Rhys, Euros (g.1956)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Yn dod o deulu cerddorol ac yn frawd i’r canwr gwerin adnabyddus Tecwyn Ifan, astudiodd Euros Rhys Evans yng Ngholeg Gogledd Prifysgol Cymru, Bangor. Aeth wedyn i’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain i gwblhau tystysgrif diploma ar y piano. Daeth yn athro cerdd yn Ysgol Gyfun Llanhari ac yna’n bennaeth adran yno rhwng 1984 ac 1987. Rhwng 1988 a 2006 bu’n gweithio fel cerddor llawrydd yn bennaf ar gyfer BBC Cymru ac S4C, ac yn gyfarwyddwr cerdd ar gyfer y rhaglen grefyddol Dechrau Canu, Dechrau Canmol rhwng 1998 a 2005.

Gan arddangos doniau cerddorol er pan yn ifanc (daeth ei osodiad o eiriau Eifion Wyn ‘Dod ar Fy Mhen’ yn hynod boblogaidd ymysg yr enwadau Cristnogol), bu’n aelod o’r grŵp poblogaidd Perlau Tâf o 1969 hyd at ganol yr 1970au tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf. Yn ddiweddarach daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1985 gyda’r gân ‘Ceiliog y Gwynt’ a berfformiwyd gan Siân James o’r grŵp gwerin Bwchadanas. Yn 1996 derbyniodd wobr BAFTA Cymru am y gerddoriaeth wreiddiol orau ym maes ffilm a theledu ar gyfer y ffilm Streic, ynghyd â cherddoriaeth ar gyfer rhaglenni drama megis Y Palmant Aur a’r ffilm Nel.

Bu’n weithgar ym maes addysg cerddoriaeth fel arholwr gyda’r ABRSM (Associated Board of the Royal Schools of Music) ers 1993. Yn 2006 cafodd ei benodi’n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan greu rhaglenni gradd BA ac MA mewn Astudiaethau’r Llais ar y cyd ag Academi Llais Ryngwladol Cymru, a sefydlwyd gan y canwr Dennis O’Neill.



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.