Semanteg

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:17, 30 Hydref 2018 gan MariFflur (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Cangen o ieithyddiaeth sy’n archwilio’r gydberthynas rhwng ffurfiau ieithyddol ac ystyr yw semanteg. Yn benodol, mae’n ymwneud ag ystyr geiriau a brawddegau ac yn canolbwyntio yn bennaf ar yr ystyr ddynodol (hynny yw, yr ystyr lythrennol). Mae semanteg yn wahanol i faes pragmateg sy’n canolbwyntio ar yr wybodaeth ychwanegol (neu gyd-destun) sydd ei hangen er mwyn deall yr hyn y mae’r siaradwyr yn ei olygu. Gwahaniaethir rhwng semanteg eirfaol (ystyr geiriau unigol) a semanteg gyfansoddiadol (ystyr brawddegau).

Mae semanteg eirfaol yn dadansoddi’r ystyr a gyflëir gan eiriau unigol a’r cydberthnasau a geir rhwng geiriau. Yn gyntaf, dywedir bod geiriau yn rhannu nodweddion semanteg a ddefnyddir er mwyn eu dosbarthu. Gellid dweud, er enghraifft, bod y geiriau bwrdd, cwpan a ffôn yn wrthrychau difywyd o’u cymharu â ci, ceffyl a dyn sy’n dynodi eneidiau byw. Golyga hyn y gellir rhagweld ym mha gyd-destunau y bydd y tri gair yn ystyrlon. Cymharer y brawddegau isod:

(1) Mae’r dyn yn anadlu

(2) Mae’r ffôn yn anadlu

Mae’r ddwy frawddeg yn ramadegol gywir ond nid yw (2) yn ystyrlon o safbwynt semanteg gan mai geiriau sy’n dynodi eneidiau byw yn unig a all ymddangos fel goddrych y ferf anadlu. Mae deall y dosbarthiadau hyn yn rhan hollbwysig o gaffael iaith ac o ddysgu sut i gynhyrchu iaith ystyrlon. Yn ail, ceir nifer o gysylltiadau uniongyrchol rhwng geiriau e.e. cyfystyron (hogynllanc) a gwrthwynebeiriau (bachmawr). Mae shifft semantig yn disgrifio newid yn yr hyn a gyflëir gan eiriau. Er enghraifft, caled neu creulon oedd ystyr y gair dur yn yr Hen Gymraeg ond newidiodd yr ystyr dros amser er mwyn dynodi math o fetel yn unig.

Gellir hefyd ystyried rôl semanteg geiriau mewn brawddegau er mwyn dadansoddi sut y crëir ystyr. Dangosir enghreifftiau o hyn isod:

(3) Prynodd Angharad gar

(4) Gwelodd Meleri gi

Er bod (3) a (4) yn debyg o safbwynt gramadegol gan eu bod yn cynnwys berfau (prynu, gweld), goddrychau (Angharad, Meleri) a gwrthrychau (car, ci), mae’r goddrychau yn chwarae rolau semanteg gwahanol. Yn (3), Angharad sy’n perfformio’r weithred (prynu’r car) ac yn weithredwr. Yn (4), mae Meleri yn derbyn profiad synhwyraidd (gweld ci) a dywedir, felly, mai hi yw’r profiedydd. Cynigia semanteg, felly, ddadansoddiad sy’n pwysleisio ystyr elfennau yn y frawddeg yn hytrach na phatrymau cystrawennol.

Jonathan Morris

Llyfryddiaeth

Kearns, K. (2011), Semantics, 2il argraffiad (London: Palgrave Macmillan).

Parina, E. (2015), ‘Semantics of Welsh dur: Synchronic Analysis and Language-Contact Considerations’, Journal of Celtic Linguistics 16(1), 1-39.

Thorne, D. A. (1985), Cyflwyniad i Astudio’r Iaith Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Trask, R. L. (1999), Key Concepts in Language and Linguistics (London: Routledge).

Watkins, T. A. (1961), Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru).

Wierzbicka, A. (1996), Semantics: Primes and universals. (Oxford: Oxford University Press).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.