Steffan, Lleuwen (g.1979)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:34, 31 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Wedi’i geni a’i magu yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, derbyniodd Lleuwen Steffan fagwraeth gerddorol. A hithau’n ferch i’r canwr Steve Eaves, bu cerddoriaeth roc, clasurol a jazz (yn enwedig Ella Fitzgerald) yn ddylanwadau cryf a naturiol arni. Mynychodd ysgol berfformio Glanaethwy cyn treulio cyfnod yn Unol Daleithiau America gan astudio jazz yn Central College, Iowa. Dychwelodd i Gymru i astudio theatr, cerdd a’r cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Treuliodd gyfnod fel perfformwraig jazz yn Llundain, gan berfformio mewn sefydliadau fel clwb Ronnie Scotts. Ymunodd a’r grŵp Acoustique gan ryddhau’r albwm Cyfnos yn 2002 gyda’r pianydd Jochen Eisentraut a’r chwaraewr bas dwbl Owen Evans.

Rhyddhaodd Lleuwen yr albwm Duw a Ńyr gyda’r pianydd Huw Warren a’r sacsoffonydd Mark Lockheart yn 2005. Gan fenythca emynau adnabyddus o gyfnod diwygiad crefyddol 1904–5, anelai’r casgliad at gyfleu rhywfaint o gynnwrf y symudiad gan dalu ‘teyrnged i’r emynwyr’, tra oedd ar yr un pryd yn gwthio’r ffiniau trwy drawsffurfiad creadigol o’r deunydd. Daeth yr albwm â Lleuwen i sylw’r wasg Brydeinig, ac fe’i disgrifiwyd fel recordiad ‘anarferol’ a ‘rhyfeddol brydferth’ gyda’r ansawdd lleisiol yn llwm a gwerinol ac yn dwyn i gof arddull ganu Sinéad O’Connor.

Aeth y gantores ymlaen i gyhoeddi ei halbwm unigol cyntaf, Penmon (2007), a chyfeiriwyd ati fel ‘un o’r cantorion mwyaf anghyffredin ddiddorol yn y sîn gerdd gyfoes yng Nghymru’. Yn 2009 derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn sgil yr wobr hon rhyddhawyd yr albwm Tân, sy’n plethu arddulliau ieithyddol a cherddorol Cymreig a Llydewig. Cydweithiodd Lleuwen gyda’r chwaraewr bas dwbl Vincent Guerin, ac ystyrir yr albwm yn arbrofol iawn yn y defnydd o offeryniaeth, gyda Guerin yn defnyddio bas dwbl trydanol wedi’i greu ganddo ef ei hun. Nododd y gantores fod sŵn y geiriau yn hollbwysig yn ystod y broses greadigol. Enillodd Tân glod fel Albwm y Flwyddyn yng ngwobrau Teledu FR3 Ffrainc.

Yn ddiweddarach derbyniodd Lleuwen wahoddiad i gynrychioli Cymru yng ngŵyl WOMEX 2014 a gynhaliwyd yn Santiago de Compostela, Sbaen, a pherfformiodd yng Ngŵyl Interceltique de Lorient gyda’i chwaer, y gantores a’r awdures Manon Steffan Ros, yn ystod Awst 2015.

Yn 2018 rhyddhaodd ei phedwerydd record hir o’r enw Gwn Glân a Beibl Budr, gyda’r cerddorion yn cynnwys Llio Rhydderch, Neil Cowley, Owen Evans, Dafydd Hughes o Cowbois Rhos Botwnnog, a Rhys Meirion.

Tristian Evans

Disgyddiaeth

  • Duw a Ńyr (Sain SCD2507, 2005)
  • Penmon (Gwymon CD001, 2007)
  • ‘Hwiangerdd Mair’ [sengl] (Gwymon LL006, 2009)
  • Tân (Gwymon CD014, 2011)

Llyfryddiaeth

  • Non Tudur, ‘Dwlu ar David Lloyd’, Golwg, 18/10 (3 Tachwedd 2005), 18–19
  • Stuart Nicholson, Observer Music Monthly (20 Tachwedd 2005)
  • Time Out, 16–23 Tachwedd 2005
  • Eurof Williams, ‘Lleuwen yn llwyddo yn Llydaw’, Golwg, 23/14 (2 Rhagfyr 2010), 22–3
  • Pethe, S4C (31 Gorffennaf 2013)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.