Rhyngrwyd, Cerddoriaeth a'r

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:16, 16 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Amcan yr erthygl hon yw olrhain yn gyffredinol hanes a datblygiad cerddoriaeth a’r Rhyngrwyd yn ystod dau ddegawd cyntaf ei esblygiad, gan graffu yn benodol ar ei effaith ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Hyd at ddyfodiad y Rhyngrwyd roedd recordiadau yn yr iaith Gymraeg yn dibynnu fwy neu lai’n gyfan gwbl ar werthiant mewn siopau lleol (a oedd yn stocio cynnyrch Cymraeg yn bennaf), gwerthu recordiau mewn cyngherddau byw, neu gyflenwi archebion trwy’r post. Byddai rhai cwmnïau a oedd yn arbenigo mewn hyrwyddo cynnyrch Celtaidd (er enghraifft yng Ngogledd America) yn sicrhau archebion mawr oddi wrth gwmnïau Cymraeg o dro i dro, ond roedd cyfran helaeth o drosiant y diwydiant yn aros oddi mewn i Gymru. Erbyn heddiw mae’r farchnad bosibl ar gyfer cynnyrch Cymraeg yn llawer mwy ond mae’r gystadleuaeth o fewn y pentref rhithiol byd-eang yn un chwyrn, a chyda’r diwydiannau Eingl-Americanaidd yn tra-arglwyddiaethu dros yr economi rhaid i’r lleisiau sydd ar y cyrion weiddi’n uchel er mwyn cael eu clywed.

Sain ar-lein: hanes cryno

Mae’r twf mewn cerddoriaeth ar y Rhyngrwyd yn gymysgedd o ddatblygiadau technolegol newydd a hen gysyniadau. Yn nyddiau cynnar y We Fyd-eang roedd y rhan fwyaf o gysylltiadau rhyngrwyd ar fodemau deialu i fyny at radd o 56k ac roedd yn amhosibl trosglwyddo ffeiliau mawr; felly’r profiad sonig mwyaf tebygol ar-lein oedd ffeil MIDI yn cynhyrchu sain trydar afluniedig, tebyg i hen dôn ffôn symudol.

Fodd bynnag, yn 1995 bu meddalwedd chwarae’n-ôl Winamp yn fodd i alluogi defnyddwyr cartref i gymryd mantais o ffeiliau Mpeg Haen 3: system wedi’i chynllunio i gywasgu ffeiliau awdio anferth i faint y gellid ei reoli trwy gael gwared ar wybodaeth awdio. O’i defnyddio’n synhwyrol, nid oedd y broses hon yn effeithio mewn unrhyw fodd amlwg ar ansawdd y sain, gan ei gwneud yn ymarferol bosibl gyrru ffeiliau MP3 llawer llai, hyd yn oed ar fodemau 56k.

Yn sgil dyfodiad band eang daeth modd i gyfathrebu’n llawer cyflymach, a chyn bo hir roedd ffeiliau MP3 o ganeuon yn cael eu cyfnewid ar sawl fforwm ar-lein, yn debyg i’r syniad o gyfnewid tapiau casét rhwng ffrindiau yn nyddiau analog yr 1980au. Mae’r ffaith fod y cyfan yn digwydd yn ddigidol yn profi mai’r hyn yr oedd y dechnoleg newydd yn ei greu mewn gwirionedd oedd syniadau newydd allan o hen gysyniadau.

Dilynwyd y datblygiad hwn gan ddyfodiad meddalwedd cyfoed-at-gyfoed (peer-to-peer) megis Napster yn 1999. Roedd Napster, a safleoedd tebyg, yn galluogi defnyddwyr i gysylltu eu cyfrifiaduron yn uniongyrchol â’i gilydd er mwyn rhannu ffeiliau’n ddigidol, gan wneud y broses o gyfnewid cerddoriaeth yn gyflymach fyth. Yn sgil hyn cafwyd cenhedlaeth a oedd wedi’i magu gyda’r cysyniad fod cerddoriaeth ar-lein - yn ddamcaniaethol o leiaf - yn rhad ac am ddim.

Yn rhesymegol, pe bai popeth ar gael ar-lein, pam ddylai rhywun fynd allan i’w brynu? Fodd bynnag, roedd artistiaid pop a roc megis Madonna a Metallica yn amharod i dderbyn y golled hon mewn incwm; cytunodd y diwydiant cerddoriaeth â’u dadl a bu’n rhaid i Napster ddirwyn y gwasanaeth i ben yn 2001 ar ôl nifer o achosion llys ynglŷn â thor hawlfraint. Ond roedd y cwmni wedi dangos bod modd cael darparu cerddoriaeth ar-lein yn ddi-dâl, a daeth nifer o safleoedd tebyg i gymryd lle Napster.

Gellir dadlau mai’r datblygiad pwysig nesaf mewn cerddoriaeth ar-lein oedd ar Myspace. Roedd Myspace yn nodweddiadol o’r math newydd o wefan a oedd yn cyfuno busnes gyda rhwydweithio cymdeithasol. Byddai defnyddwyr yn ymaelodi ac yn chwilio am ffrindiau a chanddynt ddiddordebau cerddorol tebyg. Roedd modd gosod blogiau personol a lluniau ar y dudalen, ac i grwpiau pop roedd y wefan yn cynnig y cyfle i integreiddio fideos, cyhoeddi rhestr gigiau a chwarae sampl o’u cerddoriaeth. Byddai dod yn ffrindiau gyda band yn rhoi mynediad i hyn oll, ac felly daeth Myspace yn erfyn hyrwyddo pwysig i grwpiau. Redd y ffaith fod y safle’n un rhyngweithiol hefyd yn creu cyswllt byw ac uniongyrchol rhwng y cefnogwr a’r artist.

Rhwng 2005 a 2006 roedd stori lwyddiant Myspace yn y newyddion yn aml, gyda grwpiau ac artistiaid megis yr Arctic Monkeys, Lily Allen ac Enter Shikari yn defnyddio system adborth er mwyn cyfathrebu â’u cynulleidfa yn uniongyrchol, fel mai prin oedd yr angen am neb yn y canol, boed yn gynrychiolydd cwmni recordio a/neu asiant cyhoeddusrwydd. Fodd bynnag, ochr yn ochr â datblygu eu presenoldeb ar-lein, roedd grwpiau’n parhau i hyrwyddo eu gwaith yn y ffyrdd traddodiadol, megis cynnal gigiau’n rheolaidd, a thrwy gyfrwng teledu, radio a phrint; camgymeriad, felly, fyddai synio am Myspace fel ‘siop un stop’.

Cyflwynodd Amazon.com y cysyniad o ‘argymhellion cyfoedion’ ar sail dadansoddiad o arferion prynu cynnyrch yn ystod yr 1990au. Byddai pob ymweliad â gwefan Amazon i brynu eitem benodol yn arwain at awgrymiadau am nwyddau eraill y byddai’r darpar brynwr yn debygol o’u hoffi. Er enghraifft, petai rhywun yn prynu record gan Elvis Presley, byddai’n debygol o gael cynnig prynu albwm gan Tom Jones neu Carl Perkins.

Chwaraeodd meddalwedd argymhellion cyfoedion wedi’i awtomeiddio ran allweddol yn natblygiad last.fm, safle awdio ar-lein a alluogai defnyddwyr i glywed traciau wedi’u ffrydio dros y we, yn seiliedig ar y pethau yr oeddynt yn eu hoffi neu beidio, a fyddai wedi’u ‘tagio’ yn flaenorol. Yn yr un modd, roedd Spotify yn galluogi tanysgrifwyr i rannu eu cynnwys awdio gydag eraill gyda’r cynnwys yn cael ei ffrydio yn hytrach na’i lawrlwytho, wedi’i drwyddedu gan gwmnïau recordio fel cost hyrwyddo ac wedi’i ariannu trwy hysbysebion.

Cerddoriaeth o Gymru ar y Rhyngrwyd

Fel y dangosir uchod, mae cerddoriaeth wedi dod yn rhan annatod o’r profiad ar-lein. Yn ddiddorol, un o nodweddion safleoedd argymhellion cyfoedion a’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol oedd bod ‘tagio’ tarddle daearyddol y gerddoriaeth wedi dod yn elfen bwysig iawn. O ran grwpiau pop ar Myspace, er enghraifft, mae man ar dudalen y band ei hun sy’n dweud o ba ardal y maent yn dod yn wreiddiol. Felly mae chwilio o dan ‘Cymru’ ar Myspace yn arwain rhywun at nifer o grwpiau cwbl amrywiol o ran y math o gerddoriaeth a dulliau perfformio. Fodd bynnag, gan nad oes sicrwydd o ansawdd, mae’n dal yn anodd darganfod bandiau da yn rheolaidd. Mae’n bwysig felly fod gan y gwefannau hyn warchodwyr dibynadwy, ac yn achos y diwydiant cerddoriaeth mae’n bwysig hefyd fod cwmnïau recordio yn parhau i gael eu cynrychioli ar-lein.

Mae chwilota ar Myspace yn profi bod gwybodaeth am gerddoriaeth o Gymru ar gael ar-lein, er ei bod yn bwysig nodi, o safbwynt demograffaidd, mai’r grŵp oedran 18–35, yn cynrychioli 58.81% o ddefnyddwyr y wefan, yw’r grŵp mwyaf niferus (gw. gwefan https://www.marketingcharts.com). Yn yr un modd, gellir darganfod gwybodaeth am gerddoriaeth o Gymru ar wefannau megis y BBC a safleoedd archif pwrpasol megis Link2Wales, ffynhonnell answyddogol ar gyfer gwybodaeth am grwpiau’r gorffennol a’r presennol (gw. gwefan https://www.link2Wales.co.uk). Mae chwiliad syml gan ddefnyddio Google yn arddangos y safleoedd pwysicaf, oherwydd bod algorithm PageRank Google yn trefnu tudalennau ar sail eu poblogrwydd a’u defnydd gan ystyried amryw o ffactorau, er enghraifft pa safleoedd eraill sy’n cysylltu â’r dudalen o dan sylw a pha mor aml y mae’r tudalennau wedi cael eu gweld ar y safle.

Gan ddefnyddio hyn fel pwynt cychwynnol (termau chwilio: ‘Music’ a ‘Wales’), gellir nodi bod y mwyafrif llethol o dudalennau, ar wahân i Wikipedia (sydd o dan reolaeth Google), wedi’u priodoli nid i gerddoriaeth bop ond i ffurfiau mwy traddodiadol o gerddoriaeth. Mae cerddoriaeth werin yn cael ei chynrychioli’n dda a gellir dadlau bod hyn, yn rhannol o leiaf, oherwydd bod cerddoriaeth o’r fath wedi bod, yn hanesyddol, yn destun sylw academaidd; er enghraifft, mae safle megis https://www.contemplator.com/wales, ar gyfer eu samplau MIDI o ganeuon gwerin, yn cynnig cyd-destun hanesyddol ynghyd â geiriau’r caneuon. Mae cwmnïau recordio fel Fflach a’r band poblogaidd Ffynnon yn ymddangos yn aml, ac mae hynny’n wir hefyd am sefydliadau addysgol, siopau recordiau a thudalennau ar gyfer twristiaid. Ymddengys fod y termau chwilio ‘Music’ a ‘Wales’, yn ôl Google a’u defnyddwyr, ynghlwm i raddau helaeth iawn wrth gerddoriaeth werin, cerddoriaeth draddodiadol a hanes y gyfryw gerddoriaeth, gyda sylw amlwg i academia, a bod gan y mwyafrif o ddefnyddwyr sy’n chwilio yn y ffordd yma ddiddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol, gydag ychydig ohonynt â diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol.

Mae cerddoriaeth boblogaidd yn cael ei chynrychioli ar y We trwy nifer o wahanol ddulliau; mae canlyniadau chwilota cychwynnol yn cynnig safleoedd a nodwyd uchod, ynghyd â chyfarwyddo’r defnyddiwr tuag at safleoedd lle byddai rhywun, er enghraifft, efallai’n prynu llyfr Sarah Hill, Blerwytirhwng (Ashgate, 2007), sy’n olrhain datblygiad cerddoriaeth bop Gymraeg.

Mae’r Rhyngrwyd wedi dibynnu erioed ar chwiliad cyntaf yr unigolyn i ddarganfod beth sydd ar gael, ond tra mae gwefannau pwrpasol yn bodoli i drafod cerddoriaeth glasurol, draddodiadol a gwerin, mae gan gerddoriaeth boblogaidd set o ofynion gwahanol sy’n gofyn am ychydig mwy o ymgysylltu ar ran y chwiliwr. Anaml iawn y methir darganfod band ar y Rhyngrwyd, ond mae’n ddiddorol nodi’r amrywiaeth o ddulliau ar-lein sy’n fodd i adlewyrchu presenoldeb bandiau ac artistiaid.

Cerddoriaeth bop

Mae dwy ffrwd o gerddoriaeth o Gymru i’w hystyried wrth drafod cerddoriaeth boblogaidd ac er y byddai archwiliad trwyadl o’r cysyniad y tu hwnt i derfynau’r cofnod hwn, gellir nodi bod cerddorion sy’n perfformio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a/neu yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg (o fewn y wlad) a hefyd gerddorion sy’n perfformio yn Saesneg ac yn ymgysylltu â’r byd canu pop Saesneg a hynny y tu mewn a’r tu allan i Gymru.

Mae grwpiau neu is-grwpiau oddi mewn i’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn rhannu adnoddau sydd wedi’u cynllunio i helpu gyda chyhoeddi eu hunain. Un o’r rhain oedd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, fu’n cynnal llyfrgell busnesau cerddoriaeth yn cynnwys cysylltiadau ar gyfer yr holl elfennau perthnasol - rheolaeth, asiantau, lleoliadau, cyfryngau ac yn y blaen - ac yn helpu busnesau newydd yng Nghymru, cyn i’r sefydliad ddod i ben yng Ngorffennaf 2014 oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus. Roedd eu presenoldeb ar-lein yn hanfodol i gychwyn busnes gan eu bod yn gallu cynghori ar nifer o agweddau gan gynnwys podlediadau, marchnata digidol a dosbarthu ar-lein. Gweithredu ar ddefnyddio’r we’n strategol yw’r peth mwyaf allweddol o ran lledaenu gwybodaeth am fandiau yng Nghymru.

Yn gysyniadol, felly, yr un yw’r broses o ledaenu gwybodaeth am gerddoriaeth waeth beth yw’r iaith, boed yn ganu Cymraeg, yn ganu Saesneg o Gymru neu’n ganu Swahili. Ymddengys fod yr hen systemau ar gyfer dosbarthu a chylchredeg gwybodaeth, a oedd gynt yn dra chaeedig, wedi’u disodli gan rai llawer mwy agored yn sgil natur hunanddewisol y math o gyfathrebu ar y We sydd wedi’i wneud yn bosibl gan safleoedd megis Myspace, Facebook a last.fm, sydd oll yn fodd i ddilynwyr bandiau, mathau o gerddoriaeth a grwpiau wedi’u ‘tagio’ ar sail ddaearyddol gysylltu â’i gilydd.

Enghreifftiau: Cerdd X, ‘John Owen’ a Label X

Defnyddir ffugenwau ar gyfer yr enghreifftiau canlynol, gyda’rwybodaethynseiliedigargyfweliadau a gynhaliwyd rhwng yr awdur, y cwmnïau a’r unigolion yn 2009. Mae’r label annibynnol o ogledd Cymru, Cerdd X, yn priodoli llawer o’u llwyddiant parhaus i’r cynnydd a fu ymhlith defnyddwyr y We yn eu cynnyrch, sy’n bennaf yn yr iaith Gymraeg. Mae eu gwefan yn un eithaf sylfaenol a heb newid fawr ddim ers iddynt sefydlu presenoldeb ar-lein. Yn syml, mae’n cynnwys ‘datganiadau i’r wasg ac ychydig o luniau’n unig – dim byd rhyngweithiol o bell ffordd’, yn ôl perchennog y label. Wrth gynnig gwybodaeth am gynnyrch Cerdd X, ynghyd â lluniau a dolenni, mae’r wefan wedi dod yn fath o ‘linell amser hanesyddol’ ar gyfer y label yn hytrach nag unrhyw beth sy’n rhyngweithio neu’n arbennig o fywiog; felly storfa o wybodaeth ydyw’n bennaf am ddeunydd a ryddhawyd a gweithgareddau cysylltiedig fel teithiau, ymddangosiadau teledu ac ati.

Yn wir, adlewyrcha’r bensaernïaeth syml hon wefan Myspace, sy’n galluogi bandiau i roi cerddoriaeth, lluniau, fideos, dyddiadau gigiau a blogiau i fyny’n gyflym i bawb eu gweld. Llais dylanwadol arall yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg yw ‘John Owen’, sydd dros y blynyddoedd wedi bod yn rheolwr bandiau, yn berchennog labeli, yn aelod o fandiau ac yn asiant y wasg yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gwelai ef fod defnydd effeithiol o’r Rhyngrwyd yn seiliedig yn ei hanfod ar syniadau eithaf traddodiadol ynglŷn â sut i ddosbarthu cerddoriaeth: ‘mae’n ddiwydiant cartref gyda hen syniadau wedi profi’n eithaf llwyddiannus: mae angen caneuon da, addysgu neu adlonni, ymgysylltu â’r cyhoedd ac yna gwerthu. Mae’r Rhyngrwyd yn gatalydd i hyn ac mae’r dechnoleg rad yn ei wneud yn fodel busnes cynaliadwy.’

Mae busnes presennol ‘John Owen’ yn seiliedig ar reoli, hyrwyddo a recordio ac, fel yn achos Cerdd X, mae’r posibilrwydd o ddefnyddio’r Rhyngrwyd i hysbysebu bandiau’n golygu bod costau wedi lleihau ac felly does dim angen gwerthu cymaint o gynnyrch er mwyn parhau’n weithredol. Mae pwyslais y safle ar gyflwyno gwybodaeth mewn modd syml, gyda dolenni at gerddoriaeth, bywgraffiadau, rhestrau gigiau a safleoedd y bandiau eu hunain.

O safbwynt y ‘diwydiant’ felly, y ffactorau allweddol yw hygyrchedd, y gallu i symud yn rhwydd o gwmpas y safle a sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd pob rhan o’r farchnad bosibl. Mae cwmni recordio o Gymru sy’n fwy o ran maint ac wedi’i sefydlu ers cyfnod hirach na’r rhai a grybwyllwyd uchod (cwmni a elwir yma yn Label X) yn gallu manteisio ar ei enw a’i hanes i ddenu pobl i’w safle. Yn debyg i bresenoldeb cerddoriaeth werin ar-lein, mae llawer o ddiddordeb yng nghynnyrch y label. Mae eu gwefan wedi’i rhannu’n nifer o isadrannau ar gyfer pedwar is-label o dan brif faner Label X, a defnyddia pob un ryngwyneb syml sy’n arddangos gwaith celf yr albwm dan sylw, siop ar-lein lle gellir prynu recordiadau’n rhwydd ac adran ar gyfer gwerthu fersiynau lawrlwythadwy trwy iTunes, sef rhyngwyneb lawrlwytho poblogaidd ar gyfer chwaraewyr MP3. Eto, gwelwn hwylustod mynediad yn cael blaenoriaeth dros systemau ymgysylltu cymhlethach. Mae’n rhyngwyneb economaidd yn hytrach nag un digidol soffistigedig.

Mae cwsmeriaid y siop ar-lein yn eithaf amrywiol; prynwyr un-tro yw nifer o’r 1,200 cwsmer cofrestredig, yn hytrach na ‘dilynwyr’ y label. Hefyd, mae llawer o’r cwsmeriaid hyn yn geidwadol eu chwaeth; maent yn tueddu i brynu cynnyrch y bandiau cyfarwydd, sefydledig gan lynu wrth gatalog o recordiadau blaenorol neu gasgliadau; yn gyffredinol, prin yw eu diddordeb yn y bandiau iau, tanddaearol a mwy annibynnol. Yn aml, y cwsmeriaid gorau yw’r rhai o dramor – mae’r cwsmeriaid hynny ar y cyfan yn ymddiddori mwy yn yr hyn sy’n dod allan nesaf ac yn gyffredinol maent yn prynu mwy o gynnyrch na chynulleidfaoedd Prydain.

Ymddengys fod y model ym mhob achos yn un ceidwadol oherwydd pwysigrwydd gwerthiant. Nid yw’r safleoedd yn gwneud unrhyw beth i ddenu dilynwyr i brynu’n reddfol neu fympwyol gan fod eu pwyslais ar helpu cwsmeriaid i ddarganfod yr hyn y maent eisoes wedi’i brynu gan geisio gwerthu cynnyrch tebyg iddynt ar sail hynny. Y cwestiwn, felly, yw sut y gellir diwygio’r safleoedd hyn i greu diddordeb a denu dilynwyr newydd?

Ar wahân i wefannau, mae gan y Rhyngrwyd nifer o wasanaethau eraill o ddiddordeb yn gerddorol. Erbyn hyn mae modd lawrlwytho’r rhan fwyaf o gerddoriaeth sydd ar y farchnad o iTunes, ond gyda’r gwasanaeth ffrydio Spotify ar gael ar ffonau symudol erbyn hyn, mae wedi dod yn ddewis dichonadwy arall i iTunes. Mae’n hollbwysig fod labeli o Gymru’n ymgysylltu gyda’r gwahanol wasanaethau lawrlwytho cerddoriaeth er mwyn parhau i ddod â’u cynnyrch i sylw defnyddwyr cerddoriaeth, sydd â mwy o ddewis o fiwsig ar gael iddynt yn ddigidol nag erioed o’r blaen.

Cynnwys Digidol Pellach

Er bod labeli efallai’n gyndyn o fuddsoddi’r holl amser sydd ei angen i ddarparu a datblygu cynnwys digidol pellach, mae safleoedd megis Myspace, trwy gynnig modd o rannu fideos a rhoi mynediad at gyfryngau ffrydio, yn creu cyswllt pellach rhwng y cerddor a’r darpar wrandäwr, a fyddai efallai, o ganlyniad, yn treulio mwy o amser ar wefan neu dudalen y band neu’r artist. Gall hyn yn y pen draw arwain at don newydd o ddiddordeb mewn band gan gynyddu gwerthiant eu cynnyrch. Gall lawrlwythiadau unigryw, penodol o ran amser, o draciau newydd, perfformiadau byw a deunydd prin gael eu huwchlwytho ar-lein fel y gall dilynwyr eu lawrlwytho’n rhad ac am ddim gan greu diddordeb pellach. Gellir cymharu hyn â’r recordiad answyddogol o gig byw, rhywbeth sydd erioed wedi creu diddordeb mawr ymysg dilynwyr.

Gall y traciau ‘prin’ hyn, wrth gwrs, gael eu rheoli’n ofalus gan bwy bynnag sy’n rhedeg y safle Myspace/Facebook/Twitter. Mewn sawl achos, y band ei hun fydd yn gwneud hyn, gan gysylltu â’u dilynwyr trwy flogiau, a hyd yn oed – os yw amser yn caniatáu – trwy ohebiaeth bost electronig. Mae hyn oll yn ennyn rhagor o ddiddordeb ar ran y dilynwyr ac yn cynyddu eu teyrngarwch. Prin, bellach, yw band sydd heb y fath safle, neu safleoedd. Mae’r labeli’n gwerthu’r gerddoriaeth yn ‘ffisegol’ tra bydd grwpiau’n cymryd cyfrifoldeb dros yr ochr greadigol. Mae’n werth crybwyll Second Life, gwefan rhyngweithio cymdeithasol sydd rywle rhwng Myspace a’r gêm gyfrifiadurol The Sims, lle mae defnyddiwr yn creu avatar (delwedd 3D) o’u persona ar-lein, gan ‘fyw’ o fewn byd rhithwir. Mae hwn yn fyd 3D rhyngweithiol ac yn cynnwys tai, siopau a lleoliadau y gall yr avatar ar-lein ymweld ac ymgysylltu â hwy. Mae Second Life a safleoedd tebyg yn galluogi bandiau i berfformio mewn ‘gigiau rhithwir’ ar gyfer dilynwyr dethol, ac er nad oes cymaint wedi manteisio ar y cyfle ag sy’n ymweld â safleoedd ‘dau ddimensiwn’ megis Facebook a Twitter, mae’n parhau i fod yn ddewis ychwanegol wrth farchnata.

Casgliadau

Gyda phresenoldeb technoleg fand eang a ffonau symudol pwerus y genhedlaeth nesaf, mae ffrydio cyfryngau byw - hynny yw cyfryngau sy’n cael eu rheoli’n ganolog a’u cyflwyno yn fyw i sylw pwy bynnag sy’n mynd ar y wefan - wedi dod yn rhan bwysig o’r Rhyngrwyd. Mae Youtube wedi cornelu’r farchnad fideo-ar-alw, ac mae’r ras i ddarganfod marchnad gerddorol gyfatebol yn parhau rhwng iTunes a Spotify. Daw gwefan o’r enw Modlife â’r elfennau hyn ynghyd mewn rhyngwyneb un-stop, ond hyd yma mae eu model yn seiliedig ar danysgrifiad, sydd braidd yn groes i’r graen i’r genhedlaeth bresennol sy’n disgwyl cael mynediad am ddim i bopeth ar y We.

Mae’n hanfodol i’r diwydiant cerddoriaeth presennol yng Nghymru beidio â bod ar ei hôl hi wrth ddefnyddio’r safleoedd hyn, gan fod ganddynt ran hanfodol i’w chwarae o ran gwerthiant, marchnata a hyrwyddo, fel safleoedd lle mae dilynwyr cerddoriaeth boblogaidd yn ymgysylltu gyda bandiau am y tro cyntaf. Mae dilynwyr pop o bob math yn fwy gwybodus am y Rhyngrwyd nag erioed ac yn cael eu cyffroi gan ddatblygiadau yn nhechnoleg y We yn hytrach na’u hofni; maent yn rhagweld y fath ddatblygiadau ac yn manteisio arnynt. Ar hyn o bryd mae rhaniad amlwg rhwng ymddangosiadau cwmnïau recordio ar-lein, sy’n dueddol o ddefnyddio safleoedd syml a ‘diogel’, a’r profiad llawer mwy cyfoethog a gynigir gan safleoedd rhyngweithio cymdeithasol y bandiau sy’n tueddu i fod yn agosach at elfen flaengar y We.

Mae ymwybyddiaeth o fodolaeth cerddoriaeth yn hollbwysig ac felly dylai bandiau a labeli weithio’n agosach at ei gilydd er mwyn gwneud y gorau o’u presenoldeb ar y We. Er bod labeli, a’u safleoedd sylfaenol a swyddogaethol, efallai’n deall eu cynulleidfa bresennol ac yn rheoli gwerthiant, y grwpiau pop sydd yn awr yn rheoli’r berthynas rhyngddynt eu hunain a’r brîd newydd o’r hyn yr arferid ei alw’n brynwyr recordiau.

Mae’r berthynas gyda’r cyfryngau’n parhau i fod wedi’i seilio ar gyfnewid gwybodaeth rhwng bandiau a ffynonellau print, y We, teledu a radio, ond mae’n awr yn bosib cyfuno cyfweliad testun gyda pherfformiadau awdio neu fideo ar-lein ac mae’n hollbwysig fod y cwmni recordio, neu gynrychiolwyr cyhoeddusrwydd priodol, yn llwyddo i gynnig y cynnwys hwn i’r cynnyrch dan sylw. Mae’r dyddiau pan oedd cwmnïau recordio’n gwarchod y gerddoriaeth yn ofalus wedi mynd, er fod datblygiad gwasanaeth ffrydio Apton gan gwmni Sain yn arwydd fod cwmnïau yn ymateb i newidiadau yn y farchnad. Mae darparu cynnwys rhad ac am ddim a fydd ar gael ar-lein yn hanfodol i greu a meithrin dilynwyr ar gyfer y band ac, yn y pen draw, i werthu recordiadau a nwyddau perthnasol.

Bu cynnydd yn ystod y degawd diwethaf mewn astudiaethau sy’n edrych ar y defnydd o’r rhyngrwyd, e-farchnad, cyhoeddi a hawlfraint, a’r defnydd o gerddoriaeth ar-lein yng Nghymru (gw. ap Siôn 2008, Carr 2010 a Thomas 2015). Fodd bynnag, ond megis cychwyn mae’r gwaith yn y maes. Mae’r We ar flaen y symudiad seismig yma mewn ymwybyddiaeth ddiwylliannol a rhaid i’r diwydiant cerddoriaeth Cymraeg anelu felly at weithredu ar raddfa fyd-eang yn hytrach na lleol, gan gadw ei hunaniaeth gynhenid trwy’r ochr greadigol. Mae’r neges yn syml: ‘ymgysylltwch yn llawn gyda’r Rhyngrwyd ac fe ddaw’r dilynwyr atoch’.

Joseph Shooman

Gwefannau

Llyfryddiaeth

  • Pwyll ap Siôn (et al.), Adeiladu Strategaethau Busnes Newydd ar gyfer y Diwydiant Cerdd yng Nghymru (Bangor, 2008)
  • Paul Carr, Investigating the Live Music Industry within Wales: A Critical Analysis (adroddiad ar gyfer Sefydliad Cerddoriaeth Cymru) (Caerdydd, 2010)
  • Steffan Wyn Thomas, ‘A consumer investigation: monetising, marketing and distributing digital music in a niche and minority language market – the situation in Wales’ (traethawd PhD Prifysgol Bangor, 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.