlledu yn yr un diwyg o dan y teitl Noson Lawen.

Cafodd cyfresi i artistiaid penodol hefyd eu comisiynu gan y BBC a TWW/HTV o ganol yr 1960au ymlaen, gyda sioeau megis Dyma Dafydd ( Dafydd Iwan; 1966), Tony ac Aloma (1969), a Gwrando ar fy Nghân ( Heather Jones; 1972). Fodd bynnag, Disc a Dawn (1966) a wnaeth y cyfraniad pwysicaf i foderneiddio’r byd pop. Dechreuodd fel rhaglen gylchgrawn i ieuenctid a gynhwysai berfformiadau canu pop, ond trodd yn rhaglen gerddoriaeth benodol erbyn 1968.

Cafodd Disc a Dawn effaith aruthrol ar y byd pop Cymraeg a rhoddodd hwb enfawr i artistiaid. Darparodd fersiwn Cymraeg o’r ‘Hit Parade’ - sef Deg Uchaf Y Cymro, a gyhoeddid bob wythnos - a bu’n fodd i hyrwyddo rhyddhau recordiau a digwyddiadau byw ledled Cymru. Gyda chymaint o gantorion protest megis Dafydd Iwan a Huw Jones yn ymddangos yn rheolaidd ar y sioe, derbyniodd feirniadaeth hallt gan rai - George Thomas yn enwedig - a chyhuddwyd y cynhyrchwyr o roi llwyfan wythnosol i Blaid Cymru. Erbyn yr 1970au, fodd bynnag, roedd y rhaglen yn wynebu cystadleuaeth o gyfeiriad y byd pop ei hunan. Derbyniad llugoer a gafodd y newid i ddiwyg ‘disgo’ yn 1972. Cwynai eraill fod ymddangosiad artistiaid ‘hŷn’, megis Hogia'r Wyddfa, yn tanseilio perthnasedd y sioe i’r gynulleidfa ifanc.

Yn 1974 disodlwyd Disc a Dawn gan Gwerin ’74. Er gwaetha’r enw rhoddodd y rhaglen lwyfan i gerddoriaeth roc megis Edward H Dafis. Yn ddiweddarach llwyddodd Twndish a Seren Wib i roi sylw i fandiau pync a thon newydd (new wave) yr 1970au hwyr, er i Twndish gythruddo llawer drwy estyn gwahoddiadau i fandiau Saesneg megis X-Ray Spex.

Cafwyd nifer o raglenni byrhoedlog yn ystod yr 1980au, rhai megis Roc ar ôl Te, Sêr, Larwm a Stid, ond gyda darllediad cyntaf Fideo 9 yn 1988 cychwynnodd oes newydd yn hanes y sîn roc. Roedd artistiaid megis Huw Jones, Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog a’r Bara Menyn eisoes wedi arbrofi gyda chlipiau gweledol ar gyfer eu caneuon, ond Fideo 9 - gweledigaeth Geraint Jarman - oedd y rhaglen Gymraeg gyntaf i arbenigo mewn creu fideos cerddoriaeth. Drwy roi sylw i fandiau megis Anhrefn, Ffa Coffi Pawb a Traddodiad Ofnus, bu’n gyfrifol am ehangu ystod creadigol canu poblogaidd Cymraeg. Daeth Fideo 9 i ben yn 1992, ond fe’i dilynwyd gan sioeau megis Garej ac i-dot. Ers 2000 mae sioeau megis 4trac (2000-02), Y Sesiwn Hwyr (2000-03), Y Set (2003), Bandit (2004-11) a Stiwdio Gefn (2012-17) wedi parhau i roi cyfle i fandiau ac artistiaid Cymraeg ddatblygu eu gyrfaoedd.

Craig Owen Jones



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.