Solomon a Gaenor

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Crynodeb

Gyda thensiynau hiliol a chyffro diwydiannol cymoedd de Cymru yn 1911 yn gefndir i'r stori, mae Solomon a Gaenor yn adrodd hanes nwydus a theimladwy y garwriaeth waharddedig rhwng Cymraes ifanc a llanc o Iddew. Mae Gaenor, sy'n dod o deulu o gapelwyr selog, yn syrthio mewn cariad â phedler ifanc, sy'n cuddio'i hunaniaeth Iddewig rhagddi hi a'i theulu. Er o gefndiroedd sy'n debyg ar lawer cyfrif, y mae yna hefyd fyd o wahaniaeth rhwng y ddau. Er cryfed eu cariad, y mae ffawd, serch hynny, yn eu herbyn, wrth i atgasedd y fro cynllwynio i ddinistrio eu hapusrwydd brau.


Sylwebaeth Arbenigol

Cyllideb y ffilm oed £1.6 miliwn.


Manylion Pellach

Teitl Gwreiddiol: Solomon a Gaenor

Teitl Amgen: Solomon and Gaenor

Blwyddyn: 1998

Hyd y Ffilm: 104 munud

Cyfarwyddwr: Paul Morrison

Sgript gan: Paul Morrison

Cynhyrchydd: Sheryl Crown

Cwmnïau Cynhyrchu: APT Films / APT Productions / Arts Council of England / Arts Council of Wales / Channel 4 Films / National Lottery / September Films / S4C

Genre: Rhamant


Cast a Chriw

Prif Gast

  • Ioan Gruffydd (Solomon)
  • Nia Roberts (Gaenor)
  • Sue Jones-Davies (Gwen)
  • William Thomas (Idris)

Cast Cefnogol

  • Crad - Mark Lewis Jones
  • Rezl - Maureen Lipman
  • Isaac - David Horovitch
  • Bronwen - Bethan Ellis Owen
  • Thomas - Adam Jenkins
  • Ephraim - Cybil Shaps
  • Philip - Daniel Kaye
  • Benjamin - Elliot Cantor

Ffotograffiaeth

  • Nina Kellgren

Dylunio

  • B. Hayden Pearce

Cerddoriaeth

  • Ilona Sekacz

Sain

  • Pat Boxshall / Jennie Evans

Golygu

  • Kant Pan

Castio

  • Joan McCann

Effeithiau Arbennig

  • Richard Reeve

Cydnabyddiaethau Eraill

  • Cynllunydd Gwisgoedd - Maxine Brown
  • Cynhyrchwyr Gweithredol - David Green ac Andy Porter


Manylion Technegol

Tystysgrif Ffilm: Untitled Certificate

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 1.66:1

Gwlad: Cymru

Iaith Wreiddiol: Cymraeg / Saesneg / Iddeweg Lleoliadau Saethu Caerdydd, Cymru Arian 'Box Office' $301,754.00 (UDA)

Gwobrau:

  • Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (Yr Oscars) 1999 - enwebiad am Ffilm Orau mewn iaith Dramor
  • Gwyl Ffilm Verona, Yr Eidal 1999 - Rhosyn Arian am y Ffilm Orau
  • Gwyl Ffilm Emden, Yr Almaen 1999 - Ail wobr
  • BAFTA Cymru 2000 - Camera Gorau – Drama (Nina Kellgren), Gwisgoedd Gorau (Maxine Brown), Cynllunio Gorau (Hayden Pearce), Ffilm Gorau (Sheryl Crown)
  • Festróia - Tróia International Film Festival 1999 - Golden Dolphin (Paul Morrison)
  • Verona Love Screens Film Festival 1999 - Best Film (Paul Morrison)
  • Nantucket Film Festival 2000 - Audience Award for Best Film
  • Seattle International Film festival, 2000

Lleoliadau Arddangos:

  • Berlin International Film Festival, 1999
  • Mill Valley Film Festival, 1999
  • Festróia - Tróia International Film Festival, 1999
  • Verona Love Screens Film Festival, 1999
  • Dangosiadau Theatrig yn Efrog Newydd a Los Angeles yn Awst, 2000
  • Florida Film Festival, 2000
  • Nantucket Film Festival, 2000

Llinell Werthu'r Poster: "Their tragedy was to fall in love"

Dyfyniadau: Solomon Levinsky: "You pray to your God. And I'll pray to mine."


Manylion Atodol

Llyfrau

ap Dyfrig, R., Jones, E H G, Jones, G. The Welsh Language in the Media[1] (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)

Gwefannau

Solomon a Gaenor ar gronfa ddata'r BFI[2]

Wikipedia[3]

IMDb[4]

Adolygiadau

Adolygiad gan Time Out[5]

Adolygiad gan Derek Elley yn Variety[6]

Adolygiad Metacritic[7]

Adolygiad y Guardian[8]

Adolygiad ar wefan Cylchgrawn Empire[9]

Adolygiad gan y New York Times[10]

Adolygiad Flickfilosopher[11]

O wefan S4C :

"Stori garu'r flwyddyn" (GQ)

"Perfformiadau eithriadol gan y ddau brif actor..." (New Woman)

"...wedi'i saethu'n gelfydd a'i gyfarwyddo â hyder, gyda pherfformiadau pwerus a gafaelgar gan y prif gymeriadau." (The Guardian)

"Does dim cofnod mwy bythgofiadwy, gafaelgar a dirdynnol o syrthio mewn cariad yn erbyn y ffactorau - bydd stori Solomon a Gaenor yn aros yn eich cof" (B Magazine)

Erthyglau

Blandford, Steve 'Wales at the Oscars'. Cyfrwng: Media Wales Journal = Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru, 2 (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005), 101-113.

‘Yr Iddew a’r Gymraes’. Golwg. Cyf. 11, rhif 12 (26 Tachwedd 1998), 13-15.

Marchnata

Gwefan Farchnata Solomon a Gaenor gan S4C (trwy'r Internet Archive)[12]

Gwylio 'trailer' y ffilm ar wefan NY Times[13]

Cyfweliad gyda Ioan Gruffydd wedi ei ddyfynnu o wefan farchnata S4C (1999) :

Dau uchelgais mawr Ioan Gruffudd fel actor yw chwarae rhan Romeo yn nhrasiedi fawr Shakespeare a chwarae'r arwr mewn ffilm Western epig. Mae'n anodd meddwl am ddwy ran fwy annhebyg, ond efallai fod y carwr a'r cowboi yn dweud rhywbeth am bersonoliaeth Ioan ei hun. Mae'n ymddangos yn bersonoliaeth bendant a meddylgar ar yr un pryd, yn hyderus ac yn dyner am yn ail.

"Rwy'n berson digon hyderus ar y cyfan, ond mae portreadu cymeriadau vulnerable yn fy nenu i hefyd. Rwy'n gwybod bod bywyd yn gallu bod yn fregus a rwy'n gallu bod yn berson ofnus iawn weithiau," meddai Ioan, a ninnau'n rhannu tebotiad hamddenol o de mewn clwb cartrefol, chwaethus yn Soho, Llundain.

Sylweddolais fod Leonardo di Caprio a Kate Winslett yn mynd trwy'r un profiadau â fi. Gellir dweud bod nifer fawr o'r cymeriadau y mae Ioan yn eu portreadu yn gymysgedd o'r cadarn a'r tyner. Horatio Hornblower, Pip yn Great Expectations a'r Iddew, Solomon, yn ffilm S4C, Solomon & Gaenor - maen nhw i gyd yn gallu bod yn gymeriadau brau a dewr yr un pryd. Ond un diniwed tost y mae'n ei chwarae yn ei rôl ffilm ddiweddaraf, Kevin yn 102 Dalmatians, a chymeriad gwahanol iawn i'r arwyr o ddramâu cyfnod y mae'n eu chwarae fel arfer.

"Kevin sy'n rhedeg y cartre' cwn ac mae'n gymeriad dymunol a hoffus. Ond fel y cwn, mae'n naïf ac yn driw iawn. Pan mae Cruella de Ville [Glenn Close] yn dod i weithio yn y cartref, mae'n ddigon parod i'w derbyn hi. Cwn drwg yw'r cwn yn y pownd a gan ei fod yn fodlon rhoi ail gyfle iddyn nhw, mae'n credu y dylid rhoi ail gyfle i bobol ddrwg fel Cruella de Ville hefyd," meddai Ioan.

Mae 102 Dalmatians yn garreg filltir bwysig yn ei yrfa, gan fod disgwyl i'r ffilm fod yn llwyddiant masnachol enfawr fel y ffilm gyntaf yn y dilyniant, 101 Dalmatians. Trwy'r ffilm, fe ddaw ei wyneb yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled y byd ac i sylw cynhyrchwyr ffilm yn yr Unol Daleithiau. Ac mae'r actor 27 oed o Gaerdydd yn gwybod cystal â neb sut mae sylw byd-eang yn gallu effeithio ar ei yrfa.

"Dim ond dwy linell o sgript oedd 'da fi i'w dysgu yn Titanic ac mae'r olygfa ond yn para rhyw dri munud, ond roedd yr ymateb a ges i'n dipyn o sioc ar y pryd. Fe wnaeth e newid fy ngyrfa i'n ofnadwy. Wedi dweud hynny, roedd ffilmio'r olygfa yn broses tri mis i gyd, ac yn golygu treulio lot o amser mewn tanciau dwr. Yn y pen draw, roedd yr olygfa yn rhan bwysig o'r ffilm," meddai.

Yn ystod y cyfnod ffilmio, fe ddaeth i adnabod ei gyd-actorion Leonardo di Caprio a Kate Winslett yn weddol dda, ac mae'r actor ifanc bellach yn nabod Glenn Close hefyd. Mae'n cyfaddef ei fod yn synnu i ddechrau wrth sylweddoli pa mor normal oedd y sêr rhyngwladol yma.

"Y tro cyntaf gwrddes i â Glenn Close yng nghymeriad Cruella roedd hi'n eitha' brawychus, ond fel person, mae hi'n ddymunol, yn annwyl, ac yn broffesiynol iawn. Ro'n i a Kate Winslett yn dod 'mlaen cystal am ein bod yn rhan o gast ifanc Titanic. Sylweddolais i fod Leonardo a Kate yn mynd trwy'r un math o brofiadau a gofidiau wrth actio â fi, er bod mwy o bwysau arnyn nhw wrth gwrs fel sêr y ffilm.

Ond er gwaethaf cymysgu â sêr mawr y sgrîn ym mhob cwr o'r byd, mae'n ymddangos bod traed Ioan yn sownd i'r ddaear, a daear Cymru yn enwedig.

Mae'n rhannu fflat gyda'r actor a'i ffrind agos, Matthew Rhys, yn ardal Kilburn, Llundain. Ac un o atyniadau'r ardal i Ioan yw ei bod yn agos i Paddington - a'r trên yn ôl i Gymru. Mae Ioan yn falch iawn o fod yn Gymro ac yn fodlon bloeddio hynny ar goedd.

Ond er ei fod yn Gymro i'r carn, dyw e ddim yn hoff o'r ystrydebau ffasiynol a ddefnyddir fel "Cool Cymru" a'r "Taff Pack" i ddisgrifio actorion a cherddorion ifanc Cymru.

"Dwi wastad wedi meddwl bod labelu rhywbeth yn rhoi'r argraff mai peth dros dro ac wedi'i greu yw e," meddai.

"Does dim angen labeli fel 'na arnom ni. Rwy'n credu bod ein hunaniaeth ni'n llawer mwy cadarn nag un Lloegr neu Brydain. Ar yr un pryd, mae ishe inni symud â'r oes - a sylweddoli bod yr un dylanwadau'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a gweddill Ewrop." Daw llawer o'r hyder sydd ganddo yn ei wlad a'i wreiddiau o'i fagwraeth. Mae'n disgrifio'i fagwraeth fel "yr un orau yn y byd, sa'i wedi bod eisiau dim byd erioed, a phan benderfynais i bo' fi ishe mynd i goleg drama RADA yn lle'r brifysgol, ges i gefnogaeth anhygoel. Roedd y'n rhieni i'n sylweddoli bod pawb yn wahanol."

"Dyna pam roedd chwarae Solomon yn anodd," meddai Ioan, "Roedd e'n cael ei orfodi i lynu at draddodiadau'r ffydd Iddewig gan ei deulu ac mae hynny'n wahanol iawn i 'mhrofiad i. Mae'n wahanol hefyd i'r cymeriadau Seisnig dwi wedi'u chwarae ers hynny. Mae'r rheiny'n ceisio cuddio'u teimladau ond mae angerdd a rhwystredigaeth Solomon yn byrlymu i'r wyneb. "Carwr trasiedïol yw Solomon yn y ffilm a 'star-crossed lover' hefyd yw un o hoff gymeriadau Ioan Gruffudd. "Dwi ishe chwarae Romeo yn nrama Shakespeare rywbryd. Ond bydden i hefyd yn leicio'r brif ran mewn ffilm Western. Mae 'nhad a'n wncwl i'n ffans mawr o'r Westerns, ac roeddwn i a 'mrawd wastad yn chwarae Cowbois ac Indians. O'n i'n arfer creu gyda 'nychymyg wrth chwarae Cowbois ac Indians - bellach rwy'n cael fy nhalu i wneud! Efallai mai peth mor syml â hynny wnaeth wneud i mi ddechrau actio."

Mae'n edmygu llond llwyfan o actorion ac yn enwi Al Pacino, Robert di Niro, Marlon Brando, James Stewart a Humphrey Bogart yn eu plith. Cymysgedd eto o'r giangstars a'r cymeriadau mwy sensitif. Ond pan ddaw Ioan i sôn am ei obeithion am y flwyddyn 2001, nid chwarae'r arwr mewn ffilm sydd ar ei feddwl. Mae uchelgais llawer mwy personol ganddo.

"Blwyddyn nesa', se'n i'n licio cwympo mewn cariad ac efallai ffeindio rhywun allen i dreulio gweddill fy mywyd gyda hi. Dwi wedi cwympo mewn cariad o'r blaen, ond rwy'n credu bod rhywun arbennig mas 'na i fi," meddai. Ac mae rhywbeth yn dweud wrtha'i na fydd prinder merched yn cynnig am ran Juliet i'r Romeo o Gymru...