Seineg

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:46, 11 Mawrth 2021 gan LauraArman (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Seineg a ffonoleg

Wrth drafod cyfathrebu, rhaid ystyried pa seiniau sy’n bwysig mewn iaith i greu’r geiriau neu rannau geiriau sy’n cyfleu’r ystyr. Mae adeiladu unedau ystyr iaith yn dibynnu ar y gallu i gyfuno seiniau i gynhyrchu lleferydd sy’n codio neges i’n gwrandawyr. Rhennir yr astudiaeth o seiniau iaith yn ddwy ddisgyblaeth: seineg (phonetics) a ffonoleg (phonology). Seineg yw’r astudiaeth o seiniau’r iaith lafar, yn benodol sut maent yn cael eu cynhyrchu a sut maent yn cael eu canfod (perceive). Fel arfer, mae seinegwyr yn gofyn cwestiynau fel: sut mae seiniau lleferydd yn cael eu cynanu (articulate)? Faint o seiniau gwahanol all gael eu defnyddio mewn ieithoedd? Sut allwn ni fesur lleferydd? Mae ffonoleg hefyd yn delio â seiniau’r iaith lafar ond ar lefel fwy haniaethol (abstract). Ffonoleg yw astudiaeth o sut mae ieithoedd yn trefnu seiniau mewn patrymau. Fel arfer, mae ffonolegwyr yn gofyn cwestiynau fel: pa seiniau sy’n cyfrif fel yr un peth mewn iaith? Pa seiniau sy’n cyfrif fel pethau gwahanol mewn iaith? Oes unrhyw gyfyngiadau ym mha drefn y gall seiniau ymddangos mewn iaith? Pa fath o brosesau sy’n effeithio ar seiniau pan maent yn cael eu cyfuno? Er ei bod yn bosibl i’r llwybr llais (vocal tract) gynhyrchu cannoedd o seiniau gwahanol, dim ond is-set sy’n cael ei defnyddio yn y rhan fwyaf o ieithoedd y byd. Yn drawsieithyddol, mae rhai seiniau’n fwy cyffredin nag eraill. Er enghraifft, mae gan y rhan fwyaf o ieithoedd y byd sain /t/, fel yn y geiriau Cymraeg.ti, atal a het, ond dim ond ychydig iawn sydd â’r sain /ɬ/, fel yn y geiriau llawr, allan a gwell. Rhestr gymharol fach o seiniau lleferydd gwahanol sydd gan y rhan fwyaf o ieithoedd (Maddieson 2013a).

Nodiant seinegol

Wrth ddisgrifio ieithoedd, mae'n rhaid gwahaniaethu rhwng llythrennau a seiniau. Mae llythrennau’n cael eu dangos o fewn bachau onglog < > a sain yn cael ei dangos rhwng dau slaes / /. Rhwng y ddau slaes, defnyddir symbol sy’n rhan o set sydd wedi cael ei derbyn yn rhyngwladol, sef yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (International Phonetic Alphabet, IPA), a hyrwyddwyd gan yr International Phonetic Association. Mae’r IPA yn wyddor gwbl dryloyw, sy’n golygu bod un symbol yn cyfleu un sain yn unig. Mae’r wyddor hon yn galluogi ieithyddion i ddefnyddio set o symbolau sy’n ddiamwys (unambiguous) bob tro. Mae hynny hefyd yn golygu ei bod yn bosibl nodi ieithoedd anhryloyw mewn modd tryloyw. Defnyddir y symbolau hyn ar gyfer trawsgrifio (transcription) gan ieithyddion ledled y byd. Mae’n bwysig deall bod trawsgrifio yn wahanol i sillafu, am y rhesymau a gyflwynwyd uchod: mae gan wahanol ieithoedd orgraff (orthography) wahanol, sy’n gallu bod yn amwys. Defnyddir y term ‘symbolau’ yn hytrach na ‘llythrennau’ wrth sôn am wyddor yr IPA.

Defnyddir slaesau / / neu fachau petryal [ ] i ddangos trawsgrifiad o seiniau yn hytrach na’r llythrennau a ddefnyddir i’w sillafu. I drawsgrifio gwahaniaeth ystyr rydym yn defnyddio slaesau, ac i drawsgrifio agweddau manwl o’r ffordd y caiff y seiniau hynny eu cynhyrchu, rydym yn ddefnyddio bachau petryal. Er enghraifft, os ydym yn cymryd y gair oer /ɔɪr/ ac yn cyfnewid y sain /r/ am /n/, rydym yn cael y gair oen /ɔɪn/. Gallwn ynganu’r /r/ naill ai fel [r] (fel mae’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn ei wneud) neu fel [ʁ], y ffrithiolyn wfwlar di-lais (voiceless uvular fricative). Wrth gyfnewid [r] am [ʁ] yn y gair oer, gallwn glywed y gwahaniaeth ond nid oes gwahaniaeth ystyr rhyngddynt.

Cynhyrchu lleferydd

Cynhyrchir lleferydd (speech) drwy ddod ag aer o’r ysgyfaint i fyny drwy’r llwybr llais (vocal tract). Mae’r llwybr llais yn cynnwys rhannau o’r corff rydym yn eu defnyddio i gynhyrchu sain: y tannau llais (vocal folds) o fewn y laryncs a’r rhannau uwchben y laryncs: y ffaryncs, ceudod y geg (oral cavity) a cheudod y trwyn (nasal cavity).

Defnyddir y term cychwyn (initiation) i gyfeirio at sut a ble mae’r aer yn dechrau symud. Pan mae aer yn symud allan i gynhyrchu sain, gelwir y sain yn sain all-lifol (egressive). Pan gaiff aer ei sugno i mewn i gynhyrchu seiniau, fe’u gelwir yn seiniau mewnlifol (ingressive). Mae’r rhan fwyaf o seiniau lleferydd yn seiniau all-lifol, ac mae’r aer yn symud allan o’r ysgyfaint (sy’n eu gwneud nhw yn seiniau ysgyfeiniol, pulmonic). Mae pob sain ysgyfeiniol felly yn sain all-lifol, ond nid yw pob sain all-lifol yn ysgyfeiniol. Ceir seiniau lle mae’r aer yn symud allan, ond nad yw’r aer yn dechrau symud yn yr ysgyfaint; e.e. mae seiniau alldafliadol (ejective) yn cychwyn pan mae’r tannau llais tu mewn i’r laryncs yn symud i fyny’n gyflym ac yn gorfodi’r aer i symud allan o’r ffaryncs. Defnyddir seiniau alldafliadaol yn yr iaith Amhareg (Amharic, cangen Semitig y teulu Affro-Asiaidd, Ethiopia).

Mae seiniau mewnlifol yn cael eu defnyddio yn rhai o ieithoedd de a dwyrain Affrica (e.e. Swlw—neu Zulu—a Xhosa, ieithoedd Bantw o’r teulu Niger-Congo, a Nama, o’r teulu Khoe). Yn yr ieithoedd hyn ceir cytseiniaid clic sy’n digwydd wrth i’r aer cael ei sugno i mewn. Wrth gynhyrchu clic, mae dwy ran o’r geg ar gau: un yng nghefn y geg, ac un o flaen hynny. Mae hyn yn dal yr aer, ac wrth ryddhau’r tafod, mae’r aer yn cael ei sugno i mewn yn gyflym gan wneud y sŵn clic (Ladefoged & Johnson 2011:144). Seiniau ysgyfeiniol all-lifol yn unig sy’n bodoli yn yr iaith Gymraeg.

Ar ôl gadael yr ysgyfaint, mae’r aer yn symud trwy’r llwybr llais. Wrth i ni siarad, rydym yn symud rhannau’r llwybr llais i lywio symudiad yr aer drwyddo. Yn gyntaf, gellir dal y tannau llais ar wahân er mwyn caniatáu i’r aer basio drwyddynt neu gallant fod yn agos at ei gilydd er mwyn cynhyrchu sain (gelwir hyn yn lleisio; voicing). Yna mae’r llif aer o’r ysgyfaint yn cael ei siapio gan y cynanwyr (articulators).

Ar ôl symud drwy’r laryncs, mae’r sain yn cael ei haddasu a’i hidlo ymhellach wrth iddi deithio trwy geudod y geg (oral cavity) neu geudod y trwyn (nasal cavity), sef y llwybr llais uchaf (upper vocal tract). Wrth gynhyrchu seiniau lleferydd rydym yn gwahaniaethu rhwng cynanwyr gweithredol (active articulators) a chynanwyr goddefol (passive articulators). Cynanwyr sy’n symud yw cynanwyr gweithredol, tra bo cynanwyr goddefol yn rhai sy’n aros yn llonydd. Fel arfer, mae’r cynanwr goddefol yn rhan o dop y geg a’r cynanwr gweithredol yn rhan o’r tafod.



Sarah Cooper. Golygwyd y detholiad gan Laura Arman

Llyfryddiaeth

Dyfynnwyd yr holl destun o:

Cooper, S. & L. Arman (2020) Seiniau iaith: seineg a ffonoleg. Yn S. Cooper & L. Arman (goln.) Cyflwyniad i ieithyddiaeth. Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyfeiriadau eraill yn y detholiad

Ladefoged, P. & K. Johnson. 2011. A course in phonetics. Wadsworth/Cengage Learning. 6ed ol.

Maddieson, I. 2013a. Presence of uncommon consonants. Yn: M. S. Dryer & M. Haspelmath (goln.), The World Atlas of Language Structures Online, Leipzig: Max Planck Institute for Evolutionary Anthropology. URL https://wals.info/chapter/19



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.