Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Saunders Lewis"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
==Proffîl==
+
==Proffil==
 
;Saunders Lewis 1893–1985
 
;Saunders Lewis 1893–1985
 
   
 
   
Llinell 14: Llinell 14:
 
   
 
   
 
* '''Digwyddiadau pwysig'''
 
* '''Digwyddiadau pwysig'''
** '''1914''' - Ymunodd â’r Fyddin a bu’n gwasanaethu trwy gydol y Rhyfel Mawr yn Ffrainc a Groeg.  
+
** '''1914''' Ymunodd â’r Fyddin a bu’n gwasanaethu trwy gydol y Rhyfel Mawr yn Ffrainc a Groeg.  
 
** '''1920''' – Yn union ar ôl agor coleg Prifysgol Abertawe, penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg.  
 
** '''1920''' – Yn union ar ôl agor coleg Prifysgol Abertawe, penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg.  
 
** '''1925''' – Sylfaenodd, gydag eraill, Blaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru bellach) a bu’n Llywydd arni o 1926 hyd 1939.  
 
** '''1925''' – Sylfaenodd, gydag eraill, Blaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru bellach) a bu’n Llywydd arni o 1926 hyd 1939.  
Llinell 26: Llinell 26:
 
: Lloyd, D. Tecwyn (1975) ''Saunders Lewis :'' Gwasg Salesbury Cyf.
 
: Lloyd, D. Tecwyn (1975) ''Saunders Lewis :'' Gwasg Salesbury Cyf.
  
==O’ch chi’n gwybod…???==  
+
==O’ch chi’n gwybod…?==  
 
:: ''“Yr unig ffurf o ysgrifennu sydd yn apelio ata’ i yn gry’, o ysgrifennu’n greadigol, yw drama”''
 
:: ''“Yr unig ffurf o ysgrifennu sydd yn apelio ata’ i yn gry’, o ysgrifennu’n greadigol, yw drama”''
 
::: – Saunders Lewis, 1961  
 
::: – Saunders Lewis, 1961  
Llinell 72: Llinell 72:
  
 
{{DEFAULTSORT:Lewis, Saunders}}
 
{{DEFAULTSORT:Lewis, Saunders}}
[[Categori:Yr Archif Ddrama Radio]]
+
[[Categori:Drama Radio]]
 +
[[Categori:Dramodwyr]]

Y diwygiad cyfredol, am 14:18, 24 Awst 2017

Proffil

Saunders Lewis 1893–1985
  • Enw: John Saunders Lewis
  • Geni: Wallasey, ger Lerpwl
  • Cefndir teuluol: Mi roedd yn fab i weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, Lodwig Lewis, a’i wraig Mary. Saunders oedd yr ail o dri bachgen: lladdwyd yr ieuengaf, Ludwig, yn y Rhyfel Mawr, a threuliodd yr hynaf, Owen, ran helaeth ei oes fel cyfreithiwr yng Ngogledd America, gan farw yno yn 1960. Collodd y bechgyn eu mam yn 1900.
  • Addysg: Ysgol Breifat – Liscard High School for Boys
Prifysgol Lerpwl – Graddiodd gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Saesneg 1920.
  • Gwraig a Phlant: Yn y Brifysgol y cyfarfu â’i wraig yn 1912, Margaret Gilcriest, priodwyd y ddau yn 1924, ac fe anwyd eu hunig blentyn, Mair, yn 1926.
  • Digwyddiadau pwysig
    • 1914 – Ymunodd â’r Fyddin a bu’n gwasanaethu trwy gydol y Rhyfel Mawr yn Ffrainc a Groeg.
    • 1920 – Yn union ar ôl agor coleg Prifysgol Abertawe, penodwyd ef yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg.
    • 1925 – Sylfaenodd, gydag eraill, Blaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru bellach) a bu’n Llywydd arni o 1926 hyd 1939.
    • 1936 – Wynebodd her i’w genedlaetholdeb a’i Gatholigiaeth yr un pryd. Mynnodd y Llywodraeth sefydlu Ysgol Fomio ym Mhenrhyn Llŷn, un o ardaloedd Cymreiciaf Cymru. Wedi cyfnod o brotestio, rhoddodd SL, Lewis Valentine a D. J. Williams rai o’r defnyddiau a oedd wedi’u cynnull at godi’r Ysgol Fomio ar dân ac yna eu hildio’u hunain ar unwaith i’r awdurdodau. Cawsant eu carcharu am naw mis. Saunders Lewis oedd yr unig un o’r tri i golli ei swydd yn ogystal.
    • Rhwng 1936 a 1980 – Cyhoeddwyd dwy ar bymtheg o’i ddramâu ac ymddangosodd dwy arall wedi ei farw.
    • 1952 – Penodwyd ef yn Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd ond ymddeolodd yn 1957.
    • 1962 – Bu ei Ddarlith Radio ‘Tynged yr Iaith’ yn fodd i gychwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ei hynt ddylanwadol a dadleuol.
Llyfryddiaeth
Gruffydd, R. Geraint (1991) Saunders Lewis : Agweddau ar ei fywyd a’i waith : Gwasg Gomer.
Lloyd, D. Tecwyn (1975) Saunders Lewis : Gwasg Salesbury Cyf.

O’ch chi’n gwybod…?

“Yr unig ffurf o ysgrifennu sydd yn apelio ata’ i yn gry’, o ysgrifennu’n greadigol, yw drama”
– Saunders Lewis, 1961
  • Ysgrifennodd ugain o ddramâu, ar gyfer y llwyfan, y radio a’r teledu, rhai mydryddol ac eraill mewn rhyddiaith, yn amrywio o gomedi un act i drasiedi pedair act.
  • Ar gychwyn ei yrfa dehongli bywyd, hanes a chwedloniaeth Cymru a wnaeth Lewis, a hynny yn Saesneg, ond yn Y Gymraeg yn unig y llwyddodd i gael cyfrwng addas.
  • Theatr o ddadleuon moesol yw theatr Saunders Lewis. Yn ei ddramâu gorau mae yn elwa ar y tyndra a geir wrth i’r arwr neu’r arwres gael eu hunain mewn i gyfyng-gyngor, a all gael canlyniadau difrifol.
  • Cyn ei gyfyngu ei hun i’r ddrama, roedd eisoes wedi dod i amlygrwydd fel bardd, fel beirniad llenyddol, ac fel nofelydd ac mae’r gwerthoedd hynny i’w gweld yn ei ddramâu – y saernïo gofalus, y treiddgarwch meddwl a’r gymeriadaeth gron.
Llyfryddiaeth
Griffiths, Bruce (1991) Saunders Lewis, Agweddau ar ei fywyd a’i waith : Gwasg Gomer.

Dramâu

  • The Eve of St. John (1921)
  • Gwaed yr Uchelwyr (1922)
  • Buchedd Garmon (1937)
  • Amlyn ac Amig (1940)
  • Blodeuwedd (1948)
  • Eisteddfod Bodran (1952)
  • Gan Bwyll (1952)
  • Siwan (1956)
  • Gymerwch Chi Sigarét? (1956)
  • Brad (1958)
  • Esther (1960)
  • Serch yw’r Doctor (1960)
  • Yn y Trên (cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Barn, 1965)
  • Cymru Fydd (1967)
  • Problemau Prifysgol (1968)
  • Branwen (1975)
  • Dwy Briodas Ann (1975)
  • Cell y Grog (yn y cylchgrawn Taliesin, 1975)
  • Excelsior (1980)

Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, Y Casgliad Cyflawn, dan olygyddiaeth Ioan Williams.

Williams, Ioan M. (1996) Dramâu Saunders Lewis, Y Casgliad Cyflawn (Cyfrol 1) : Gwasg Prifysgol Cymru
Williams, Ioan M. (2001) Dramâu Saunders Lewis, Y Casgliad Cyflawn (Cyfrol 2) : Gwasg Prifysgol Cymru