Separado!

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:33, 19 Rhagfyr 2013 gan Gwydion Jones (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Dywed Gruff Rhys ei fod yn cofio, pan oedd yn blentyn, gweld Gaucho Cymraeg yn canu ar y teledu; y Gaucho hwnnw oedd René Griffiths, perthynas pell iddo. Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar ymgais Gruff i ddod o hyd i René ym Mhatagonia, ac ar olrhain yr hanes lliwgar a arweiniodd at y ffaith i’w wncwl gael ei fagu ochr arall y byd. Ceir ymdrech ehangach hefyd i ystyried rhan y Cymry alltud yn hanes Yr Ariannin. Digon confensiynol medde chi, ond nid ffilm gonfnesiynol mohoni o bell ffordd. Fel y byddech yn ei ddisgwyl gan ganwr y Super Furry Animals, mae’r siwrnai yn un liwgar, fentrus a llawn hwyl gyda Gruff yn gwisgo helmed Power Rangers-aidd goch drwyddi draw. Mae cyfle i’r gwyliwr fod yn rhan o gynulleidfa yn Y Gaiman wrth i Gruff roi perfformiad unigryw, ac i gyfarfod â cherddorion eraill megis y ddeuwad Alejandro a Leonardo Jones.


Sylwebaeth Arbenigol

Dyma'r caneuon yn y ffilm:

"Oes Gafr Eto?" Perfformiwyd gan Kerrdd Dant, Trefniant MC Mabon/Gruffydd Meredith "Lonesome Words" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "If I was John Carpenter parts 1-12" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys Marwnad Ceffylwr Anaf" Ysgrifenwyd gan Siôn Glyn Perfformiwyd gan Sion Glyn "Scream Interlude" Ysgrifenwyd gan Kris Jenkins, Perfformiwyd gan Sir Doufus Styles "Generic Western Theme pts 1-12" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Mi Patagonia Madre" Ysgrifenwyd gan René Griffiths, Perfformiwyd gan René Griffiths "Beacon In The Darkness" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Now That the Feeling Is Gone" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Gyrru Gyrru Gyrru" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Trofannau" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Skylon!" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "O.V.N.I" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra "Caerffosiaeth" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Meu Nome É Tony" Ysgrifenwyd gan Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Tony Da Gatorra "Humano de Verdade" Ysgrifenwyd gan Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Tony Da Gatorra "In A House With No Mirrors (You’ll Never Get Old)" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra

"68" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Gruff Rhys & Tony Da Gatorra "Assasino" Ysgrifenwyd gan Tony Da Gatorra, Perfformiwyd gan Tony Da Gatorra "Separado!" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Samuel" Ysgrifenwyd gan René Griffiths, Perfformiwyd gan René Griffiths "Y Frwydyr" Ysgrifenwyd gan René Griffiths, Perfformiwyd gan René Griffiths "Unigrwydd" Ysgrifenwyd gan René Griffiths, Perfformiwyd gan René Griffiths "Short Fanfare Buenos Aires" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Ffenestri O Blu Estrys" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Pengwyn Pengwyn" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Con Carino" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Gwn Mi Wn" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Ni Yw Y Byd" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Science and Fiction" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Camino De La Montagne" Ysgrifenwyd gan Ulises Hermosa González, Perfformiwyd gan Los Kjarkas "Ambell Waith" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Arroyo Pescado" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Pwdin Blew" Ysgrifenwyd gan Leonardo Jones, Perfformiwyd gan Alejandro + Leonardo Jones "Volver" Ysgrifenwyd gan Leonardo Jones, Perfformiwyd gan Alejandro + Leonardo Jones "El Angel De Los Milagros" Ysgrifenwyd gan Leonardo Jones, Perfformiwyd gan Alejandro + Leonardo Jones "Cycle of Violence" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Y Mynydd Hud" Ysgrifenwyd gan Gruff Rhys, Perfformiwyd gan Gruff Rhys "Heno, Mae’n Bwrw Cwrw" Ysgrifenwyd gan René Griffiths, Perfformiwyd gan René Griffiths

Dyma'r synopsis gwreiddiol oddi ar y wefan:

Pererindod i Fydysawd Paralel...

Croesbeillir Star Trek a Buena Vista Social Club yn y Western gerddorol, seicadelig hwn, wrth i’r seren bop Cymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewyrth golledig ym Mhatagonia- y gitarydd mewn poncho, Rene Griffiths.

Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a’i deulu ifanc â’r fintai i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda’i ganeuon serch Hisbaenaidd.

Dilyna’r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai tê Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Allfudiad y Cymry, a’i etifeddiaeth gerddorol.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Separado!

Blwyddyn: 2009

Hyd y Ffilm: 84 munud

Dyddiad y Darllediad Cyntaf: 23 Gorff 2010

Cyfarwyddwr: Dylan Goch Jones, Gruff Rhys

Cynhyrchydd: Catryn Ramasut

Cwmnïau Cynhyrchu: ie ie productions ltd, Asiantaeth Ffilm Cymru

Genre: Dogfen, Ffilm ffordd


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Gruff Rhys (Gruff Rhys)
  • Kerrdd Dant (Kerrdd Dant)
  • Tony da Gatorra (Tony da Gatorra)
  • Lisa Jên Brown (Lisa Jên Brown)
  • Cecilia Avendaÿo (Cecilia Avendaÿo)
  • Bryn Griffiths (Bryn Griffiths)
  • Osian Hughes (Osian Hughes)
  • Alejandro Jones (Alejandro Jones)
  • Leonardo Jones (Leonardo Jones)
  • René Griffiths (René Griffiths)

Cast Cefnogol

Dylan Jones, Daniel Bates, Siôn Glyn, Will Hodgkinson, Huw Gwynfryn Evans, Beryl Griffiths, Dewi Prysor, Catherine Davies, Sophie Heawood, Dr Fábio Cerqueira, Diego Medina Desiree, Dougal Perman, King Creosote, Fernando Coronato, Luned Gonzales, Tegain Roberts, Roman Cura, Mariana Arruti, Juan Davies, Doreen Avendaÿo, Carlos Dante Ferrari, Santiago Farina, Gustavo Macayo, Rini Griffiths, Matias Carelli

Ffotograffiaeth

  • Dylan Goch

Dylunio

  • Gruff Rhys

Cerddoriaeth

  • Gruff Rhys, René Griffiths Sain Angharad Eleri Davies

Golygu

  • Dylan Goch

Effeithiau Arbennig

  • Bait

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Uwch Gynhyrchwyr - Pauline Burt Sioned Wiliam
  • Cynorthwy-ydd Cynhyrchu - Catherine Davies
  • Cynllunio Graffeg a Darluniau - Pete Fowler
  • Cyfieithwyr - Catherine Davies, Montse Llorat, Solange Helena Welch, Katharina Rocksien, Anninha Ramos Milanez, Jake Rollnick, Joanna Lane
  • Cyfrifydd y Cynhyrchiad - Kofi Burke
  • Golygu Cynorthwyol - Siôn Glyn
  • Golygydd Ychwanegol - Siôn Evans
  • Golygyddion Sync - Collin Games, Caroline Lynch Blosse
  • Lliwiwr - Geraint Pari Huws
  • Ail Recordio Sain - Soundworks
  • Ol-Gynhyrchu - AV Happenings, BBC Cymru, Cwmni Da
  • Delweddau Archif - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Prifysgol Bangor , Ce.D.In.C.I, Luis Poirot, Getty Images, Corbis Images UK, BBC Cymru, Teliesyn/S4C


Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: 12

Fformat Saethu: Super 8mm, HDV, HD CAM

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 1.85:1

Gwlad: Cymru/DU

Iaith Wreiddiol: Cymraeg, Saesneg, Portwgêg, Sbaeneg

Lleoliadau Saethu: Cymru; Lleoliadau amrywiol, yn cynnwys Caerdydd, Southerndown, Llanuwchllyn, Nant Peris, Tregarth a Llan Ffestiniog

Lleoliadau Arddangos:

  • Gwyl Ffilm Soundtrack Caerdydd, Tachwedd 19, 2009
  • Gwyl Ffilm Distrital, Dinas Mexico, Mehefin 3, 2010
  • Gwyl Ffilm Los Angeles, Mehefin 24&26, 2010
  • Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, Gorffenaf 30-Awst 12, 2010
  • Dukes Cinema, Lancaster, Awst 2&6 2010
  • Tyneside Cinema, Awst 6-12
  • Bradford Pictureville, Amgueddfa Genedlaethol y Cyfryngau, Awst 6,7, 12, 14, 16, 18, 2010
  • Derby Quad, 13-16 Awst 2010
  • Duke of York’s, Brighton, 13-14 Awst 2010
  • Norwich Cinema City , Awst 13, 14, 15, 19, 20, 2010
  • Cameo Edinburgh, Awst 13-19, 2010
  • Gwyl y Dyn Gwyrdd, Awst 20, 2010
  • Queens Film Theatre, Belfast, Awst 20-26, 2010
  • Electric Birmingham, Awst 20-23, 2010
  • Oxford Picturehouse, Awst 22 & 25, 2010)
  • Scala Prestatyn Medi 2, 2010
  • Warwick Arts Centre, Medi 3-4 2010
  • Corn Exchange Newbury Medi 4, 5, 8, 2010
  • The Cube, Bryste, Medi 7-8, 2010
  • Plough Arts Centre, Medi 12&14, 2010
  • Hyde Park Leeds, Medi Medi 5, 8, 9, 2010
  • Cell Blaenau Ffestiniog, Medi 17, 2010
  • Gwyl Branchage, Jersey, Medi 25, 2010
  • Theatr Mwldan, Aberteifi, Medi 25, 27-29, 2010
  • Hay-on-Wye Festival, Medi 24-26, 2010
  • Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Medi 25-29, 2010
  • Gloucester Guildhall, Hydref 15, 16, 18, 20, 21, 2010
  • Galeri Caernarfon, Hydref 20, 2010
  • Prifysgol Abertawe, Tachwedd 2, 2010
  • Theatr Clwyd, y Wyddgrug, Tachwedd 4, 2010


Manylion Atodol

Gwefannau

http://separado.co.uk/

http://www.imdb.com/title/tt1505405

http://www.bfi.org.uk/live/video/420

Adolygiadau

Variety[1]

Daily Telegraph[2]

The Observer[3]

The Guardian[4]

NME[5]

Time Out[6]

Empire[7]

BBC Cymru/Cylchgrawn[8]

Sight and Sound, Awst 2010

Erthyglau

http://www.guardian.co.uk/film/2009/nov/11/super-furry-animal-gruff-rhys

Marchnata

Rhyddheir Separado! ar DVD cyn diwedd 2010, gydag atodolion yn cynnwys fideos cerddoriaeth estynedig, a rhaglen ddogfen tu ôl i’r lleni o’r enw Juntos!