Saunders, Gwenno (g.1981)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cantores a fu’n gweithio’n bennaf ym maes canu pop amgen electronaidd. Ganed yng Nghaerdydd. Yn ferch i’r bardd Cernyweg a’r ieithydd Tim Saunders, roedd Gwenno yn rhugl mewn Cymraeg a Chernyweg. Pan yn ifanc derbyniodd hyfforddiant yn academi ddawns Iwerddon gan ddod yn rhan o gynhyrchiad Michael Flatley Lord Of The Dance. Yn ei hugeiniau cynnar daeth i sylw Rhys Mwyn, gan ryddhau y sengl ‘Môr Hud’ yn 2002 ar label Crai a chydweithio gyda Llwybr Llaethog yn 2004 ar y gân Gernyweg ‘Vodya.’

Flwyddyn yn ddiweddarach ymunodd â’r triawd pop retro-indie benywaidd The Pipettes, grŵp a ysbrydolwyd gan recordiau y cynhyrchydd Phil Spector gyda grwpiau benywaidd o’r 1960au megis The Ronettes a The Crystals. Bu’n aelod o’r grŵp hyd at 2010, gan ganu prif lais ar ‘Pull Shapes’, eu sengl fwyaf poblogaidd. Yn 2008, daeth ei chwaer y gantores Ani Glass, hefyd yn aelod.

Wedi cyfnod o deithio gydag artistiaid megis y ddeuawd electronaidd Pnau ac Elton John, rhyddhaodd Gwenno albwm cysyniad synth-pop yn 2014 o’r enw Y Dydd Olaf. Gan gymryd y teitl o nofel ddyfodolaidd Owain Owain ynglŷn â grym globalyddiaeth a thechnoleg yr oes ôl-fodern, ac wedi ei gynhyrchu gan ei phartner Rhys Edwards (gynt o Jakakoyak), derbyniodd Y Dydd Olaf adolygiadau hynod ffafriol, gyda Laura Snapes o’r Guardian yn datgan fod swyn oesol yn perthyn iddo: ‘only a minority will understand this very modern protest album, but its motorik spin and soft synths recall Broadcast and Chromatics, and shimmer with universal magic’ (Snapes 2015).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Vodya [EP] (Crai CD089, 2003)
  • Y Dydd Olaf (Peski PESKI030, 2014)

gyda The Pipettes:

  • ‘ABC’ [sengl] (Transgressive Records TRANS005, 2005)
  • We Are The Pipettes (Memphis Industries MI072CD, 2006)
  • Earth vs. The Pipettes (Fortuna Pop! FPOP92CD, 2010)

Llyfryddiaeth

  • Laura Snapes, ‘Gwenno: the ex-Pipette is leading the Welsh-speaking music revival’, The Guardian (8 Medi 2015)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.