Sangiad

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Gair neu eiriau sy’n torri ar rediad brawddeg neu ymadrodd, yn mynegi syniad sy’n gysylltiedig â’r frawddeg ond heb fod yn rhan ramadegol ohoni. John Morris Jones a ddefnyddiodd y term gyntaf yn ei gyfrol Cerdd Dafod (1925); daw o’r ferf sengi ‘sathru’ neu ‘wasgu neu wthio (i mewn)’ (gw. GPC Ar Lein d.g. sangaf: sengi). Wrth ysgrifennu, rhoddir comâu, gwahanodau neu gromfachau yn aml o bobtu’r sangiad er mwyn amlygu rhediad y frawddeg.

Cysylltir y ddyfais lenyddol hon yn arbennig â barddoniaeth Beirdd yr Uchelwyr, gyda’r beirdd gorau yn eu plith yn manteisio ar sangiadau i gyfoethogi eu cerddi, e.e. drwy ychwanegu disgrifiadau manylach (yn enwedig mewn cerddi dyfalu); sylwadau sy’n cynnig arlliw ystyr newydd, megis dehongliad emosiynol o’r sefyllfa a ddisgrifir, neu sylwadau sy’n cyflwyno hiwmor.

Ceir gan Ddafydd ap Gwilym ddefnydd effeithiol iawn o sangiadau i greu tensiwn dramatig yn ogystal â hiwmor yn ei gywydd storïol ‘Trafferth mewn tafarn’: e.e. yn y llinellau canlynol disgrifia’r bardd yr hyn a ddigwyddodd pan gododd o’i wely yn y tywyllwch er mwyn ceisio gwneud ei ffordd yn dawel bach at wely merch yr oedd wedi ei ffansïo yn gynharach yn y noson (nodir y brif frawddeg â theip italig):

Briwais, ni neidiais yn iach,
Y grimog, a gwae’r omach,
Wrth ystlys, ar waith ostler,
Ystôl groch ffôl, goruwch ffêr.

Yn nwylo’r bardd llai crefftus, cynigiai’r sangiad ddull hawdd i gyflawni gofynion y gynghanedd, heb ychwanegu fawr ddim at y gerdd. Cyfeirir at sangiad o’r fath fel ‘gair/geiriau llanw’. Wrth i grefft y beirdd ddirywio yn gyffredinol, gwelir beirdd to olaf y Cywyddwyr yn aml yn pentyrru sangiadau yn eu cerddi gan gymylu’r ystyr yn gyffredinol.

Ann Parry Owen

Llyfryddiaeth

Gwefan Dafydd ap Gwilym (2007), http://www.dafyddapgwilym.net, cerdd 73 [Cyrchwyd: 28 Gorffennaf 2016].

GPC Ar Lein (2016), http://gpc.cymru, ‘sangaf: sengi’ [Cyrchwyd: 28 Gorffennaf 2016].

Lewis, S. (1966), ‘Sangiad, tropus a chywydd’, Trivium, 1, 1–4.

Morris-Jones, J. (1925), Cerdd Dafod (Rhydychen: Clarendon Press).

Rees, B. (1966), ‘Sylw eto ar sangiadau’, Barn, 47, 305–13.

Thomas, G. (1968–9), ‘Golwg ar y sangiad yng ngwaith Dafydd ap Gwilym’, Llên Cymru, 10, 224–30.


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.