Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhewlif"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
B (clean up)
(symudwyd i Categori:Daearyddiaeth (yn hytrach na Categori:Esboniadur Daearyddiaeth): h.y. y casgliad daearyddiaeth o fewn yr Esboniadur)
Llinell 15: Llinell 15:
 
Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) ''Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms'', Wiley, Chichester, tt. 41-68.
 
Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) ''Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms'', Wiley, Chichester, tt. 41-68.
  
[[Categori:Esboniadur Daearyddiaeth]]
+
[[Categori:Daearyddiaeth]]
  
 
__NOAUTOLINKS__
 
__NOAUTOLINKS__

Diwygiad 11:51, 31 Gorffennaf 2014

(Saesneg: glacier)

Corff o iâ, amrywiol iawn ei faint, ei ffurf a’i leoliad, sy’n datblygu lle bynnag y mae eira’n cronni ac yn troi’n iâ yw rhewlif. Fel rheol, cyfyngir y term i ddisgrifio corff o iâ sydd wedi’i gyfyngu gan nodweddion topograffig. Felly, yn forffolegol, gwahaniaethir yn bennaf rhwng rhewlifau peiran (cirque glaciers), rhewlifau dyffryn (valley glaciers) a rhewlifau piedmont (piedmont glaciers). Cymharol fach yw rhewlif peiran ac mae’n meddiannu basn ar ffurf cadair freichiau greigiog. Weithiau mae’r corff o iâ, ffirn ac eira yn gyfyngedig i’r basn creigiog y mae’n ei feddiannu, ond bryd arall mae’n ymestyn y tu hwnt i drothwy’r peiran, gan gyflenwi iâ i rewlif dyffryn sy’n dilyn llwybr dyffryn afonol cynrewlifol (preglacial). Nodwedd amlycaf rhewlif dyffryn, sydd fel rheol yn ymgyfuniad o sawl rhewlif peiran, yw’r llechweddau cymharol foel uwchlaw wyneb y rhewlif. Mae’r fath lechweddau yn ffynhonnell afalansiau yn ogystal â chwympiadau creigiau rhewfriw (frost-shattered rocks) sy’n cyfrannu at ffurfiant marianau ochrol (lateral moraine) sy’n ymgasglu ar hyd ochrau’r rhewlif. Math ar rewlif dyffryn yw rhewlif all-lifol (outlet glacier) a gaiff ei gyflenwi gan len iâ neu gap iâ yn hytrach na rhewlifau peiran. Clusten fawr o iâ yw rhewlif piedmont sy’n ymffurfio wrth i rewlif dyffryn ymestyn y tu hwnt i furiau cyfyngol ei gafn rhewlifol ac ymledu ar draws iseldir. Mae Rhewlif Malaspina, Alaska, a Skeiđarárjökull, Gwlad yr Iâ, yn enghreifftiau trawiadol.

Mae rhewlifau yn llifo dan ddylanwad disgyrchiant a sbardunir eu symudiad pan fo’r grymoedd a grëir gan bwysau a graddiant arwyneb yr iâ yn drech na’r gwydnwch mewnol. Yna, llifa’r iâ o’r gylchfa gronni (accumulation zone) (lle mae croniant yn drech nag abladiad) i’r gylchfa abladu (ablation zone) (lle mae abladiad yn drech na chroniant). Yn achos rhewlif sy’n terfynu mewn llyn neu yn y môr, caiff rhannau o’r sgafell iâ eu colli wrth i dalpiau mawr ohoni dorri a chwympo i’r dŵr ar ffurf mynyddoedd iâ. Dynodir y ffin rhwng y gylchfa gronni a’r gylchfa abladu gan y llinell ecwilibriwm (equilibrium line).

Mae iâ’n llifo o ganlyniad i (i) anffurfiad mewnol (internal deformation), (ii) llithriad gwaelodol (basal sliding), a (iii) anffurfiad y gwely tanrewlifol (subglacial bed deformation), a’r prif ffactor sy’n penderfynu pa un neu fwy o’r tair proses sydd ar waith yw tymheredd yr iâ gwaelodol. Yn achos rhewlif gwadn oer (cold-based glacier) mae’r iâ gwaelodol wedi’i rewi’n sownd wrth greigiau neu waddodion y gwely ac felly dim ond drwy anffurfio’n fewnol y gall yr iâ lifo. Fodd bynnag, yn achos rhewlifau gwadn cynnes (warm-based glaciers) mae tymheredd yr iâ’n cyfateb i’r toddbwynt dan wasgedd (pressure melting point), sef y tymheredd y mae iâ’n dechrau dadmer dan ddylanwad gwasgedd penodol. Golyga hyn fod yr iâ gwaelodol yn dadmer yn barhaus ac, o ganlyniad, caiff y rhyngwyneb rhwng yr iâ a gwely’r rhewlif ei iro gan ddŵr tawdd. Dan y fath amodau mae llithriad gwaelodol, ynghyd ag anffurfiad gwaddodion dwrlawn dan wadn y rhewlif, yn bennaf cyfrifol am lif yr iâ. Tymheredd yr iâ gwaelodol, felly, yw un o’r ffactorau pwysicaf sy’n rheoli dylanwad geomorffolegol rhewlifau, gan fod rhewlifau gwadn cynnes, sy’n gallu llifo’n gyflym, yn cyflawni mwy o lawer o waith erydol na rhewlifau gwadn oer, araf eu llif. Fodd bynnag, mae’n bwysig sylweddoli y gall tymheredd yr iâ gwaelodol amrywio nid yn unig o rewlif i rewlif ond hefyd o fewn un rhewlif penodol ar adeg arbennig a chyda threiglad amser.

Yr hinsawdd sy’n bennaf cyfrifol am benderfynu maintioli (hyd, arwynebedd, cyfaint), ymddygiad a dosbarthiad daearyddol rhewlifau, a’u nodwedd amlycaf yn y byd sydd ohoni yw eu henciliad, ar gyflymder cynyddol, o ganlyniad i gynhesu byd eang. O’r 150 o rewlifau a oedd i’w cael yn Glacier National Park, Montana, yn 1850, mae llai na 30 i’w gweld heddiw. Ac mae Henry Pollack, awdur A World Without Ice (2010), o’r farn y bydd y gweddill wedi diflannu erbyn 2030 ac y bydd rhewlifau’r Alpau ‘yn atgof yn unig erbyn diwedd y ganrif bresennol’.

Llyfryddiaeth

Benn, D.I. a Evans, D.J.A. (adarg. 2010) Glaciers and Glaciation, Arnold, Llundain, tt. 18-19, 142-68.

Bennett, M.R. a Glasser, N.F. (ail arg. 2009) Glacial Geology: Ice Sheets and Landforms, Wiley, Chichester, tt. 41-68.