Slang

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:50, 2 Gorffennaf 2016 gan SeimonBrooks (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Ieithwedd anffurfiol, gellweirus. Tardda fel rheol o blith bechgyn a dynion ifainc o fewn grwpiau hunanymwybodol – disgyblion ysgol, myfyrwyr, milwyr, awyrenwyr, lladron. Nid bratiaith yw slang; er ei bod yn ‘ansafonol’ o safbwynt cymdeithasol, ac er ei bod yn llurgunio geiriau, mae ei gramadeg sylfaenol yn gywir. Dyfais ydyw, ac ynddi elfen drosiadol, greadigol yn ei chychwyniad. Ymhlith y dulliau o’i chreu mae: (a) benthyca gair o iaith arall (‘coconyt’ am ‘penglog’); (b) lluosogi sillafau (‘trol’ yn mynd yn ‘trolibws’); (c) gollwng sillafau (‘col.’, ‘proff.’, ‘Phil.’); (ch) rhoi dim ond llythrennau cyntaf geiriau, gan gymryd y bydd bechgyn bydol-ddoeth fel y siaradwr yn ‘deall’ (‘the aged p.’ medd Bertie Wooster a’i ffrindiau, gan olygu ‘parent’).

Weithiau fe gymathir slang nes daw’n rhan naturiol o dafodiaith. Mae’n debyg mai fel rhyw fath o slang y dechreuodd rhai o eiriau tref Caernarfon. Heddiw, pan yw gwir frodor o’r dref yn dweud ‘fodan’, ‘niwc’ a ‘stagio’, nid yw’n meddwl amdanynt fel slang. Ond pan ddefnyddir hwy gan rywun o ardal arall, fel y gwneir weithiau o ran hwyl, ânt yn ôl yn slang yn syth.

Wil Bryan yn Rhys Lewis (1885) Daniel Owen yw’r prif siaradwr slang mewn llenyddiaeth Gymraeg, a gwna hynny mewn dwy iaith. ‘Yr hen wyth’ yw’r talfyriad o’r ‘hen gloc wyth niwrnod’, a’r ‘Hen Bant’ yw’r Pêr Ganiedydd. ‘Waterworks’ yw’r gair am ‘ddagrau’, ac mae unrhyw un o natur ddagreuol yn mynd yn ‘hen waterworks’ yn y fan. Drwy hyn mae Wil yn ei ddiffinio’i hun fel aelod o grŵp, sef hogiau clyfar yr oes.

Dafydd Glyn Jones

Llyfryddiaeth

Owen, D. (1885), Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel (Wrexham: Hughes and Son).


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.