Squires, Dorothy (Edna May Squires; 1915-98)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Edna May Squires ym Mhontyberem, Sir Gaerfyrddin, yng ngharafán ei mam, Emily, a’i thad, Archibald James, a oedd yn weithiwr dur ym Mhontyberem. Tra oedd hi’n blentyn yn tyfu i fyny yn Nafen cafodd ukulele yn anrheg gan ei mam, ond roedd hi’n dyheu am biano. Pan welodd Al Jolson yn The Jazz Singer penderfynodd ei bod hithau am fynd i fyd perfformio. Tra oedd hi’n gweithio yn Woolworths ac yna yn y gwaith alcam yn Llanelli, dechreuodd ymddangos ar lwyfannau clybiau nos yn yr ardal.

Symudodd i Lundain yn ddeunaw oed i weithio fel nyrs ac i feithrin ei gyrfa ym myd perfformio. Yno y cyfarfu â’r asiant Joe Kay a lwyddodd i sicrhau gwaith iddi mewn amrywiol glybiau nos, gan gynnwys cytundeb tymor hir yn y Burlington Gardens Club. Bu hefyd yn perfformio gyda Charlie Kunz, y pianydd o America, yn y Casani Club. Hwn oedd y cyfnod pan fabwysiadodd yr enw Dorothy Squires. Dechreuodd weithio gyda cherddorfa Billy Reid a byddai’r berthynas hon yn parhau am yn hir. Yn 1936 ymunodd â’r gerddorfa a dechreuodd Reid ysgrifennu caneuon ar ei chyfer. Hon oedd y flwyddyn pan recordiodd ei record gyntaf, sef When the Poppies Bloom Again.

Bu’n hynod boblogaidd yn yr 1940au yn sgil caneuon megis ‘The Gypsy’, ‘I’ll Close My Eyes’, ‘It’s a Pity to Say Goodnight’ ac ‘I’m Walking Behind You’. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd bu’n perfformio ar y radio, ar Variety Bandbox, gan dderbyn tâl anrhydeddus iawn am wneud hynny. Prynodd dŷ enfawr gyda Reid yn Bexhill-on-Sea, a chyrhaeddodd un o’i ganeuon ef, ‘A Tree in the Meadow’, rif un yn yr Unol Daleithiau mewn fersiwn gan Margaret Whiting. Yn ystod yr 1950au ymunodd Dorothy Squires â label Nixa Records, gan ryddhau nifer o recordiau sengl ynghyd â’i halbwm cyntaf, Dorothy Squires Sings Billy Reid, yn 1957. Gwahanodd hi a Reid gan rannu’u heiddo rhyngddynt, Squires yn cadw’r tŷ yn Bexley, Swydd Caint, a Reid yn derbyn Theatr yr Astoria yn Llanelli.

Yn un o’i phartïon rhwysgfawr cyfarfu Squires â’r actor Roger Moore a phriododd y ddau yn New Jersey yn 1953. Parhaodd y briodas hyd 1961, ond wrth i yrfa Moore fynd o nerth i nerth, dirywio a wnaeth ei gyrfa hi. Ar ôl dychwelyd i Brydain cafodd Squires lwyddiant cymharol gyda thair record sengl, gan gynnwys Say It With Flowers a recordiwyd gyda’r pianydd poblogaidd Russ Conway (cyrhaeddodd y record honno y 40 uchaf). Yn 1966 recordiodd albwm hunangofiannol yn y Ritz yn Llanelli a ryddhawyd gan Decca. Daeth albwm arall, Till/The Seasons Of y flwyddyn ganlynol. Llogodd Squires y London Palladium ar gyfer cyfres o gyngherddau a gwerthodd 2,300 o docynnau o fewn oriau’n unig. Rhyddhaodd albwm dwbl ar sail y perfformiadau byw hyn.

O hynny allan, fodd bynnag, byddai Squires yn cael sylw’r cyfryngau am resymau negyddol. Treuliodd egni ac arian sylweddol yn dwyn achosion cyfreithiol dirifedi yn erbyn unigolion a phapurau dyddiol. Ni bu ffawd o’i phlaid ychwaith. Yn 1974 llosgodd ei thŷ yn Bexley i’r llawr. Symudodd i Bray, ond dair wythnos yn ddiweddarach gorlifodd Afon Tafwys drwy ei chartref newydd. Yn 1988 collodd y tŷ hwnnw’n derfynol yn dilyn achos o fethdaliad. Trefnwyd ei chyngerdd olaf yn 1990 a hynny er mwyn codi arian ar gyfer talu bil Treth y Pen. Yn ystod ei blynyddoedd olaf cafodd loches gan un o’i hedmygwyr, Esme Coles, yn Nhrebanog, y Rhondda, gan encilio o’r byd. Yn 1998 bu Dorothy Squires farw yn 83 mlwydd oed o ganser yr ysgyfaint yn Ysbyty Llwynypïa.

Sarah Hill

Disgyddiaeth

  • This Is My Life! (Ace Of Clubs ACL-R1230, 1967)
  • Reflections (Marble Arch Records MALS1211, 1968)
  • Say It With Flowers (President Records PTLS1023, 1968)
  • The Seasons of Dorothy Squires (President Records PTLS1032, 1969)
  • Dorothy Sings Squires (Joy Records JOYS172, 1970)
  • At The London Palladium (President Records PTLS1049/50, 1971)
  • Rain, Rain, Go Away (Decca TXS.122, 1977)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.