Rosser, Neil (g.1964)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr a chyfansoddwr pop a ddaeth i amlygrwydd yn bennaf yn ystod yr 1990au gyda’r grŵp Neil Rosser a’i Bartneriaid. Yn enedigol o Gwm Tawe, ei ddylanwadau cynnar oedd ffigyrau unigryw, gwreiddiol a mwy ymylol y byd canu pop Eingl- Americanaidd, fel Tom Waits, Ian Dury ac Elvis Costello. Bu Van Morrison hefyd yn ysbrydoliaeth, a daeth trefniant Rosser o gân Van Morrison ‘Brown Eyed Girl’ (o dan yr enw ‘Merch o Port’) yn un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd.

Mae nifer o ganeuon Rosser wedi eu hysbrydoli gan gymeriadau neu leoliadau lliwgar ei fro enedigol. Rhoddir sylw i gymunedau tlawd a difreintiedig yr ardal, ynghyd a’u cefndir aml-ddiwylliannol. Un o’i ganeuon mwyaf effeithiol i ymdrîn â’r syniad yma yw ‘Ochor Treforys o’r Dre’, sy’n cyfeirio at ‘Clydach a Glais, Birchgrove, Bonymaen’, y Gwyddelod a’r ‘Jacs’, at Sipsiwn a Tincars y fro, ac at olion ac adfeilion hen ddiwydiannau mawr yr ardal, megis y ffwrneisi a’r pyllau glo. Mae geiriau ei ganeuon hefyd yn defnyddio iaith a ddafodiaith Gymraeg ardal Abertawe megis ‘pwtru’, ‘wilod’ a ‘gatel’, ac felly’n cynnig darlun o hanes ac ardal bwysig sydd wedi ei eithrio a’i anwybyddu i raddau helaeth gan ganu pop Cymraeg.

Bu Neil Rosser a’i Bartneriaid yn fwyaf cynhyrchiol rhwng 1987-2011, gan ryddhau cynnyrch ar label Ankst, record hir ar label Crai, a nifer o recordiau ar ei label ei hun, Recordiau Rosser.

Disgyddiaeth

  • Ni Cystal  Nhw [EP] (Ankst 001, 1988)
  • Shoni Bob Ochr [casét EP] (Ankst 008, 1989)
  • Gwynfyd (Crai CD043, 1994)
  • Swansea Jack (Recordiau Rosser Ross 001, 1999)
  • Casgliad o Ganeuon, 1987–2004 (Recordiau Rosser Ros 003, 2004)
  • Yr Ail Ddinas [EP] (Recordiau Rosser Ros 004, 2006)
  • Caneuon Rwff (Recordiau Rosser Ros 006, 2011)
  • Gwrthgyferbyniad (Recordiau Rosser Ros 007, 2015)
  • Casgliad o Ganeuon 2005–2018 (Recordiau Rosser Ros 008, 2018)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.