Roberts, Robert (Bob Tai’r Felin; 1870-1951)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:20, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Etifeddodd Bob Roberts, neu Bob Tai’r Felin, gorff o ganeuon gwerin lleol gan ei deulu a’i gymdogion yn ardal Cwmtirmynach, gerllaw’r Bala. Yn ddiweddarach roedd yn gyfrifol am eu cadw’n fyw trwy eu canu mewn nosweithiau llawen ac ar y gyfres radio Noson Lawen. Cawsant gynulleidfa eang hefyd trwy gyfrwng recordiau yn yr 1940au ar label Decca ac yn sgil y ffilm Noson Lawen/A Fruitful Year (1950) flwyddyn cyn ei farwolaeth.

Am hanner canrif roedd yn arweinydd y gân yng nghapel Cwmtirmynach ac yn athro Ysgol Sul yno hefyd. Fel aelod gweithgar yn ei filltir sgwâr, cymerai ran flaenllaw yn lleol mewn digwyddiadau cerddorol, llenyddol ac eisteddfodol. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931 enillodd y gystadleuaeth canu gwerin. Am gyfnod ar ôl hynny, gyda’i ferch Harriett, Robert Lloyd (Llwyd o’r Bryn), John Thomas a Lizzie Jane Thomas, bu’n aelod o Barti Tai’r Felin, gan deithio i ddiddanu cynulleidfaoedd ledled Cymru ynghyd â chymdeithasau Cymreig yn Lloegr. O 1944 ymlaen cyfrannodd at y rhaglen radio Noson Lawen gan ddod i sylw cynulleidfa genedlaethol. Bu’r rhaglen hon, a’i berfformiadau ef, yn allweddol ym mharhad traddodiadau canu gwerin a phoblogrwydd caneuon gwerin.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 1951 dadorchuddiwyd cofeb iddo yn 1961 ar fin y ffordd gerllaw’r hen felindy teuluol. Golygodd a threfnodd Haydn Morris ei ganeuon ar gyfer Snell and Sons yn 1959, ac yn ddiweddarach rhyddhaodd Sain CD o recordiau Bob Roberts o archif y BBC.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • Bob Roberts, Tai’r Felin (Sain SCD2608, 2009)

Llyfryddiaeth

  • Caneuon Bob Tai’r Felin (gol. Haydn Morris) (Abertawe, 1959)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.