Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Taflenni cerddorol"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
(Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '__NOAUTOLINKS__ '''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydy...')
 
Llinell 1: Llinell 1:
__NOAUTOLINKS__
+
 
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
  
Llinell 6: Llinell 6:
 
Yn ystod y 19g., wrth i’r mudiad [[corawl]] fagu momentwm o’r 1840au ymlaen ac wrth i’r galw am gerddoriaeth i unawdwyr gynyddu yng nghanol y ganrif, datblygodd yr arfer o argraffu a chyhoeddi darnau byrion a’u gwerthu ar daflenni, yr hyn a elwir yn Saesneg yn ''sheet music''. Byddai perchenogion yn aml yn pwytho’r rhain at ei gilydd neu yn eu rhwymo mewn cyfrol, gan greu cyfrolau ‘amryw’ o gerddoriaeth. Wedi diddymu’r trethi ar bapur yn nechrau’r 1860au, gellid argraffu darnau fel hyn yn rhad, a’u gwerthu am ychydig geiniogau: roeddynt felly o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach o brynwyr.
 
Yn ystod y 19g., wrth i’r mudiad [[corawl]] fagu momentwm o’r 1840au ymlaen ac wrth i’r galw am gerddoriaeth i unawdwyr gynyddu yng nghanol y ganrif, datblygodd yr arfer o argraffu a chyhoeddi darnau byrion a’u gwerthu ar daflenni, yr hyn a elwir yn Saesneg yn ''sheet music''. Byddai perchenogion yn aml yn pwytho’r rhain at ei gilydd neu yn eu rhwymo mewn cyfrol, gan greu cyfrolau ‘amryw’ o gerddoriaeth. Wedi diddymu’r trethi ar bapur yn nechrau’r 1860au, gellid argraffu darnau fel hyn yn rhad, a’u gwerthu am ychydig geiniogau: roeddynt felly o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach o brynwyr.
  
Y cyhoeddwr Cymreig cyntaf i gyhoeddi unawdau unigol oedd Isaac Clarke, Rhuthun. Hysbysebir ei gyhoeddiadau yn ''Y Cerddor Cymreig'' (cylchgrawn yr oedd Clarke ei hun yn ei argraffu) o’i ddechreuad yn 1861. Yn rhifyn Mawrth 1861 mae’n hysbysebu, dan y pennawd ‘New Music: Vocal and Instrumental’, ddwy unawd, un ganig a dwy gân a chytgan, y cyfan ohonynt â geiriau Cymraeg a Saesneg. Pris y rhain oedd pedair neu chwe cheiniog yr un. Yr un pryd roedd cyfansoddwyr yn cyhoeddi darnau byrion unigol: ymhlith yr un bloc o hysbysebion ceir hysbyseb i ‘Y Nefoedd’ (y geiriau gan [[Ieuan Gwyllt]] a’r dôn gan Joseph Mainzer), ‘ar gerdyn tlws a chryf’ am ddimai neu bedair ceiniog y dwsin. Dilynodd ''Y Cerddor Cymreig'' arfer y ''Musical Times'' o gyhoeddi darn o gerddoriaeth leisiol – canig neu anthem fel arfer – yn atodiad i bob rhifyn misol, a dechreuwyd gwerthu’r rhain ar wahân i destun y cylchgrawn, gan greu corff o daflenni cerddorol Cymreig. Pan gymerodd Hughes a’i Fab, Wrecsam, gyfrifoldeb am gyhoeddi ''Y Cerddor Cymreig'' yn 1865, ychwanegwyd y darnau hyn at eu catalog o gerddoriaeth.
+
Y cyhoeddwr Cymreig cyntaf i gyhoeddi unawdau unigol oedd Isaac Clarke, Rhuthun. Hysbysebir ei gyhoeddiadau yn ''Y Cerddor Cymreig'' (cylchgrawn yr oedd Clarke ei hun yn ei argraffu) o’i ddechreuad yn 1861. Yn rhifyn Mawrth 1861 mae’n hysbysebu, dan y [[pennawd]] ‘New Music: Vocal and Instrumental’, ddwy unawd, un ganig a dwy gân a chytgan, y cyfan ohonynt â geiriau Cymraeg a Saesneg. Pris y rhain oedd pedair neu chwe cheiniog yr un. Yr un pryd roedd cyfansoddwyr yn cyhoeddi darnau byrion unigol: ymhlith yr un bloc o hysbysebion ceir hysbyseb i ‘Y Nefoedd’ (y geiriau gan [[Ieuan Gwyllt]] a’r dôn gan Joseph Mainzer), ‘ar gerdyn tlws a chryf’ am ddimai neu bedair ceiniog y dwsin. Dilynodd ''Y Cerddor Cymreig'' arfer y ''Musical Times'' o gyhoeddi darn o gerddoriaeth leisiol – canig neu anthem fel arfer – yn atodiad i bob rhifyn misol, a dechreuwyd gwerthu’r rhain ar wahân i destun y cylchgrawn, gan greu corff o daflenni cerddorol Cymreig. Pan gymerodd Hughes a’i Fab, Wrecsam, gyfrifoldeb am gyhoeddi ''Y Cerddor Cymreig'' yn 1865, ychwanegwyd y darnau hyn at eu catalog o gerddoriaeth.
  
Yn yr un modd ychwanegwyd y darnau [[sol-ffa]] a gyhoeddwyd yn fisol gyda ''Cerddor y Tonic Sol-ffa'' (1869-74) ac ''Y Cerddor Sol-ffa'' (1881-6), gan greu corff parod o daflenni cerddorol at ddefnydd corau yn bennaf, a gwerthwyd y rhain ar wahân i’r cylchgrawn ei hun. Cynhyrchodd Hughes gyfresi eraill o daflenni, megis ‘Y Gyfres Gerddorol Gymreig’ dan olygyddiaeth [[John Owen]] (Owain Alaw) a [[J. D. Jones]], a gynhwysai anthemau, cytganau a darnau corawl eraill, a byddai ambell gyhoeddwr yn cynhyrchu cyfres fer o daflenni. Ymddangosodd rhangan enwog [[Joseph Parry]] i leisiau meibion, ‘Myfanwy’, yn un o chwe darn gan y cyfansoddwr a gyhoeddwyd gan Isaac Jones, Treherbert, yn 1875 ac y rhoddwyd iddynt y teitl cyfres ‘Telyn Cymry’.
+
Yn yr un modd ychwanegwyd y darnau [[sol-ffa]] a gyhoeddwyd yn fisol gyda ''Cerddor y Tonic Sol-ffa'' (1869-74) ac ''Y Cerddor Sol-ffa'' (1881-6), gan greu corff parod o daflenni cerddorol at ddefnydd corau yn bennaf, a gwerthwyd y rhain ar wahân i’r cylchgrawn ei hun. Cynhyrchodd Hughes gyfresi eraill o daflenni, megis ‘Y Gyfres Gerddorol Gymreig’ dan olygyddiaeth [[John Owen]] (Owain Alaw) a [[J. D. Jones]], a gynhwysai [[anthemau]], cytganau a darnau corawl eraill, a byddai ambell gyhoeddwr yn cynhyrchu cyfres fer o daflenni. Ymddangosodd rhangan enwog [[Joseph Parry]] i leisiau meibion, ‘Myfanwy’, yn un o chwe darn gan y cyfansoddwr a gyhoeddwyd gan Isaac Jones, Treherbert, yn 1875 ac y rhoddwyd iddynt y teitl cyfres ‘Telyn Cymry’.
  
 
O’r 1870au hefyd dechreuodd yr unawd leisiol gael mwy o amlygrwydd wrth i boblogrwydd cyngherddau, [[eisteddfodau]] a chyfarfodydd cystadleuol gynyddu. Cyfrifir ''Bedd Llewelyn'' gan [[D. Emlyn Evans]] yn fan cychwyn yr unawd Gymraeg. Fe’i gwobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1873, a’i chyhoeddi gan Isaac Jones yn 1874. O hynny ymlaen gwelir nifer fawr o gyhoeddwyr yn cyhoeddi unawdau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig - Hughes a’i Fab (a brynodd gyhoeddiadau Isaac Clarke); Isaac Jones; John Jones, Bethesda; Jane ac Elisabeth Jones, Llannerch-y-medd; D. Trehearn, y Rhyl; Benjamin Parry, Abertawe; D. L. Jones (Cynalaw), Llansawel ac Aberteifi; J. R. Lewis, Caerfyrddin; y North Wales Music Co., Bangor; a D. J. Snell, Abertawe, ymhlith eraill. Cyhoeddai’r un cwmnïau ddarnau corawl i ddiwallu anghenion corau, a darnau prawf eisteddfodol a werthid yn helaeth. Taflenni cerddorol eraill lluosog a phoblogaidd oedd anthemau at ddefnydd cymanfaoedd canu: dywedir i anthem Thomas Davies, ''Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn'', werthu 320,000 o gopïau.
 
O’r 1870au hefyd dechreuodd yr unawd leisiol gael mwy o amlygrwydd wrth i boblogrwydd cyngherddau, [[eisteddfodau]] a chyfarfodydd cystadleuol gynyddu. Cyfrifir ''Bedd Llewelyn'' gan [[D. Emlyn Evans]] yn fan cychwyn yr unawd Gymraeg. Fe’i gwobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1873, a’i chyhoeddi gan Isaac Jones yn 1874. O hynny ymlaen gwelir nifer fawr o gyhoeddwyr yn cyhoeddi unawdau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig - Hughes a’i Fab (a brynodd gyhoeddiadau Isaac Clarke); Isaac Jones; John Jones, Bethesda; Jane ac Elisabeth Jones, Llannerch-y-medd; D. Trehearn, y Rhyl; Benjamin Parry, Abertawe; D. L. Jones (Cynalaw), Llansawel ac Aberteifi; J. R. Lewis, Caerfyrddin; y North Wales Music Co., Bangor; a D. J. Snell, Abertawe, ymhlith eraill. Cyhoeddai’r un cwmnïau ddarnau corawl i ddiwallu anghenion corau, a darnau prawf eisteddfodol a werthid yn helaeth. Taflenni cerddorol eraill lluosog a phoblogaidd oedd anthemau at ddefnydd cymanfaoedd canu: dywedir i anthem Thomas Davies, ''Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn'', werthu 320,000 o gopïau.

Diwygiad 21:17, 22 Ebrill 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ar ffurf llyfrau y cyhoeddwyd y gerddoriaeth Gymreig gynharaf sy’n brintiedig, mewn casgliadau megis Llyfr y Psalmau (1621) gan Edmwnd Prys, Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784) gan Edward Jones (Bardd y Brenin), a chasgliadau o gerddoriaeth grefyddol megis Caniadau y Cyssegr (1839) gan John Roberts, Henllan. Byddai’r rhain yn cael eu pwrcasu a’u defnyddio gan unigolion a hyfforddai eraill. Byddai gweithiau hefyd yn cael eu hargraffu fesul rhan a’u rhwymo at ei gilydd gan y sawl a’u prynai; ar adegau byddai’r cyfrolau hyn yn anghyflawn gan na feddai’r prynwr ar bob rhan o waith, ac weithiau ceir rhannau unigol o weithiau wedi goroesi. Enghraifft o waith a gyhoeddwyd mewn rhannau yw Y Salmydd Cenedlaethol (Llanidloes, 1846), casgliad o donau, anthemau a cherddoriaeth grefyddol a gynullwyd gan Thomas Williams (Hafrenydd; 1807-94): deuir ar draws rhannau unigol o’r casgliad mewn llyfrgelloedd ac ar y farchnad ail-law.

Yn ystod y 19g., wrth i’r mudiad corawl fagu momentwm o’r 1840au ymlaen ac wrth i’r galw am gerddoriaeth i unawdwyr gynyddu yng nghanol y ganrif, datblygodd yr arfer o argraffu a chyhoeddi darnau byrion a’u gwerthu ar daflenni, yr hyn a elwir yn Saesneg yn sheet music. Byddai perchenogion yn aml yn pwytho’r rhain at ei gilydd neu yn eu rhwymo mewn cyfrol, gan greu cyfrolau ‘amryw’ o gerddoriaeth. Wedi diddymu’r trethi ar bapur yn nechrau’r 1860au, gellid argraffu darnau fel hyn yn rhad, a’u gwerthu am ychydig geiniogau: roeddynt felly o fewn cyrraedd cynulleidfa ehangach o brynwyr.

Y cyhoeddwr Cymreig cyntaf i gyhoeddi unawdau unigol oedd Isaac Clarke, Rhuthun. Hysbysebir ei gyhoeddiadau yn Y Cerddor Cymreig (cylchgrawn yr oedd Clarke ei hun yn ei argraffu) o’i ddechreuad yn 1861. Yn rhifyn Mawrth 1861 mae’n hysbysebu, dan y pennawd ‘New Music: Vocal and Instrumental’, ddwy unawd, un ganig a dwy gân a chytgan, y cyfan ohonynt â geiriau Cymraeg a Saesneg. Pris y rhain oedd pedair neu chwe cheiniog yr un. Yr un pryd roedd cyfansoddwyr yn cyhoeddi darnau byrion unigol: ymhlith yr un bloc o hysbysebion ceir hysbyseb i ‘Y Nefoedd’ (y geiriau gan Ieuan Gwyllt a’r dôn gan Joseph Mainzer), ‘ar gerdyn tlws a chryf’ am ddimai neu bedair ceiniog y dwsin. Dilynodd Y Cerddor Cymreig arfer y Musical Times o gyhoeddi darn o gerddoriaeth leisiol – canig neu anthem fel arfer – yn atodiad i bob rhifyn misol, a dechreuwyd gwerthu’r rhain ar wahân i destun y cylchgrawn, gan greu corff o daflenni cerddorol Cymreig. Pan gymerodd Hughes a’i Fab, Wrecsam, gyfrifoldeb am gyhoeddi Y Cerddor Cymreig yn 1865, ychwanegwyd y darnau hyn at eu catalog o gerddoriaeth.

Yn yr un modd ychwanegwyd y darnau sol-ffa a gyhoeddwyd yn fisol gyda Cerddor y Tonic Sol-ffa (1869-74) ac Y Cerddor Sol-ffa (1881-6), gan greu corff parod o daflenni cerddorol at ddefnydd corau yn bennaf, a gwerthwyd y rhain ar wahân i’r cylchgrawn ei hun. Cynhyrchodd Hughes gyfresi eraill o daflenni, megis ‘Y Gyfres Gerddorol Gymreig’ dan olygyddiaeth John Owen (Owain Alaw) a J. D. Jones, a gynhwysai anthemau, cytganau a darnau corawl eraill, a byddai ambell gyhoeddwr yn cynhyrchu cyfres fer o daflenni. Ymddangosodd rhangan enwog Joseph Parry i leisiau meibion, ‘Myfanwy’, yn un o chwe darn gan y cyfansoddwr a gyhoeddwyd gan Isaac Jones, Treherbert, yn 1875 ac y rhoddwyd iddynt y teitl cyfres ‘Telyn Cymry’.

O’r 1870au hefyd dechreuodd yr unawd leisiol gael mwy o amlygrwydd wrth i boblogrwydd cyngherddau, eisteddfodau a chyfarfodydd cystadleuol gynyddu. Cyfrifir Bedd Llewelyn gan D. Emlyn Evans yn fan cychwyn yr unawd Gymraeg. Fe’i gwobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1873, a’i chyhoeddi gan Isaac Jones yn 1874. O hynny ymlaen gwelir nifer fawr o gyhoeddwyr yn cyhoeddi unawdau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig - Hughes a’i Fab (a brynodd gyhoeddiadau Isaac Clarke); Isaac Jones; John Jones, Bethesda; Jane ac Elisabeth Jones, Llannerch-y-medd; D. Trehearn, y Rhyl; Benjamin Parry, Abertawe; D. L. Jones (Cynalaw), Llansawel ac Aberteifi; J. R. Lewis, Caerfyrddin; y North Wales Music Co., Bangor; a D. J. Snell, Abertawe, ymhlith eraill. Cyhoeddai’r un cwmnïau ddarnau corawl i ddiwallu anghenion corau, a darnau prawf eisteddfodol a werthid yn helaeth. Taflenni cerddorol eraill lluosog a phoblogaidd oedd anthemau at ddefnydd cymanfaoedd canu: dywedir i anthem Thomas Davies, Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn, werthu 320,000 o gopïau.

Erbyn cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd diwydiant cyhoeddi taflenni cerddorol yn llewyrchus iawn yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill, a datblygiad prosesau argraffu wedi rhwyddhau cyhoeddi darnau o’r fath yn gymharol rad. Byddai cyhoeddwyr Cymreig yn argraffu 500 neu 1,000 o gopïau o gân newydd fel arfer, a mwy yn achos darnau corawl lle’r oedd y gwerthiant yn seiliedig ar brynu nifer o gopïau gyda’i gilydd. Ond roedd peryglon gorgynhyrchu hefyd: cynhyrchwyd llawer o ddarnau nad oeddynt yn gwerthu, y rhain yn aml wedi eu cyhoeddi gan y cyfansoddwyr eu hunain. Erbyn yr 1920au roedd llawer o gyfansoddwyr yn gwerthu eu stoc a’u hawlfreintiau i dai cyhoeddi mwy o faint oherwydd na allent fforddio eu storio. Prynodd D. J. Snell laweroedd o daflenni cerddorol felly a’u hailwerthu dan ei argraffeb ei hun.

Gyda thwf y diwydiant cerddoriaeth boblogaidd yn yr 20g. cynhyrchwyd nifer fawr iawn o ganeuon ysgafn ar daflenni, yn aml gyda lluniau cantorion adnabyddus ar y blaen. Am fod cerddoriaeth o’r fath yn cael ei hystyried yn effemeraidd, nid bob amser y diogelwyd darnau felly mewn cyflwr da, ac mae rhai taflenni cerddorol Cymreig yn gymharol brin erbyn heddiw. Yn ail hanner yr 20g. tanseiliwyd gwerth taflenni cerddorol gan y peiriant llungopïo, a byddai’n arfer gan gorau i atgynhyrchu copïau printiedig o ddarnau cerddorol drwy eu llungopïo (er bod hynny’n anghyfreithlon) yn hytrach na phrynu cyflenwad llawn o gopïau gwreiddiol. Roedd hyn yn rhannol am fod costau cynhyrchu cerddoriaeth yn uchel oherwydd gofynion cysodi arbenigol, a darnau unigol yn ymddangos yn ddrud i’r prynwr. Gyda datblygiad technegau cyfrifiadurol, fodd bynnag, daeth yn haws i gerddorion gysodi eu cerddoriaeth eu hunain a’i hatgynhyrchu ar daflenni yn ôl y galw yn hytrach na gorfod argraffu rhyw nifer penodol o gopïau.

Rhidian Griffiths



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.