Stori

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 10 Hydref 2018 gan Gwenda Richards (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Story

Naratif lle y mae digwyddiadau neu faterion cyhoeddus yn cael ei gyflwyno fel newyddion. Credir bod y dull o ‘adrodd’ storïau (e.e. mewn modd dramatig, neu drwy ddefnyddio gormod o fanylion) yn antithesis i’r broses o gynhyrchu adroddiadau newyddion niwtral a gwrthrychol, ac yn yr un modd, mae meddwl am y newyddion fel storïau yn aml i’r gwrthwyneb i feddwl am newyddion fel gwybodaeth, er bod y ddau beth yn cynnig pwyslais gwahanol i’w gilydd ar agweddau critigol ar gyflwyno’r newyddion. Ac eto mae’r syniad o stori newyddion yn awgrymu ffordd epistemolegol sylfaenol o ddeall y byd, a fu’n ganolog i’r ddealltwriaeth o newyddiaduraeth. Yn ogystal, mae newyddiaduraeth yn frith o wahanol fathau o storïau newyddion: mae newyddion caled yn pwysleisio’r amserol, pwysig a newydd; a newyddion meddal yn canolbwyntio ar y pethau diddorol, teimladwy a storïau o’r galon.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.