Rondo

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:43, 27 Hydref 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Cerdd fer o darddiad Ffrengig yw rondo (rondeau). Roedd y ffurf, neu amrywiadau ar y ffurf, yn boblogaidd iawn yn Ffrainc rhwng 1300 a 1500. Ceir pedair ffurf i’r rondo: rondeau simple, rondeau tercet, rondeau quatrain a rondeau cinquain. Dwy odl yn unig a geir mewn rondo, a rhaid ailadrodd hanner cyntaf y llinell gyntaf ddwywaith yng nghorff y gerdd.

Dyma enghrafft o rondo, ‘I Ieuenctid Cymru’ gan Cynan:

Pan fwyf yn hen bregethwr piwys, croes,
Heb destun ond “chwaraeon gwag yr oes”;
Yn dwrdio “pobol ifainc” wyllt y dydd
   Am feddwl newid gair o’n Cyffes Ffydd,
A’u galw’n ddirywiedig a di-foes;
Gan ddiolch am yr erys yn y toes
Ryw gymaint o’r hen lefain hwnnw a roes
   Fy llaw a llaw rhai tebyg – ynddo ’nghudd
     Pan fwyf yn hen:
Bryd hynny, a chwi’n gwingo o dan loes
Fy fflangell ar eich nwyf, gwybyddwch, bois,
   Er gwaethaf ambarél a doniau rhydd,
   Het silc a dillad offeiriadol, prudd,
Gwaredwr ifanc a fydd Gŵr y Groes
     Pan fwyf yn hen.

Alan Llwyd


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.