Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Siwan"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Y Cefndir Hanesyddol== Drama wedi ei seilio ar briodas frenhinol yw Siwan. Yn y bôn y mae’n ddrama sy’n trafod hynt a helynt perthynas briodasol...')
 
(categorïau)
 
Llinell 12: Llinell 12:
 
Owain Gwynedd. Yr achlust oedd ni chafodd Iorwerth ei ystyried am y frenhiniaeth  
 
Owain Gwynedd. Yr achlust oedd ni chafodd Iorwerth ei ystyried am y frenhiniaeth  
 
pan fu Owain farw yn 1179 oherwydd nam corfforol ar ôl brwydr. Dechreuodd  
 
pan fu Owain farw yn 1179 oherwydd nam corfforol ar ôl brwydr. Dechreuodd  
Llywelyn herio ei ddau ewyrth, [[Dafydd]] a Rhodri pan oedd yn ifanc iawn ac erbyn  
+
Llywelyn herio ei ddau ewyrth, Dafydd a Rhodri pan oedd yn ifanc iawn ac erbyn  
1200 roedd [[Dafydd]] yn alltud yn Lloegr a Rhodri wedi marw, felly’n gadael Llewelyn yn  
+
1200 roedd Dafydd yn alltud yn Lloegr a Rhodri wedi marw, felly’n gadael Llewelyn yn  
 
feistr ar Wynedd.  
 
feistr ar Wynedd.  
 
   
 
   
Llinell 38: Llinell 38:
 
Harri’r III.  
 
Harri’r III.  
 
   
 
   
Cafodd Llywelyn a Siwan bump o blant, un mab, [[Dafydd]], a phedair merch, Elen,  
+
Cafodd Llywelyn a Siwan bump o blant, un mab, Dafydd, a phedair merch, Elen,  
Gwladus, Mared a Susanna. Dewiswyd [[Dafydd]] yn etifedd, serch bod Gruffydd, mab  
+
Gwladus, Mared a Susanna. Dewiswyd Dafydd yn etifedd, serch bod Gruffydd, mab  
 
Tangwystl yn hn, oherwydd byddai mab Siwan a oedd hefyd yn nai i Harri’r III mewn  
 
Tangwystl yn hn, oherwydd byddai mab Siwan a oedd hefyd yn nai i Harri’r III mewn  
 
safle cryfach fel tywysog. Un o brif amcanion Llywelyn oedd sicrhau’r holl etifedd i  
 
safle cryfach fel tywysog. Un o brif amcanion Llywelyn oedd sicrhau’r holl etifedd i  
[[Dafydd]] ac yn 1220 fe’i cydnabuwyd yn etifedd gan raglawiaid Lloegr. Ni phriododd  
+
Dafydd ac yn 1220 fe’i cydnabuwyd yn etifedd gan raglawiaid Lloegr. Ni phriododd  
 
yr un o’r merched Gymro; trefnwyd priodasau ag arglwyddi’r Mers am resymau  
 
yr un o’r merched Gymro; trefnwyd priodasau ag arglwyddi’r Mers am resymau  
 
gwleidyddol. Yr oedd Gwladus, yn ail wraig i Reginald de Breos, ac felly’n llys fam i  
 
gwleidyddol. Yr oedd Gwladus, yn ail wraig i Reginald de Breos, ac felly’n llys fam i  
Llinell 53: Llinell 53:
 
Dim ond pedwar cymeriad sydd yn Siwan, ac yn yr ail act yn unig ymddengys  
 
Dim ond pedwar cymeriad sydd yn Siwan, ac yn yr ail act yn unig ymddengys  
 
Gwilym Brewys. Nid oes amser yn cael ei wastraffu ar is-gymeriadau: defnyddir pob  
 
Gwilym Brewys. Nid oes amser yn cael ei wastraffu ar is-gymeriadau: defnyddir pob  
eiliad i dynnu portreadau cyflawn o’r pedwar hyn. Dewisodd Saunders Lewis  
+
eiliad i dynnu portreadau cyflawn o’r pedwar hyn. Dewisodd [[Saunders Lewis]]
 
gymeriadau fel Siwan, Llywelyn a Gwilym Brewys a oedd yn gymeriadau hanesyddol  
 
gymeriadau fel Siwan, Llywelyn a Gwilym Brewys a oedd yn gymeriadau hanesyddol  
 
go iawn.  
 
go iawn.  
Llinell 63: Llinell 63:
 
:: ''“Alltud a'm hunig werth yw fy ngwerth i gynnydd gwlad.”''  
 
:: ''“Alltud a'm hunig werth yw fy ngwerth i gynnydd gwlad.”''  
 
* Yn gefn mawr i Llywelyn. Roedd John, ei thad, wedi ymosod ar Wynedd ac roedd bywyd Llywelyn mewn perygl. Siwan oedd y llysgennad, yn siarad dros ei gŵr a thros ei deyrnas. Daeth hi adre’ wedi llwyddo.  
 
* Yn gefn mawr i Llywelyn. Roedd John, ei thad, wedi ymosod ar Wynedd ac roedd bywyd Llywelyn mewn perygl. Siwan oedd y llysgennad, yn siarad dros ei gŵr a thros ei deyrnas. Daeth hi adre’ wedi llwyddo.  
* Yn 15 oed, rhoddodd enedigaeth i’w mab [[Dafydd]].  
+
* Yn 15 oed, rhoddodd enedigaeth i’w mab Dafydd.  
 
* Merch ifanc, ddeallus a dyfodd yn wraig oedd yn deall gwleidyddiaeth a sut i amddiffyn teyrnas Llywelyn rhag ei elynion.  
 
* Merch ifanc, ddeallus a dyfodd yn wraig oedd yn deall gwleidyddiaeth a sut i amddiffyn teyrnas Llywelyn rhag ei elynion.  
  
Llinell 71: Llinell 71:
 
* Rhyfelwr yn ôl arfer yr oes.  
 
* Rhyfelwr yn ôl arfer yr oes.  
 
* Addoli Siwan;  
 
* Addoli Siwan;  
:: ''“I mi roedd goleuni [[lle]] y troedit”…“Felly'r addolais i di, fy fflam, o bell ac yn fud.”''
+
:: ''“I mi roedd goleuni lle y troedit”…“Felly'r addolais i di, fy fflam, o bell ac yn fud.”''
  
 
;G<small>WILYM</small> B<small>REWYS</small>  
 
;G<small>WILYM</small> B<small>REWYS</small>  
 
* Un o Arglwyddi’r Mers.  
 
* Un o Arglwyddi’r Mers.  
* Ffrancwr / Norman Tad i Isabela sydd wedi dod i Wynedd, i briodi [[Dafydd]], mab Tywysog Gwynedd.  
+
* Ffrancwr / Norman Tad i Isabela sydd wedi dod i Wynedd, i briodi Dafydd, mab Tywysog Gwynedd.  
 
* Pump ar hugain yn y ddrama.  
 
* Pump ar hugain yn y ddrama.  
 
* Cymeriad mentrus. Mae'n gwybod am y perygl o fynd i gwrdd â Siwan yn ystafell wely’r Tywysog Llywelyn. Eto, mae’n barod i fentro'i diroedd am un noson o garu gyda Siwan, ond prin iddo ystyried colli ei fywyd.  
 
* Cymeriad mentrus. Mae'n gwybod am y perygl o fynd i gwrdd â Siwan yn ystafell wely’r Tywysog Llywelyn. Eto, mae’n barod i fentro'i diroedd am un noson o garu gyda Siwan, ond prin iddo ystyried colli ei fywyd.  
Llinell 98: Llinell 98:
 
;Cymeriadau hanesyddol
 
;Cymeriadau hanesyddol
 
   
 
   
Ysbrydolwyd y dramâu, ''Blodeuwedd'', ''Gan Bwyll'' a ''[[Branwen]]'' gan ''Bedair Cainc y  
+
Ysbrydolwyd y dramâu, ''Blodeuwedd'', ''Gan Bwyll'' a ''Branwen'' gan ''Bedair Cainc y Mabinogi'', a ''Siwan'' gan hanes Cymru. Y ddolen gyswllt rhwng y dramâu hyn yw’r  
Mabinogi'', a ''Siwan'' gan hanes Cymru. Y ddolen gyswllt rhwng y dramâu hyn yw’r  
 
 
thema: defnyddir rôl y ferch fel darn gwyddbwyll rhywiol yng ngwleidyddiaeth grym.  
 
thema: defnyddir rôl y ferch fel darn gwyddbwyll rhywiol yng ngwleidyddiaeth grym.  
 
Er eu rhoi mewn priodasau digariad am resymau gwleidyddol, mae arwresau  
 
Er eu rhoi mewn priodasau digariad am resymau gwleidyddol, mae arwresau  
Llinell 137: Llinell 136:
 
dynion drwg yn llwyddo? Beth yw diben bodolaeth? Yn wir, a ellir cyfiawnhau  
 
dynion drwg yn llwyddo? Beth yw diben bodolaeth? Yn wir, a ellir cyfiawnhau  
 
drygioni a dioddefaint yn enw rhyw ddaioni mwy? A oes Duw yn bod sy’n caniatáu,  
 
drygioni a dioddefaint yn enw rhyw ddaioni mwy? A oes Duw yn bod sy’n caniatáu,  
neu’n methu atal, y fath ddioddefaint? Yntau, ai carchar yw bodolaeth, [[lle]] mae’n  
+
neu’n methu atal, y fath ddioddefaint? Yntau, ai carchar yw bodolaeth, lle mae’n  
 
rhaid i bawb ddioddef a marw, yn ddibwrpas? Er i Saunders Lewis lynu at ei ffydd hyd  
 
rhaid i bawb ddioddef a marw, yn ddibwrpas? Er i Saunders Lewis lynu at ei ffydd hyd  
 
y diwedd, lleisir gan rai o’i gymeriadau yr anobaith tywyll. Yn hytrach na byw mewn  
 
y diwedd, lleisir gan rai o’i gymeriadau yr anobaith tywyll. Yn hytrach na byw mewn  
Llinell 169: Llinell 168:
 
::''“Tynnais di i mewn i fusnes fy mywyd.”''
 
::''“Tynnais di i mewn i fusnes fy mywyd.”''
  
Gwnaeth yn sicr bod y Pab a Brenin Lloegr yn cydnabod mai [[Dafydd]], mab Siwan,  
+
Gwnaeth yn sicr bod y Pab a Brenin Lloegr yn cydnabod mai Dafydd, mab Siwan,  
 
oedd etifedd Gwynedd ac nid Gruffydd, y mab anghyfreithlon. Gweithredu oedd  
 
oedd etifedd Gwynedd ac nid Gruffydd, y mab anghyfreithlon. Gweithredu oedd  
 
dull cyfathrebu Llywelyn ac nid geiriau;  
 
dull cyfathrebu Llywelyn ac nid geiriau;  
Llinell 284: Llinell 283:
 
::''“Seremoni yw byw i deulu brenhinol.”''  
 
::''“Seremoni yw byw i deulu brenhinol.”''  
 
   
 
   
;Llyfryddiaeth: Jones, [[Dafydd]] Glyn (1996) ''Saunders Lewis, dwy drafodaeth ar gefndir y ddrama :'' Cymdeithas Theatr Cymru.
+
;Llyfryddiaeth: Jones, Dafydd Glyn (1996) ''Saunders Lewis, dwy drafodaeth ar gefndir y ddrama :'' Cymdeithas Theatr Cymru.
  
[[Categori:Yr Archif Ddrama Radio]]
+
__NOAUTOLINKS__
 +
[[Categori:Drama Radio]]
 +
[[Categori:Dramâu]]

Y diwygiad cyfredol, am 13:08, 23 Gorffennaf 2014

Y Cefndir Hanesyddol

Drama wedi ei seilio ar briodas frenhinol yw Siwan. Yn y bôn y mae’n ddrama sy’n trafod hynt a helynt perthynas briodasol cymeriadau cryf, Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd, a’i wraig, Siwan, merch anghyfreithlon John, brenin Lloegr. Yn y ddrama gwelwn sut mae anffyddlondeb Siwan yn effeithio ar y berthynas honno. Felly, drama am bobl ydyw, yn hytrach na drama am hanes Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg. Serch hynny, mae’r cefndir hanesyddol yn hanfodol ar gyfer dealltwriaeth o’r ddrama.

Ganwyd Llywelyn ab Iorwerth yn 1173, yn fab i Iorwerth Drwyndwn, un o feibion Owain Gwynedd. Yr achlust oedd ni chafodd Iorwerth ei ystyried am y frenhiniaeth pan fu Owain farw yn 1179 oherwydd nam corfforol ar ôl brwydr. Dechreuodd Llywelyn herio ei ddau ewyrth, Dafydd a Rhodri pan oedd yn ifanc iawn ac erbyn 1200 roedd Dafydd yn alltud yn Lloegr a Rhodri wedi marw, felly’n gadael Llewelyn yn feistr ar Wynedd.

Yr oedd blynyddoedd o gydbriodi wedi creu rhwydwaith o gysylltiadau teuluol rhwng teuluoedd brenhinol Cymru. Ond yn y drydedd ganrif ar ddeg dechreuodd tywysogion Gwynedd chwilio am wragedd o du allan i’r cylch brenhinol yma. Drwy wneud hyn credai Llywelyn y byddai’n medru torri’n rhydd o’r patrwm priodasol traddodiadol, pellhau wrth ei gyd-dywysogion, a thanlinellu ei ymdrechion i greu tywysogaeth Gymreig dan ei arweiniad.

Roedd Gruffydd, mab cyntaf anedig Llywelyn, yn ganlyniad i’w berthynas â Thangwystl, ond tybiai'r tywysog pe bai’r berthynas yma’n anghyfreithlon yng ngolwg yr eglwys y mae’n bosibl y byddai’r Cymry yn ei gweld yn berthynas anghyfreithlon yn ogystal. Ystyriodd Llywelyn briodi merch brenin Ynys Manaw ond yn 1204 cafodd y cyfle i briodi Siwan, ar ôl iddo dalu gwrogaeth i’r brenin John. Credai Llywelyn y byddai’r briodas yma’n fanteisiol iddo, byddai priodi merch brenin Lloegr, yn codi ei statws, ac y byddai eu plant yn ddisgynyddion ac yn aelodau o’r rhwydwaith brenhinol Ewropeaidd. Felly, priodas wleidyddol oedd hi ac fel priodas wleidyddol, yn un lwyddiannus iawn. Wrth gwrs ni all hanes ddatgelu pa mor glos yr oeddent yn y berthynas briodasol hon, ni all y ffynonellau sydd ar gael adlewyrchu faint o wir gariad oedd rhyngddynt. Ond medrir dweud bod Siwan yn gefnogaeth gref i’w gŵr. Yn 1211, ar ôl ymgyrch John yn erbyn Llywelyn aeth Siwan at ei thad i bledio ei achos, a hi oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu cadoediad rhwng Llywelyn a’i brawd, y Brenin Harri’r III.

Cafodd Llywelyn a Siwan bump o blant, un mab, Dafydd, a phedair merch, Elen, Gwladus, Mared a Susanna. Dewiswyd Dafydd yn etifedd, serch bod Gruffydd, mab Tangwystl yn hn, oherwydd byddai mab Siwan a oedd hefyd yn nai i Harri’r III mewn safle cryfach fel tywysog. Un o brif amcanion Llywelyn oedd sicrhau’r holl etifedd i Dafydd ac yn 1220 fe’i cydnabuwyd yn etifedd gan raglawiaid Lloegr. Ni phriododd yr un o’r merched Gymro; trefnwyd priodasau ag arglwyddi’r Mers am resymau gwleidyddol. Yr oedd Gwladus, yn ail wraig i Reginald de Breos, ac felly’n llys fam i Gwilym Brewys a phriododd Mared gefnder Gwilym, John.

Llyfryddiaeth
Carr, A. D. (1996) Dwy drafodaeth ar gefndir y ddrama, Y Cefndir Hanesyddol : Cymdeithas Theatr Cymru.

Cymeriadau

Dim ond pedwar cymeriad sydd yn Siwan, ac yn yr ail act yn unig ymddengys Gwilym Brewys. Nid oes amser yn cael ei wastraffu ar is-gymeriadau: defnyddir pob eiliad i dynnu portreadau cyflawn o’r pedwar hyn. Dewisodd Saunders Lewis gymeriadau fel Siwan, Llywelyn a Gwilym Brewys a oedd yn gymeriadau hanesyddol go iawn.

SIWAN, Tywysoges Gwynedd
  • Merch anghyfreithlon Brenin Lloegr, sef y Brenin John, brawd Richard Coeur de Lion.
  • Wedi dysgu siarad Cymraeg.
  • Yn 10 oed, fe briododd Llywelyn, Tywysog Gwynedd ac yntau dros ei 30. Dywed ar dudalen 42 ei bod yn dal i deimlo'n alltud yng Ngwynedd;
“Alltud a'm hunig werth yw fy ngwerth i gynnydd gwlad.”
  • Yn gefn mawr i Llywelyn. Roedd John, ei thad, wedi ymosod ar Wynedd ac roedd bywyd Llywelyn mewn perygl. Siwan oedd y llysgennad, yn siarad dros ei gŵr a thros ei deyrnas. Daeth hi adre’ wedi llwyddo.
  • Yn 15 oed, rhoddodd enedigaeth i’w mab Dafydd.
  • Merch ifanc, ddeallus a dyfodd yn wraig oedd yn deall gwleidyddiaeth a sut i amddiffyn teyrnas Llywelyn rhag ei elynion.
LLYWELYN FAWR, Tywysog Gwynedd
  • Roedd yna “fwlch o chwarter canrif” rhwng Siwan a Llywelyn ac roedd Gwilym yn iau na Siwan.
  • Llywelyn yn dywysog ac yn rheoli llawer o dir Cymru.
  • Rhyfelwr yn ôl arfer yr oes.
  • Addoli Siwan;
“I mi roedd goleuni lle y troedit”…“Felly'r addolais i di, fy fflam, o bell ac yn fud.”
GWILYM BREWYS
  • Un o Arglwyddi’r Mers.
  • Ffrancwr / Norman Tad i Isabela sydd wedi dod i Wynedd, i briodi Dafydd, mab Tywysog Gwynedd.
  • Pump ar hugain yn y ddrama.
  • Cymeriad mentrus. Mae'n gwybod am y perygl o fynd i gwrdd â Siwan yn ystafell wely’r Tywysog Llywelyn. Eto, mae’n barod i fentro'i diroedd am un noson o garu gyda Siwan, ond prin iddo ystyried colli ei fywyd.
  • Mae Gwilym wedi’i haddoli ers iddo fod yn fachgen deg oed;
Rwy’n caru Tywysoges sy'n briod fel cannoedd o Arglwyddi Cred. Mae’r peth fel twrnamaint yn rhan o fywyd Iarll”
ALIS
  • Prif forwyn Siwan.
  • Ffrind, yn barod i wrando ar ofidiau a meddyliau Siwan a chadw ei chyfrinachau.
  • Gwraig ddeallus a gweithgar.

Cynhyrchwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru rhwng Mai a Mehefin 2008. Ond pwy oedd yn portreadu’r cymeriadau yma bryd hynny?

Cast
Ffion Dafis – Siwan
Dyfan Roberts – Llywelyn Fawr
Rhys ap Hywel – Gwilym Brewys
Lisa Jên Brown – Alis

Themâu Saunders

Cymeriadau hanesyddol

Ysbrydolwyd y dramâu, Blodeuwedd, Gan Bwyll a Branwen gan Bedair Cainc y Mabinogi, a Siwan gan hanes Cymru. Y ddolen gyswllt rhwng y dramâu hyn yw’r thema: defnyddir rôl y ferch fel darn gwyddbwyll rhywiol yng ngwleidyddiaeth grym. Er eu rhoi mewn priodasau digariad am resymau gwleidyddol, mae arwresau penderfynol Lewis yn tra-arglwyddiaethu yn y dramâu hyn. Maent yn gwrthryfela, trwy gyflawni llosgach, neu gynllwynio llofruddiaeth, yn godinebu, neu yn achosi rhyfel trychinebus; ond eto caiff y gwragedd beiddgar, nwyfus yma gydymdeimlad llwyr eu crëwr.

“Theatr o ddadleuon moesol yw theatr Saunders Lewis”
– Bruce Griffiths, 1991
Gwrthdaro mewnol

Mae ei ddramâu gorau yn elwa ar y tyndra sy’n cael ei greu pan gaiff arwr neu arwres ei hun mewn i benbleth erchyll. Yn Gymerwch Chi Sigarét? rhaid i Marc, y comiwnydd amharod, droi’n llofrudd neu dynghedu ei wraig a’i blentyn i farwolaeth erchyll yn nwylo’r heddlu. Yn Brad rhaid i Von Kluge dorri ei lw o ffyddlondeb i Hitler, gan ymuno â chynllwyn yn ei erbyn i roi terfyn ar ryfel anobeithiol, neu ymatal, gan dynghedu ei wlad i orchfygiad llwyrach fyth. Sylwer hefyd yn Amlyn ac Amig, rhaid i Amlyn ddewis torri llw cysegredig neu ladd ei blant ei hun.

Gweithred yn newid cwrs hanes

Elfen bwysig a drafodir yng ngwaith Saunders Lewis yw sut gall gweithred ar ran yr arwr neu’r arwres newid cwrs hanes. Yn Siwan, mae Llewelyn yn peryglu gwaith oes, ei dywysogaeth, trwy grogi Gwilym Brewys, cariad ei wraig, gan wynebu’r perygl y dielir arno gan yr arglwyddi Normanaidd eraill. Pam? Ai i sarhau ei wraig odinebus neu i ddangos iddi, yn groes i’w chamdybiaeth hi, ei fod yn prisio anrhydedd yn uwch na buddioldeb a pholisi? Mae ei her yn llwyddo; nid oes dial, a blwyddyn yn ddiweddarach cymodir Llywelyn a Siwan, er y bydd llofruddiaeth ei chariad rhyngddynt weddill eu hoes.

Crefydd

Dramateiddir cwestiynau tragwyddol bywyd yn ei ddramâu, y rhai sylfaenol, yr unig rai pwysig mewn gwirionedd: pam y ceir drygioni a dioddefaint yn y byd? Pam mae dynion drwg yn llwyddo? Beth yw diben bodolaeth? Yn wir, a ellir cyfiawnhau drygioni a dioddefaint yn enw rhyw ddaioni mwy? A oes Duw yn bod sy’n caniatáu, neu’n methu atal, y fath ddioddefaint? Yntau, ai carchar yw bodolaeth, lle mae’n rhaid i bawb ddioddef a marw, yn ddibwrpas? Er i Saunders Lewis lynu at ei ffydd hyd y diwedd, lleisir gan rai o’i gymeriadau yr anobaith tywyll. Yn hytrach na byw mewn ffydd gwelir hunanladdiad - gan rai, y cam olaf rhesymegol, testun amlwg mewn nifer o’i ddramâu. Yn Cymru Fydd mae Dewi’r cenedlaetholwr dadrithiedig, heb ddim i fyw er ei fwyn, yn ei daflu’i hun i’w dranc. Yn Ar y Trên, mae yna deithiwr, na ellir mo’i stopio, symbol o fodolaeth, yn carlamu i’w dranc;

“Ond mi all dyn ddewis y terminws”.
Diffyg cyfathrebu

Dyma un o brif themâu Siwan.

“Dwy blaned sy'n rhwym i'w cylchau; chlywan nhw mo'i gilydd fyth.”
“Onid hynny yw priodas, ymglymu heb adnabod....?”

Yr enghraifft dristaf yw bod Siwan a Llywelyn yn methu cyfleu eu cariad at ei gilydd. Wrth drafod gwleidyddiaeth, mae'r ddau'n cyfathrebu ac yn cytuno'n dda iawn. Er bod Llywelyn yn caru Siwan, mae'n methu â mynegi hyn tan yr act olaf. Erbyn hynny, rydyn ni'n teimlo ei bod yn rhy hwyr i'r ddau ddeall ei gilydd yn llawn;

“Drawodd o ar dy feddwl di, Siwan,
Y gallai mod i'n dy garu fel Gwilym Brewys?”

Roedd y bwlch oedran rhyngddyn nhw yn rheswm arall dros fethu cyfathrebu. Roedd ofn ar Llywelyn ddangos ei gariad tuag at Siwan. Deg oed oedd Siwan pan briododd hi â Llywelyn felly roedd yn ofni dychryn a dolurio Siwan. Ceisiodd ddangos ei gariad mewn ffyrdd eraill;

“Tynnais di i mewn i fusnes fy mywyd.”

Gwnaeth yn sicr bod y Pab a Brenin Lloegr yn cydnabod mai Dafydd, mab Siwan, oedd etifedd Gwynedd ac nid Gruffydd, y mab anghyfreithlon. Gweithredu oedd dull cyfathrebu Llywelyn ac nid geiriau;

“Gwleidydd wyf i, cheisiais i mo'r amhosib.”
Serch a chariad

Serch – chwant y foment, mae’n arwynebol, yn hawdd ei weld a hefyd yn hawdd ei golli.

Cariad – emosiwn mwy aeddfed, sy’n tyfu’n fwy cryf ar hyd taith bywyd pan fo dau yn aros gyda’i gilydd.

Doedd cymdeithas yr oes honno ddim yn disgwyl bod gŵr a gwraig yn caru ei gilydd na chyfathrebu â’i gilydd. Yn aml, roedd y briodas yn aml wedi ei threfnu. Y rheswm y priododd Siwan â Llywelyn oedd er mwyn sicrhau gwell perthynas rhwng dwy wlad. Felly gweithred wleidyddol oedd hi. Mae Llywelyn yn cyfaddef hyn ar dudalen wythdeg;

“Gwleidyddiaeth oedd ein priodas ni, arglwyddes.”

Ond, syrthiodd mewn cariad â'i wraig ei hun;

“Fe droes fy nghalon i'n sydyn megis pe gwelswn y Greal.”

Wnaeth Siwan ddim ystyried bod Llywelyn yn ei charu. Roedd hi’n deall pwrpas ei bywyd; “Rhoddais fy nghroth i wleidyddiaeth fel pob merch brenin...Dau beth ar wahân yw busnes a phleser.”

Y gwahaniaeth mawr rhwng Gwilym a Llywelyn yn y ddrama ydy eu ffordd o ddangos eu cariad at Siwan, gall Gwilym ddweud wrthi am ei gariad. Nid dyma ffordd Llywelyn. O achos y bwlch oed rhwng y ddau, mae Llywelyn wedi penderfynu ei charu, “o bell ac yn fud.” Mae Llywelyn yn y ddrama yn cael ei ddarlunio fel dyn sensitif a oedd yn ofni dychryn a dolurio Siwan, gan iddo ei phriodi pan oedd yn ferch ifanc iawn. Ar y llaw arall gellir dadlau fod Llywelyn yn ddyn balch ac yn ofni cael ei wrthod gan ei wraig ifanc. O ganlyniad i hyn dydy Siwan ddim yn gwybod bod Llywelyn yn ei charu hyd yr act olaf. Dywed Siwan;

“Ti yn fy ngharu i? Be wyt ti'n feddwl?” “Mewn ugain mlynedd o fyw gyda'n gilydd

ddwedaist ti mo hyn o'r blaen.”

Ymateba Llywelyn;

“Mewn ugain mlynedd o fyw gyda'n gilydd welaist tithau mo hyn.”

Dyma'r drasiedi. Nid yw Siwan wedi sylweddoli bod Llywelyn yn ei charu. Nid yw Llywelyn yn deall bod yn rhaid cael serch mewn priodas, ac nid yw cariad yn ddigon. Felly, mae'r ddrama hon, yn Act 1, yn cyflwyno gwraig ganol oed sy'n barod i fentro cymryd Gwilym Brewys yn gariad cyn iddi fod yn rhy hen.

Llyfryddiaeth
Griffiths, Bruce (1991) Saunders Lewis : Agweddau ar ei fywyd a’i waith : Gwasg Gomer.
Lewis, Saunders (1976) Siwan a Cherddi Eraill : Gwasg Dinefwr.
Williams, Yr Athro Ioan (2008) Siwan : drama hanes, www.theatr.com

Arddull

Nid y lleiaf o gymwynasau Saunders Lewis i’r ddrama Gymraeg yw ei arbrofion mewn iaith drama. Y mae rhythmau clywadwy a miwsig llafar o angenrheidrwydd yn ofynnol yn y theatr. Byddai Saunders Lewis yn arbrofi gyda’r acennog, y di-acen, sillafau a safle’r orffwysfa. O ganlyniad byddai’n llwyddo, weithiau’n fwriadol, weithiau’n ddiarwybod, i greu barddoniaeth a rhythmau effeithiol, crefftus. Y mae’r hyn a deimla yn ei galon yn troi’n batrwm arbennig o seiniau yn ei glust; ac y mae’r patrwm hwnnw, pan syrth ar ein clustiau ninnau, yn atgynhyrchu ynom yr emosiwn a deimla’r dramodwr. O’r galon i’r glust, o’r glust i’r galon.

Wrth drafod arddull Siwan pwysig iawn yw ystyried y cyfnod. Roedd Cristnogaeth yn ystod yr Oesoedd Canol yn hanfod i fywydau pawb ac yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol y wlad. Roedd pawb dros Ewrop i gyd yn y cyfnod hwn yn Babyddion ac felly mae'r eirfa a'r arferion Pabyddol yn codi'n naturiol yn y ddeialog. Pwysig cofio hefyd roedd crefydd yn chware rhan flaenllaw iawn ym mywyd bob dydd Saunders Lewis, ac mae hyn yn amlwg wedi treiddio trwyddo i’w waith llenyddol, y ffeithiau crefyddol cywir a’r iaith.

Yn yr act gyntaf wrth i Alis adael dywed Siwan;

“Duw a Mair i'th gadw...” (tudalen 38)

Yn yr ail act mae yna sôn am Sant Ffransis ac mae Siwan yn gofyn iddo weddïo dros Gwilym yn hollol naturiol;

“Sant Ffransis, gweddïa iddo .....” (tudalen 64)

Mae croes gan Siwan yn ei charchar;

“Mi benliniaf ar y gwely gerbron delw y grog.” [Cyfeiria’r grog at groes Crist]

Ar dudalen 65, mae'n gweddïo ar y Forwyn Fair;

“Gwna fargen dros bechadures, o Fam pechaduriaid:”

Roedd Saunders Lewis yn ysgrifennu deialog mewn iaith farddonol hardd, er mwyn cyfleu iaith ac awyrgylch y llys, dywed;

“Barddoniaeth siarad yw barddoniaeth iawn y theatr, a dylai’r dramodydd wrth gyfansoddi siarad ei linellau, eu siarad ac nid eu hadrodd.”

Mae’n defnyddio pryder i adeiladu’r tensiwn mewn nifer o olygfeydd. Ceir enghraifft dda o sicrwydd crefft yr awdur yn yr olygfa garu rhwng Siwan a Gwilym. Adeilada’r olygfa fyny at uchafbwynt cyn agor o’r drws ar ddyfodiad y tywysog. Cyfarthiad y ci yn y pellter yw’r arwydd cyntaf, yna funud neu ddwy’n ddiweddarach clywir sŵn porth y gaer yn agor (mae’r pryder yn dyfnhau). Ysbaid arall a chlywir corn Llywelyn yn canu, yna traed y milwyr yn nesáu....agorir y drws. Erbyn hyn rydym ar bigau’r drain. Y mae trefn y digwyddiadau yn berffaith, yn bwysicach fyth, mae’r amseru rhyngddynt yr un mor ofalus.

Gweler gallu Saunders Lewis i ddadlennu cymeriad wrth fynegi teimlad, a hynny’n aml mewn un llinell fer, ac yn aml mae’r llinellau eu hunain yn berlau, heb orfod eu cysylltu â’r cymeriadau. Mae ganddo yn y ddrama hon, linellau sydd â mynegiant mor berffaith nes haeddu ohonynt fynd yn ddiarhebion;

“Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.”
“Cyntaf-anedig gwraig yw ei gŵr.”
“’Does neb erioed a gydymdeimlo â phoen.”
“Seremoni yw byw i deulu brenhinol.”
Llyfryddiaeth
Jones, Dafydd Glyn (1996) Saunders Lewis, dwy drafodaeth ar gefndir y ddrama : Cymdeithas Theatr Cymru.