Rhys, Gruff (g.1970)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

(gw. hefyd Super Furry Animals)

Cafodd Gruff Maredudd Bowen Rhys ei eni yn Hwlffordd. Ar ôl i’w deulu symud i Ddyffryn Ogwen yng Ngwynedd, cafodd ei addysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ac yna’n ddiweddarach ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion mewn celfyddyd gain. Ef oedd prif leisydd y Super Furry Animals a bu’n aelod hefyd o Ffa Coffi Pawb. Bu’n cydweithio gyda’r offerynnydd trydanol Americanaidd Boom Bip (fel rhan o’r ddeuawd Neon Neon) gan ymddangos hefyd ar recordiau sawl cerddor pop Saesneg, megis Gorillaz (prosiect Damon Albarn o’r grŵp pop Blur).

Dechreuodd Gruff Rhys ddysgu chwarae drymiau pan oedd yn chwech oed. Yn ystod ei arddegau roedd Maffia Mr Huws, y band o Fethesda, yn ddylanwad mawr arno. Pan oedd yn fachgen ysgol ffurfiodd fand gyda’i ffrind Rhodri Puw ac roedd y ddau yn rhannu’r un chwaeth gerddorol. Mynychodd Ysgol Roc yn y clwb ieuenctid ym Methesda ac yno cyfarfu â Dafydd Ieuan a fyddai’n dod, yn ddiweddarach, yn aelod o Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals. Bu’r ddau yn aelodau o Machlud am gyfnod. Sefydlodd Gruff Rhys a Rhodri Puw ffansîn am y sîn roc Gymraeg yn Nyffryn Ogwen ac - o dan ddylanwad grwpiau pync amgen ac arbrofol megis Sonic Youth - aethant ati hefyd i adeiladu gitârs yng ngarej tad Rhodri Puw. Un noson, ar ôl methu gweld y Smiths yn perfformio yn Llandudno, penderfynodd y ddau recordio caneuon ar gasét. Byddai gyrfa recordio fwy swyddogol yn dechrau yn fuan ar ôl hynny.

Fel aelod o Ffa Coffi Pawb a Super Furry Animals bu Gruff Rhys ar flaen symudiad arbrofol yn y sîn roc Gymraeg ac mae’n un o’r cerddorion Cymraeg/Cymreig mwyaf blaengar yn y byd roc Eingl-Americanaidd. Dechreuodd recordio a theithio fel artist unigol yn 2005, gan ryddhau tri albwm unigol a dau fel rhan o’r ddeuawd Neon Neon. Ymddangosodd hefyd ar recordiau artistiaid eraill a sefydlodd Irony Board, ei label recordiau ei hun, a fu’n gyfrifol am ryddhau albwm cyntaf Cate Le Bon.

Mae Gruff Rhys wedi cael ei gydnabod yn eang am ei gerddoriaeth (yn 2008 cafodd Stainless Style gan Neon Neon ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddorol y Nationwide Mercury ac yn 2011 enillodd Hotel Shampoo Wobr Cerddoriaeth Gymreig). Fe’i hurddwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd o Brifysgol Bangor yn 2015. Mae ei waith wedi ymestyn hefyd i fyd ffilm (cyd-gyfarwyddodd Separado!) ac i fyd theatr gyda Praxis Makes Perfect yn cael ei berfformio ar lwyfannau ledled Prydain gan National Theatre Wales yn 2013.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

fel artist unawdol:

  • Yr Atal Genhedlaeth (Placid Casual PLC10CD, 2005)
  • ‘Gwn Mi Wn’/‘Ni Yw y Byd’ [sengl] (Placid Casual PLC11, 2005)
  • Candylion (Rough Trade RTRADCD371, 2007)
  • Hotel Shampoo (Ovni OVNI003, 2011)
  • ‘Sensations in the Dark’ [sengl] (Ovni OVNI004, 2011)
  • ‘Honey All Over’ [sengl] (Ovni OVNI005, 2011)
  • Atheist Xmas [EP] (Ovni ,OVNI008, 2011)

gyda Neon Neon:

  • [gyda Boom Bip] Stainless Style (Lex LEX067CD, 2008)
  • Praxis Makes Perfect (Lex LEX091CD, 2013)

yn ymddangos ar:

  • Mogwai, ‘Dial: Revenge’, Rock Action (Southpaw PAWCD1, 2001)
  • FC Kahuna, ‘Fear of Guitars’, Machine Says Yes (City CITYROCK2CD, 2002)
  • Dangermouse and Sparklehorse, ‘Just War,’ Dark Night of the Soul (Parlophone 5099964813622, 2010)
  • Simian Mobile Disco, ‘Cream Dream,’ Temporary Pleasure (Wichita WEBB216CDL, 2009)
  • Gorillaz [gyda De La Soul], ‘Superfast Jellyfish,’ Plastic Beach (Parlophone 5099962616720, 2010)

Traciau Sain:

  • Separado! (Soda SODA118, 2010)
  • ‘Space Dust #2/Whale Trail’ [trac sain i gêm gyfrifiadurol] (Ovni OVNI007, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.