Roberts, John (Alaw Elwy, Telynor Cymru; 1816-94)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:29, 25 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a chyfarwyddwr ensemble offerynnol a ddaeth i amlygrwydd yng Nghymru yn y 19g., a disgynnydd i deulu’r sipsiwn Cymreig, oedd John Roberts. Fe’i ganed yn Rhiwlas Isaf, Llanrhaeadr, Sir Ddinbych, yn fab i John Roberts, Pentrefoelas. Sarah, merch William Wood a chwaer i Archelaus Wood, oedd ei fam.

Wedi cyfnod o naw mlynedd yn y Gatrawd Gymreig (Royal Welch Fusiliers), lle cafodd brofiadau cerddorol gwerthfawr, ymgartrefodd yn y Drenewydd, a bu’n byw yno hyd ddiwedd ei oes. Twf diwydiannol yr ardal, poblogaeth gynyddol a lleoliad daearyddol y dref nid nepell o Glawdd Offa a barodd iddo ymsefydlu yn y gymdogaeth honno. Fe’i dysgwyd i ganu’r delyn deires gan aelod o deulu’r sipsiwn ac o ganlyniad roedd ganddo arddull berfformio liwgar ac egnïol. Yn 1836 priododd Eleanor Wood Jones, merch Jeremiah Wood (Jerry Bach, telynor stad Gogerddan, Aberystwyth) (gw. Woodiaid, Teulu’r).

Bu’n ddisgybl i Richard Roberts, Caernarfon, a daeth yn delynor adnabyddus ac yn ganwr penillion amlwg. Er iddo ennill bri fel unawdydd (enillodd delyn deires yn Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni, 1842, ac yn Eisteddfod Caerdydd, 1850), ei waith fel cyfarwyddwr cerddorol y Cambrian Minstrels a ddaeth â sylw cenedlaethol i’w ran. Yr ensemble proffesiynol hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru’r cyfnod. Ei naw o feibion oedd yr aelodau (gw. Kinney 2011, 178), a theithient o amgylch prif drefi gwyliau Cymru – Y Bala, Aberystwyth, Tywyn, Dolgellau, Porthmadog a Llandudno – yn ystod yr haf yn diddanu ymwelwyr gan dreulio misoedd y gaeaf yn perfformio mewn gwestai a thai bonedd yng Nghymru a Swydd Amwythig.

Fel un o brif delynorion teires ei gyfnod, perfformiodd o flaen y Frenhines Victoria yn Portsmouth (1834) a Chaer-wynt (1835 ac 1847), o flaen y Dug Constantine o Rwsia yn Aberystwyth, a brenin Gwlad Belg yn Abertawe (1848). Dysgodd ei blant i ganu’r delyn, y ffidil a’r ffliwt, a’r Cambrian Minstrels a fu’n diddanu’r Frenhines ym mhlasty Palé, Llandderfel, yn 1889. Siaradai Romani, Cymraeg a Saesneg, a’i gyswllt gyda’r anthropolegwyr Francis Hindes Groome a Dora Yates a fu’n sail i’w gasgliad helaeth o lythyrau a dogfennau sydd ar gadw ym Mhrifysgol Lerpwl heddiw.

Yn Arwest Fawr Glan Geirionnydd (1886) fe’i hurddwyd gan Gwilym Cowlyd yn ‘Delynor Cymru’. Ar adeg pan oedd y Cymry’n gwrthod y delyn deires oherwydd poblgrwydd y delyn bedal Ewropeaidd, cyfrannodd John Roberts i’w hadfywiad ac o ganlyniad i’w barodrwydd i fentro fel perfformiwr, diogelodd yr offeryn ar gyfer cerddorion yr 20g. gan gynnwys rhai fel Nansi Richards (Telynores Maldwyn) a Robin Huw Bowen a ddaeth i’w olynu.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Ifor ap Gwilym, ‘John Roberts “Telynor Cymru”, 1816–1894’, Welsh Music/Cerddoriaeth Cymru, 5/1 (1976), 34–41
  • E. Ernest Roberts, With harp, fiddle and folktale (Y Drenewydd, 1981)
  • Robin Huw Bowen, ‘John Roberts “Telynor Cymru (1816–1894)’, Taplas, 64 (Mehefin–Gorffennaf, 1994), 16–17
  • Wyn Thomas, ‘John Roberts (Telynor Cymru) 1816– 1894’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 1 (1996), 172–9
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.