Richards, Mair (1787-1877)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae’n deg disgrifio Mair Richards, a aned yn Llanymawddwy, Sir Drefaldwyn, fel cofnodydd alawon gwerin cyntaf Cymru. Medrai ganu pum offeryn, arweiniai gôr a cherddorfa eglwysi Darowen a Llangynyw a’i chyfraniad pennaf i draddodiad cerddorol Cymru oedd ei gwaith cadwraethol trwy ei llawysgrifau toreithiog. Roedd yn un o wyth o blant ar aelwyd gerddgar Thomas Richards (1754-1837) a Jane Lloyd (1756-1840), ac roedd ei thad yn offeiriad Anglicanaidd nodweddiadol o’r oes, yn Eglwyswr i’r carn ond yn Fethodist wrth reddf. Cyfrifid y tad a’r brodyr ymysg yr ‘hen bersoniaid llengar’ (Jenkins 1933, 115) tra gwnaeth Mair ei chyfraniad trwy warchod llawysgrifau’r teulu. Cedwir y llawysgrifau hynny bellach yng nghasgliad Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu hi a’i chwiorydd, Jane ac Elizabeth, yn gaeth i’w rhwymedigaethau teuluol ond profodd Mair wir ryddid yn ystod ei hymweliad â Llundain, rhwng gaeaf 1818 a gwanwyn 1819 (Davies 2006, 80). Roedd hi’n ferch egwyddorol, annibynnol ei barn, ac ysgrifennai ei llythyron yn y Gymraeg yn ddi-ffael. Torrodd ei chŵys ei hun gan ennill parch offeiriaid llengar, beirdd amlycaf ei hoes a gwŷr dysgedig ei dydd, mewn oes pan nad oedd llais y ferch yn hyglyw mewn cymdeithas. Medrai fod yn heriol ei natur ac yn sicr nid ‘mwynder Maldwyn’ a’i nodweddai; galwodd Robin Ddu Eryri hi mewn cerdd a gyfansoddodd 8 Awst 1860 fel ‘rhosyn o ddynes’ (NLW 1860, 189). Ar y llaw arall creodd enw nid bychan iddi ei hun fel un a gynhaliai ymrysonau afieithus wrth ddiddanu ar y delyn. Disgrifiodd Ieuan Glan Geirionydd hi fel ‘[m]enyw fechan yn draed ac yn dafod i gyd’ (Ellis 1981, 112-13). Gwnâi lawer ag Angharad Llwyd o fewn cylch goleuedig y merched llengar.

Cynhwysa ei llawysgrifau cerddorol donau a phenillion plygain, alawon gwerin, emyn-donau ac anthemau. Cyfrannai at draddodiad hirhoedlog y plygain trwy ei dawn canu, arwain a chofnodi, er enghraifft gwelir cofnod ganddi ar ffurf dyddiadur sy’n cwmpasu chwarter canrif a mwy o draddodiad byw ei hardal, sef y dystiolaeth llygad-dyst orau o hanes gwasanaethau plygain Maldwyn rhwng 1828 ac 1871. Bu’n arwain cantorion ar gyfer gwasanaethau’r plygain am flynyddoedd di-dor a cheir ymysg ei chasgliadau hynafiaethol nifer helaeth o hen fesurau’r carolau y cenid y penillion plygain arnynt.

Bu Mair hefyd yn casglu a chofnodi alawon gwerin dirifedi, gyda’r dyddiad 1813 ar un o’i chasgliadau cynharaf (sef NLW Cwrtmawr MS 21). Cyfrifid hi a’i brawd Dewi Silin ymysg casglwyr alawon gwerin amlycaf eu dydd ym Maldwyn a bu’r ddau’n ymwneud yn helaeth â John Jenkins (Ifor Ceri) trwy eu gweithgarwch casglu. Byddent ill tri’n cymharu casgliadau a derbyniodd Mair gasgliad cynharaf Ifor yn rhodd ganddo. Roedd y teulu diwyd hwn, a weithiai mewn modd hynaws a dirodres, yn destun edmygedd ar lawr gwlad. Etholwyd Mair yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1821 am ei chyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg (Ellis 1977, 21; Ellis 1981, 112).

Câi Mair ei hadnabod fel prif gynheilydd llawer agwedd ar gynulliadau diwylliedig ei dydd a dilyn ôl ei throed a wnaeth casglyddion alawon gwerin yr 20g., er enghraifft Mary Davies, Grace Gwyneddon Davies a Ruth Herbert Lewis. I Mair ei bywyd oedd ei milltir sgwâr. Hawliai Darowen le arbennig yn ei chalon ac nid syndod iddi ddewis yr enw barddol Mair Darowen pan y’i hurddwyd yn Ofyddes yng Ngorsedd y Beirdd yn 1824 (Ellis 1954, 77).

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • NLW Cwrtmawr MS 298B
  • R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Caerdydd, 1933)
  • Mari Ellis, ‘Teulu Darowen’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, III/8 (1953), 120–39
  • ———, ‘Teulu Darowen (parhad)’, Journal of the Historical Society of the Church in Wales, IV/9 (1954), 58–88
  • ———, ‘Mair Richards Darowen (1787–1877): Portread’, Yr Haul a’r Gangell, 6 (Hydref, 1977), 21–5
  • ———, ‘Mair Richards Darowen (Ail ran)’, Yr Haul a’r Gangell, 2 (Gwanwyn, 1978), 28–34
  • ———, ‘Rhai o Hen Bersoniaid Llengar Maldwyn’, yn G. ap Gwilym ac R. H. Lewis (goln.), Bro’r Eisteddfod: Cyflwyniad i Faldwyn a’i Chyffiniau (Abertawe, 1981), 85–116
  • ———, ‘Y Personiaid Llengar a Llên y Werin’, yn E. W. James a T. V. Jones (goln.), Gwerin Gwlad: Ysgrifau ar Ddiwylliant Gwerin Cymru, I (Llanrwst, 2008), 113–39
  • Sioned Davies, ‘“Far From the Madding Crowd”: A Montgomeryshire Lady in London’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 13 (2006), 74–93
  • Leila Salisbury, ‘“Melusder Mwyn ar Danau Per Odlau”: Mair Richards Darowen (1787–1877) a thraddodiad gwerin Maldwyn’ (PhD Prifysgol Bangor, 2012)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.