Saga

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:45, 19 Rhagfyr 2017 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Daw’r enw o’r Hen Norseg saga sy’n golygu ‘yr hyn a ddywedir’ neu ‘stori, chwedl, hanes’. Naratif hirfaith mewn rhyddiaith ydyw, yn adrodd gorchestion arwr neu hanes teulu penodol. Defnyddid y term yn wreiddiol i ddisgrifio hen chwedlau Llychlyn (o’r 13eg a’r 14eg ganrif), ac yn arbennig Gwlad yr Iâ, a gyfansoddwyd mewn Hen Nors. Ynddynt adroddir straeon am fordeithiau’r Llychlynwyr a’u helyntion, e.e. Saga Njáls, Saga Egils.

Erbyn heddiw defnyddir y term ‘saga’ i ddisgrifio unrhyw naratif hir a chymhleth. Yn y cyd-destun Cymraeg, fe’i defnyddir yn benodol mewn cysylltiad â’r canu englynol cynnar sy’n adrodd hanes Llywarch Hen, Urien Rheged a Heledd, a hynny yn sgil damcaniaeth Ifor Williams mai gweddillion ydynt o ‘saga’ a gyfansoddwyd yn wreiddiol mewn barddoniaeth a rhyddiaith ond bod y naratif heb oroesi.

Sioned Davies

Llyfryddiaeth

Ross, M. C. (2010), The Cambridge Introduction to the Old Norse-Icelandic Saga (Cambridge: Cambridge University Press).

Rowland, J. (1990), Early Welsh Saga Poetry: A Study and Edition of the Englynion (Cambridge: D.S. Brewer).

Williams, I. gol. (1935), Canu Llywarch Hen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.