Rhyddid gwybodaeth

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:49, 19 Chwefror 2019 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Freedom of information

Hawl sylfaenol y dinesydd i ofyn am, a chael mynediad, at wybodaeth a gedwir gan sefydliadau cyhoeddus. Yn absenoldeb rheswm dilys i wrthod cais (mae rheidrwydd ar sefydliad cyhoeddus i sicrhau bod gwybodaeth ar gael), gall yr ymgeisydd ddisgwyl ei derbyn yn brydlon ac efallai y codir tâl rhesymol os yw casglu’r wybodaeth yn golygu oriau o waith i’r sefydliad.

Mae ymdrechion deddfwriaethol i sicrhau ‘rhyddid gwybodaeth’ yn amrywio’n sylweddol o un wlad i’r llall, os ydynt yn bodoli o gwbl. Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) yn ddeddf gymharol ddiweddar yn y Deyrnas Unedig (DU), lle y mae dinasyddion – a newyddiadurwyr yn eu plith – yn Unol Daleithiau’r America wedi manteisio ar y Freedom of Information Act ers 1966.

Bwriad y ddeddf yn y DU yw cynyddu tryloywder. Dylai aelodau’r cyhoedd allu dod o hyd i wybodaeth sydd o fudd i’r cyhoedd ac sy’n ddiogel i’w datgelu’n rheolaidd.

Mae’r ddeddf yn berthnasol i awdurdodau cyhoeddus, ond nid yw’r BBC, Channel 4 a S4C (sy’n ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus) yn gorfod darparu gwybodaeth am weithgareddau newyddiadurol, llenyddol neu artistig.

Pan fydd rhywun yn gwneud cais am ei wybodaeth ei hun, mae hwn yn gais am fynediad o dan y Ddeddf Diogelu Data. Fodd bynnag, mae aelodau’r cyhoedd yn aml yn gwneud camsyniad trwy feddwl mai Deddf Rhyddid Gwybodaeth sy’n rhoi’r hawl iddynt gael eu gwybodaeth bersonol, felly mae angen i’r sefydliad cyhoeddus egluro hyn wrth ymateb i gais o’r fath.

Mae’r deddfau wedi gwneud nifer o storïau newyddion pwysig yn bosibl dros y degawdau diwethaf, storïau a fyddai wedi bod bron yn amhosibl ymchwilio iddynt heb y ddarpariaeth hon.

Llyfryddiaeth

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. https://ico.org.uk/ [Cyrchwyd: 5 Mehefin 2018].



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.