Saer, Roy (g.1936)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Mae David Roy Saer yn arbenigwr ym maes cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn awdur ac ymchwilydd a fu’n flaenllaw yng ngwaith a chenhadaeth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn gyn-aelod o staff Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Fe’i ganed ar gyrion pentref Hebron yn Nyffryn Taf, ar ffin siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ar Daf a bu’n ddisgybl i’r athro piano D. Lloyd Phillips (Tegryn) a oedd hefyd yn athro i’r cyfansoddwr William Mathias yn yr un cyfnod. Yn 16 oed dysgodd ei hun i chwarae llwyau fel offer taro, ac yn ystod ei flynyddoedd fel myfyriwr gradd ac ôl-radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1954–60), arweiniodd hyn at chwarae bwrdd golchi (washboard) yng ngrŵp sgiffl y Pennsylvanians. Ar yr un pryd ef oedd pianydd band jazz traddodiadol y Coleg.

Yn 1963 fe’i penodwyd i swydd yn Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd Amgueddfa Werin Cymru a threuliodd ei yrfa gyfan yn paratoi a chynllunio arddangosfeydd, trefnu gweithgareddau ac ymchwilio ym maes canu gwerin Cymru. Oddi ar yr 1960au hefyd bu’n aelod gweithredol o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac er 2000 ef yw ei llywydd. Yn dilyn cyfnodau o gyflawni gwaith maes yng Nghymru (yn ardaloedd Dyffryn Tanad, Llŷn, Ceredigion a Phenfro yn enwedig) yn ystod yr 1960au a’r 1970au, taniwyd ei ddiddordeb ym myd carolau plygain (ynghyd â’r gwasanaethau a’r arferion sy’n gysylltiedig â hwy), Adrodd Pwnc (gan gynnwys y dulliau gwahanol o ganu a chyflwyno adrannau o’r Ysgrythur) a chaneuon y llofft stabl (baledi storïol, caneuon treth tafod, serch a charwriaethol ac ati).

Ffrwyth y teithiau casglu hyn fu’n sail i’w ymchwil a’i gyhoeddiadau niferus mewn cylchgronau Cymraeg a rhyngwladol. Yn ogystal, cynhaliodd gyfres o gyfweliadau gyda Nansi Richards (Telynores Maldwyn) yn 1965 ac 1970 a fu’n gychwyn i’w waith ar eiconograffeg y delyn yng Nghymru ac a roes fod i’w gyfrol Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau (Gomer, 1991). Bu’n gohebu’n gyson gyda chasglyddion a pherfformwyr alawon traddodiadol o Gymru, hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, gwneuthurwyr offerynnau cerdd, archifdai a llyfrgelloedd ledled y byd a bu hefyd yn gwneud recordiadau maes (sydd ar gadw yn Amgueddfa Werin Cymru) a recordiadau masnachol (a ryddhawyd mewn cydweithrediad â chwmni Sain, Llandwrog).

Ef oedd golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru rhwng 1977 ac 1988, a darlithiodd a darlledodd yn eang. Trwy hyn oll gwnaeth gyfraniad allweddol at ddiogelu cyfoeth y traddodiad canu gwerin brodorol gan sicrhau bod y maes yn ennill ei blwyf ym myd y cyfryngau, yr eisteddfod a’r prif wyliau ynghyd â byd addysg ac ysgolheictod Cymreig.

Wyn Thomas

Disgyddiaeth

  • Carolau Plygain (Traddodiad Gwerin Cymru 1) [recordiad a phamffled mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan] (Sain C700, 1977)
  • Caneuon Llofft Stabal (Sain C764, 1980)
  • Caneuon Plygain & Llofft Stabal (Sain SCD2389, 2003)

Llyfryddiaeth

  • ‘Y Traddodiad Canu Carolau yn Nyffryn Tanad’, Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 5/3 (1971), 99–112
  • Caneuon Llafar Gwlad/Songs from Oral Tradition, Cyf. 1 (Caerdydd, 1974)
  • ‘Tôn “Hen Ddarbi” a’i theulu’, Canu Gwerin, 1 (1978), 17–26
  • Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 1908–1983 (Caerdydd, 1985)
  • Y Delyn yng Nghymru mewn lluniau (Llandysul, 1991)
  • Caneuon Llafar Gwlad/Songs from Oral Tradition, Cyf. 2 (Caerdydd, 1994)
  • Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Canrif Gron (Aberystwyth, 2006)
  • Canu at Iws ac Ysgrifau Eraill (Talybont, 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.