Roberts, Alwena (Telynores Iâl; 1899-1981)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:25, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Alwena Roberts yn delynores ac yn athrawes telyn ddylanwadol a ysbrydolodd ddwsinau o ddisgyblion telyn o’r 1930au ymlaen. Cafodd ei geni a’i magu yn Lerpwl a Wallasey, ar aelwyd Gymraeg a diwylliedig. Roedd ei rhieni yn hanu o Fryneglwys, un o bum plwy cwmwd Iâl yn yr hen Sir Ddinbych. Dyna sut y dewisodd yr enw ‘Telynores Iâl’ pan y’i hurddwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1923.

Drwy ddylanwad ei mam, dysgodd chwarae tri offeryn, sef y piano, yr organ a’r delyn. Y delynores a’i hysbrydolodd yn y lle cyntaf oedd Bessie Jones, Telynores Gwalia (Madame Diverres yn ddiweddarach), ond drwy symbyliad parhaus ei mam yn bennaf y llwyddodd i ennill prif wobr y delyn yn Eisteddfod y Gadair Ddu ym Mhenbedw yn 1917. Roedd hi’n dyst i’r seremoni ddramatig lle cyhoeddwyd mai Hedd Wyn oedd y bardd cadeiriol, ac yntau wedi ei ladd yn y Rhyfel Mawr. Yn Eisteddfod Genedlaethol Corwen ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd brif wobr y delyn unwaith eto, ac yn 1927 cafodd gyfle i berfformio mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi gyda Cherddorfa Symffoni Llundain.

Yn 1931 roedd ganddi gôr o ddeg o delynorion yn chwarae mewn Cyngerdd Celtaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ymhen dwy flynedd roedd hi’n perfformio gyda Cherddorfa’r Hallé. Bu’n delynores sawl gwaith gyda Cherddorfa Ffilharmonig Lerpwl o dan arweinyddion megis Thomas Beecham, Adrian Boult, Henry Wood, Malcolm Sargent a John Barbirolli. Cafodd gyfle fwy nag unwaith hefyd i chwarae o flaen y teulu brenhinol. Bu’n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol droeon a bu hefyd yn arholi telynorion ar gyfer arholiadau’r Orsedd.

Wedi iddi ennill diploma LRAM fel perfformydd, fe’i penodwyd yn athrawes telyn yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Telyn ‘fenthyg’ oedd ganddi yno ar y dechrau - telyn y Fonesig Olwen Carey Evans - hyd nes i Lady Gladstone, Penarlâg, gyflwyno telyn gothig yn rhodd i’r coleg. Oherwydd bygythiad awyrennau’r Almaen, gorfodwyd teulu Alwena Roberts i symud i Eifionydd yn 1940, ac yn fuan wedyn chwalwyd eu cartref yn Wallasey gan fom. Roedd y teulu’n gapelwyr selog a bu Alwena yn organydd yng Nghapel New Brighton, Wallasey, am 25 mlynedd. Yn 1948 roedd hi’n bresennol mewn cwrdd gweddi yn Nolgellau lle ‘disgynnodd yr Ysbryd Glân’, profiad a’i gwnaeth yn berson dwys a defosiynol iawn am weddill ei bywyd. Symudodd hi a’i chwaer i Aberystwyth ar ddechrau’r 1950au.

Fe’i cofir fel gwraig ddiymhongar gyda sêl a brwdfrydedd heintus dros y delyn. Roedd ganddi safonau uchel, a gofal eithriadol am bob disgybl. Teithiai ymhell ac agos i roi gwersi telyn. Ar un adeg dysgai mewn pedair sir wahanol bob wythnos, a hynny gan ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dylanwadodd yn drwm ar do cyfan o delynorion, yn eu plith Osian Ellis, Frances Môn Jones, Gwenllian Dwyryd, Elinor Bennett, Huw Lewis Jones, Delyth Evans, Morfudd Maesaleg a Susan Drake. Bu ei chyfraniad yn allweddol i’r twf a welwyd ym mhoblogrwydd y delyn fel offeryn yng Nghymru yn ail hanner yr 20g.

Arfon Gwilym



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.