Smith Brindle, Reginald (1917-2003)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cyfansoddwr ac ysgolhaig a aned yn Caterham, Surrey, ond a fu’n gysylltiedig ag adran gerddoriaeth Prifysgol Bangor am ymron chwarter canrif rhwng 1946 ac 1970. Fe’i hyfforddwyd yn wreiddiol fel pensaer, ond wedi i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben aeth i gyfeiriad cerddoriaeth. Enillodd wobr yn Rhufain yn 1946 am passacaglia yr oedd wedi ei chyfansoddi yn ystod ei gyfnod yn y fyddin.

Astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1946 ac 1949. Parhaodd â’i astudiaethau yn yr Eidal, o dan athrawon fel Ildebrando Pizzetti (1880-1968) a Luigi Dallapiccola (1904–75). Trwy ei gysylltiad â Dallapiccola datblygodd ddiddordeb mewn cyfresiaeth fynegiannol, a chlywir dylanwad y dull 12-nodyn o gyfansoddi mewn gweithiau cynnar ar gyfer cerddorfa linynnau, megis An Epitaph for Alban Berg (1955) a Via crucis (1960).

Erbyn iddo gwblhau Via crucis roedd Smith Brindle wedi ymgartrefu yn ôl ym Mangor, lle’r oedd wedi ei benodi’n ddarlithydd yn yr adran gerddoriaeth yn 1957. Yn ôl David Wright, roedd hwn yn gyfnod creadigol a chynhyrchiol iawn yn ei hanes, pan gyfansoddodd weithiau megis y Concerto Cambrensis (1961) ar gyfer llinynnau, y Three Japanese Lyrics (1966) ar gyfer llais ac ensemble, gwaith yn dwyn y teitl Discoveries (1967) ar gyfer côr SATB, i eiriau gan y bardd Eingl-Gymreig Vernon Watkins, ac opera sy’n cyflwyno trasiedi Roegaidd, The Death of Antigone (1969) (Wright 2004). Cafodd ei ddyrchafu i’r Gadair Gerddoriaeth ym Mangor yn 1967. Aeth o Fangor i Brifysgol Surrey yn 1970, lle bu’n Athro hyd ei ymddeoliad yn 1985.

Nododd Gerald Larner mewn erthygl yn y Musical Times fod arddull gerddorol Smith Brindle yn anodd i’w disgrifio oherwydd ei bod mor hynod wreiddiol (Larner 1971, 543). Aeth y cyfansoddwr Bernard Rands, a fu’n ddisgybl i Smith Brindle ym Mangor yn ystod yr 1950au, ymhellach, gan ddweud nad oedd tebyg iddo ymysg cyfansoddwyr Prydeinig y cyfnod am ymdriniaeth o liw a soniarusrwydd cerddorfaol (yn Wright 2004). Fodd bynnag, ar wahân i’w gynnyrch sylweddol ar gyfer gitâr clasurol unawdol, ni oroesodd ei gerddoriaeth yn y blynyddoedd wedi ei farwolaeth. Yn hytrach, fe’i cofir heddiw yn bennaf am ei werslyfr ar gyfresiaeth, Serial Composition (Rhydychen, 1966) a’i drosolwg dadlennol o dechnegau avant-garde yr 1950au a’r 1960au, The New Music: the avant-garde since 1945 (Rhydychen, 1975), a ailargraffwyd yn 1987.

Pwyll ap Siôn a Geraint Lewis

Cyfansoddiadau (rhestr ddethol)

  • Sonata senese (1950), ar gyfer gitâr unawdol
  • Symffoni Rhif 1 (1954)
  • Variations on a Theme by Dallapiccola (1955)
  • An Epitaph for Alban Berg (1955), ar gyfer cerddorfa linynnol
  • Via Crucis (1960), ar gyfer cerddorfa linynnol
  • Concerto Cambrensis (1961), ar gyfer cerddorfa linynnol
  • Diversions (1965), ar gyfer telyn a harpsicord
  • 3 Japanese Lyrics (1966), ar gyfer Soprano ac ensemble
  • Discoveries (1967), ar gyfer côr SATB
  • [opera] The Death of Antigone (1969)
  • Worlds without End (1973), ar gyfer adroddwyr, côr SATB, ensemble a thâp
  • Sonata Rhif 2 ‘El verbo’ (1976), ar gyfer gitâr unawdol
  • Consierto i gitâr a cherddorfa (1976)
  • Sonata Rhif 3 (‘The Valley of Esdralon’) (1978)
  • Sonata Rhif 4 (‘La breve’) (1978)
  • Sonata Rhif 5 (1979)
  • Symffoni Rhif 2 (‘Veni Creator’) (1989)

Llyfryddiaeth

  • Gerald Larner, ‘The Music of Reginald Smith Brindle’, The Musical Times, 112/1540 (Mehefin, 1971), 543–5



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.