Roberts, Rhydian (Rhydian; g.1983)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:07, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Erbyn hyn mae enw Rhydian Roberts yn un cyfarwydd iawn ym maes adloniant ysgafn ac mae wedi ennill cryn boblogrwydd fel canwr. Caiff ei gysylltu bellach ag arddull sioeau cerdd a cherddoriaeth ysgafn er iddo gael gael hyfforddiant mewn cerddoriaeth glasurol. Fe’i ganed ym Mhontsenni, ger Aberhonddu, a chafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd y Bannau, Aberhonddu. Oddi yno aeth i Goleg Llanymddyfri lle bu’n brif swyddog. Er iddo ganu a chystadlu pan oedd yn ifanc, chwaraeon a aeth â’i fryd yn Llanymddyfri a’i uchelgais oedd bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Daeth tro ar fyd pan enillodd ysgoloriaeth i astudio’r llais yn y Conservatoire yn Birmingham ac ymrodd yn llwyr i ddatblygu ei lais bariton cyfoethog o hynny ymlaen.

Tra oedd yn fyfyriwr yn Birmingham cafodd gryn lwyddiant gan gipio nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, megis Bwrsari Kathleen Ferrier a gwobr Reginald Vincent am ganu lieder. Er na chafodd lwyddiant ar gyfres y BBC, Any Dream Will Do, cyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghyfres yr X Factor a ddarlledwyd gan ITV, a daeth yn agos at gipio’r wobr gyntaf (a enillwyd gan Leon Jackson). Yn ystod y cyfnod hwn parhaodd i gystadlu’n llwyddiannus iawn mewn eisteddfodau.

Er iddo ganolbwyntio’n bennaf ar berfformio o flaen cynulleidfaoedd yng Nghymru, mae hefyd wedi canu yn rhai o brif neuaddau cyngerdd y Deyrnas Unedig, yn eu plith Neuadd Albert a Chanolfan y Barbican yn Llundain, Neuadd Symffoni Birmingham a Thŷ Opera Buxton. Yn ogystal, teithiodd o gwmpas neuaddau a theatrau mewn cynyrchiadau fel Rocky Horror Show, Grease a We Will Rock You. Rhyddhaodd bedair cryno-ddisg; y gyntaf oedd Rhydian (Sony, 2008), a ymddangosodd yn sgil ei lwyddiant ar y gyfres X Factor ac a werthodd dros 500,000 o gopïau. Rhyddhawyd O Fortuna (hefyd ar label Sony) flwyddyn yn ddiweddarach.

Ar y gryno-ddisg hon a gynhyrchwyd gan Karl Jenkins cafodd Rhydian gyfle i gydweithio gyda cherddorion byd-enwog gan gynnwys Kiri Te Kanawa, Bryn Terfel a Catrin Finch. Mae’r ddisg Waves a ryddhawyd yn 2011 yn torri cwys newydd gan fod elfennau electronig, mwy arbrofol yn perthyn iddi. Yn fuan wedyn recordiodd ddisg o ganeuon Cymraeg. Yn ogystal, rhyddhaodd dair disg sengl: The Impossible Dream yn 2008, The Prayer yn 2010 a Parade yn 2011.

Mae’n frwd ei gefnogaeth i elusennau a bydd yn perfformio mewn cyngherddau er budd mudiadau megis Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymorth Cristnogol, Help for Heroes a’r NSPCC. Yn 2013 bu ar daith o gwmpas theatrau Cymru a rhannau o Loegr gan berfformio unawdau operatig a chaneuon poblogaidd yn Saesneg a Chymraeg i gyfeiliant band byw ac ail-adroddwyd hynny yn 2017.

Euros Rhys

Disgyddiaeth

  • Rhydian (Sony 88697418512, 2008)
  • O Fortuna (Sony 88697596492, 2009)
  • Waves (Conehead CONE27, 2011)

Llyfryddiaeth

  • Cyfweliadau personol gyda John Quirk



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.