Shakin' Stevens (g.1948)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Canwr pop a ddaeth i sylw ar ddechrau’r 1980au a hynny’n bennaf ar sail caneuon a efelychai arddull gynnar Elvis Presley o’r 1950au. Ef oedd un o enwau mawr canu pop ym Mhrydain rhwng 1980 ac 1990.

Ganed Michael Barratt (neu Shakin’ Stevens) yn Nhrelái, Caerdydd, yn un o 12 o blant. Bu’n canu mewn sawl grŵp yn ystod yr 1960au hwyr a’r 1970au cynnar, gan ryddhau recordiau ar labeli Parlophone a CBS o dan yr enw Shakin’ Stevens and the Sunsets. Fodd bynnag, yn 1977 aeth ar ei liwt ei hun fel canwr unigol. Yr un flwyddyn daeth i sylw’r label rhyngwladol CBS wrth chwarae rhan Elvis yn sioe gerdd eponymaidd Jack Good a Ray Rooney a lwyfannwyd yn Theatr yr Astoria, Llundain, ac yna wrth berfformio yn y gyfres deledu Let’s Rock (Associated Television, 1981).

Er gwaethaf ei boblogrwydd ar y sgrin ac ar lwyfan, ni fu gwerthiant mawr i’w recordiau cynnar, ond daeth tro ar fyd yn 1980 pan lwyddodd trefniant ei gynhyrchydd Stuart Colman o un o ganeuon y Blasters, ‘Marie Marie’, i gyrraedd 20 uchaf siartiau Prydain. Flwyddyn yn ddiweddarach daeth llwyddiant pellach gyda threfniant rockabilly hwyliog Colman o ‘This Ole House’, cân a recordiwyd yn wreiddiol gan Rosemary Clooney yn 1954. Aeth recordiad Stevens i rif un yn y siartiau am dair wythnos ym Mawrth 1981, a daeth yntau’n enw adnabyddus dros nos.

Rhwng 1981 ac 1987 llwyddodd 32 o senglau Stevens i gyrraedd y 40 uchaf yn y siartiau Prydeinig gan ei wneud yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd y degawd (gw. Larkin 2011). Profodd lwyddiant y tu hwnt i Brydain hefyd, megis yn Sweden, ond ni chafodd ei recordiau fawr o effaith ar y siartiau pop yn Unol Daleithiau America. Ymysg ei ganeuon mwyaf poblogaidd yr oedd ‘Green Door’ (1981) a ‘Merry Christmas Everyone’ (1985). Er mai dehongli caneuon pobl eraill a wnâi Stevens gan amlaf, ef ysgrifennodd ‘Oh Julie’ (1982), a aeth hefyd i frig y siartiau. Yn 1984 recordiodd y ddeuawd ‘A Rockin’ Good Way (To Mess Around and Fall in Love)’ gyda’r gantores Gymreig Bonnie Tyler. Apeliai ei ddehongliadau bywiog, canol-y-ffordd, at gynulleidfa eang, yn amrywio o ganeuon ysgafn crooners megis Bing Crosby i roc a rôl Elvis a chanu soul grwpiau fel y Supremes.

Lleihaodd poblogrwydd Stevens ar ddechrau’r 1990au. O’r pum sengl a ryddhaodd yn 1990, un yn unig (sef ‘I Might’) a lwyddodd i gyrraedd yr 20 uchaf. Gwaethygodd pethau i Stevens yn 1993 pan benderfynodd aelodau’r Sunsets – y grŵp a fu’n cyfeilio iddo yn ystod yr 1970au – ddwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn am beidio â thalu hen freindaliadau. Yn sgil hyn bu Stevens yn dawel am rai blynyddoedd cyn ailafael yn ei yrfa ar ddiwedd yr 1990au. Fodd bynnag, bu’n rhaid disgwyl tan 2007 cyn iddo ryddhau Now Listen, ar label Sony, a ddilynwyd naw mlynedd yn ddiweddarach gan albwm hunangofiannol, Echoes of Our Times, a aeth i gyfeiriad y blues gan ddefnyddio offerynnau fel y mandolin, y banjo, y dobro a’r harmonica (Griffiths 2016).

Pwyll ap Siôn

Disgyddiaeth

  • Shakin’ Stevens (Track Records 2406 011, 1978)
  • Take One! (Epic EPC 83978, 1980)
  • Marie, Marie (Epic EPC 84547, 1980)
  • This Ole House (Epic EPC 84985, 1980)
  • Shaky (Epic EPC 10027, 1981)
  • Give Me Your Heart Tonight (Epic EPC 10035, 1982)
  • The Bop Won’t Stop (Epic EPC 86301, 1983)
  • Lipstick, Powder and Paint (Epic EPC 26646, 1985)
  • Let’s Boogie (Epic 460126 1, 1987)
  • A Whole Lotta Shaky (Epic MOOD 5, 1988)
  • There Are Two Kinds of Music … Rock ’N’ Roll! (Telstar STAC 2454, 1990)
  • Merry Christmas Everyone (Epic 469260 2, 1991)
  • Now Listen (Sony BMG 82876890012, 2007)
  • Echoes of Our Times (HEC HEC101 CD, 2016)

Llyfryddiaeth

  • Colin Larkin (gol.), ‘Shakin’ Stevens’, yn The Encyclopedia of Popular Music (Llundain, 2011), 7020–3
  • Kris Griffiths, ‘Shakin’ Stevens interview: “I’d rather not be confined to only performing past hits”,’ The Independent (20 Medi 2016)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.