Roberts, John Henry (Pencerdd Gwynedd) (1848-1924)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Organydd, cyfansoddwr, addysgwr a golygydd cerddorol. Fe’i ganed ym Mhen’rallt, Y Gefnan, ar lethrau Mynydd Llandygái ger Bangor. Yn fab i Harri ac Elizabeth Roberts, yn fachgen fe weithiodd yn y chwarel a chael gwersi ar yr organ gan Evan Thomas. Yn bedair ar ddeg oed daeth yn organydd capel y Wesleaid Cymraeg, Seilo, Tre-garth. Dan ddylanwad bywyd diwylliannol y gymdogaeth, chwarelwyr a cherddorion Bethesda a’r fro (rhai fel David Roberts (Alawydd), Robert Williams, Cae Asaeth, ac Owen Humphrey Davies (Eos Llechid)), dysgodd hanfodion y grefft o gyfansoddi emyn-donau ac anthemau.

Fel organydd ifanc yng nghapeli Anghydffurfiol yr ardal, cynhaliai ddosbarthiadau i ddysgu darllen cerddoriaeth (dull sol-ffa Hullah ac nid Curwen). Ymddiddorai mewn cyfansoddi ac enillodd ei gantata, Y Mab Afradlon, wobr yn Eisteddfod Caer yn 1867. Yn ugain oed, symudodd i gyffiniau Tywyn, Meirionnydd, i fod yn ysgrifennydd chwarel Bryneglwys ger Abergynolwyn. Bu’n weithgar yno yn sefydlu cymdeithas gorawl ac yn gyfeilydd yn yr ardal, a gwnaeth gymaint i godi safonau darllen cerddoriaeth a chanu ymhlith y trigolion fel y gallodd y côr gyfrannu i Ŵyl Gerdd Harlech, a oedd yn ei hanterth bryd hynny.

Dan anogaeth Samuel Sebastian Wesley (1810–76), organydd Eglwys Gadeiriol Caerloyw, a Brinley Richards (1817–85), astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol (1870–4). (Yn 1886 ysgrifennodd ddwy erthygl ar Brinley Richards a ymddangosodd yn Y Geninen.) Bu’n ddisgybl i’r athro piano a chyfansoddi, William Sterndale Bennett (1816–75), a derbyniodd wersi organ gan Charles Steggall (sylfaenydd Coleg Brenhinol yr Organyddion). Enillodd radd MusBac o Brifysgol Caergrawnt (1882), a daeth yn Gymrawd o’r Coleg Tonic Sol-Ffa, Llundain.

Fe’i hurddwyd yn Gymrawd yr Academi Gerdd Frenhinol (FRAM). Dychwelodd i’w gynefin yn 1874 a’i benodi’n organydd Capel yr Annibynwyr Bethesda. Daeth yn organydd i nifer o enwadau yn eu tro: Capel yr Annibynwyr Cymraeg, Bethesda, Sir Gaernarfon (canol 1874–8); Eglwys y Presbyteriaid Saesneg, Turf Square, Y Maes, Caernarfon (1878–83).

Dan oruchwyliaeth Syr George Macfarren (pennaeth yr adran gerdd), graddiodd yn 1882 gyda BMus o Brifysgol Caergrawnt cyn derbyn swydd organydd Capel y Presbyteriaid Saesneg Castle Square, Caernarfon (1883–97). Symudodd i Lerpwl fel organydd a chôr-feistr Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg Chatham Street (1898–1924), lle y’i dilynwyd gan yr organydd un ar bymtheg oed, a’r cyfansoddwr tra dawnus, W. Albert Williams (1909–46).

Un o’i gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd oedd ‘Cwsg, Filwr, Cwsg’ (1875), ac fe’i disgrifiwyd gan T. Hopkin Evans yn Y Brython fel ‘y cyfansoddwr rhan-ganeuon gorau i genedl y Cymry ei gynhyrchu erioed.’ Aeth llawer o’i gynnyrch – a oedd yn cynnwys dros 400 o gantatas, anthemau, emyn-donau, rhan-ganeuon, unawdau a darnau ar gyfer piano a cherddorfa – yn angof ers blynyddoedd, mae rhan helaeth o’i waith allan o brint, a’i lyfrau emynau a’i werslyfrau cerddorol wedi’u disodli, er bod nifer o’i emyn-donau i’w clywed o hyd, gan gynnwys ‘Aberafon’, ‘Gwynfa’, ‘Port Penrhyn’ ac ‘Uxbridge’.

Bu’n ymwneud â’r llyfrau emynau a’r casgliadau cysegredig canlynol: Cydganau y plant (1870); Llawlyfr Moliant (1880 ac 1890); Llawlyfr Elfennau Cerddoriaeth (1890); Hymnau yr Eglwys (1893); Llyfr Anthemau (1896); Llyfr Hymnau a Thônau y Methodistiaid Calfinaidd (1897); Llawlyfr Moliant yr Ysgol Sul (1897) (gyda W. T. Samuel); Llyfr Tonau y Methodistiaid Wesleyaidd (1904) (gyda D. Emlyn Evans a Wilfrid Jones). Cyfrannodd i’r Cerddor ac anfonodd ddymuniadau da at W. S. Gwynn Williams pan lansiwyd Y Cerddor Newydd yn 1922.

Cymaint ei awydd i eraill gael addysg gerddorol fel y sefydlodd ym Methesda yn 1874 Goleg Hyfforddiant Cerddorol Gogledd Cymru, ac yna, yn Lerpwl, y Cambrian School of Music ac, ar gyfer argraffu cerddoriaeth, y J. H. Roberts Music Publishing Company. Yn 1877 fe’i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd. Treuliodd oes gyfan yn dysgu, beirniadu, cyfansoddi, cyhoeddi, arwain a chyfeilio. Fel cefnogwr brwd nodiant y sol-ffa, cyfrannodd erthyglau’n gyson i’r wasg, gan gynnwys cyhoeddiadau fel Y Cerddor, Y Genedl a’r Brython, ar faterion fel canu cynulleidfaol, canu corawl, arwain, cerddoriaeth a’r eisteddfod, a dadleuai dros sefydlu cerddorfeydd yng Nghymru. Dylanwadodd ei gyfrol, Llawlyfr Elfennau Cerddoriaeth (1890), hefyd ar gynnwys a chyfeiriad addysg gerddorol ymhlith amaturiaid ledled Cymru.

Yn 1878 priododd Annie Williams a chawsant saith o blant. Daliodd i gyfrannu i fyd cerddoriaeth Gymreig hyd ddiwedd ei oes trwy gyfansoddi, cyhoeddi ac ymchwilio. Bu farw yn Lerpwl ar 6 Awst 1924 ac fe’i claddwyd ym mynwent Smithdown Road y ddinas.

David R. Jones a Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • ‘Ein Cerddorion Cymreig’, Yr Ymwelydd Misol, IV/12 (Rhagfyr, 1906), 140–1
  • ‘John Henry Roberts, Mus. Bac (Cantab) 1848–1924’, Y Brython (7 Awst 1924), 3
  • ‘Ein Cerddorion’, Y Cerddor, XII/48, 39–40
  • ‘Pencerdd Gwynedd’, Y Traethodydd, XVII (Cyfres 3), 22–8
  • Delyth G. Morgans, Cydymaith Caneuon Ffydd (2006)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.