Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tanner, Philip (1862-1950)"

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio
 
Llinell 2: Llinell 2:
 
'''Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn [https://www.ylolfa.com/cynnyrch/9781784616250/cydymaith-i-gerddoriaeth-cymru''Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru''], cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.'''
 
Brodor o Fro Gŵyr oedd Philip (neu Phil) Tanner a chynheilydd pennaf y traddodiad [[canu gwerin]] Saesneg yn y gymdogaeth honno. Daeth i enwogrwydd yng Nghymru a Lloegr drwy gyfrwng ei recordiadau masnachol a’i berfformiadau radio. Fe’i hystyrir ymhlith cantorion brodorol mwyaf gwreiddiol a gwybodus ei gyfnod a’i ''repertoire'' yn gyfuniad o [[faledi]], caneuon tymhorol, caneuon gwaith a chanu defodol.
+
Brodor o Fro Gŵyr oedd Philip (neu Phil) Tanner a chynheilydd pennaf y traddodiad [[Gwerin, Canu a Cherddoriaeth Draddodiadol | canu gwerin]] Saesneg yn y gymdogaeth honno. Daeth i enwogrwydd yng Nghymru a Lloegr drwy gyfrwng ei recordiadau masnachol a’i berfformiadau radio. Fe’i hystyrir ymhlith cantorion brodorol mwyaf gwreiddiol a gwybodus ei gyfnod a’i ''repertoire'' yn gyfuniad o [[Baled | faledi]], caneuon tymhorol, caneuon gwaith a chanu defodol.
  
Ganed Phil Tanner yn Llangynydd, Sir Forgannwg, yr ieuengaf o saith o blant Isaac a Jennet Tanner. Roedd ei gyndeidiau a’i rieni yn adnabyddus fel cantorion a dawnswyr traddodiadol a dilynodd yntau yn ôl eu traed. Arddull a chaneuon Saesneg a oedd yn gyffredin yn y rhan orllewinol o Fro Gŵyr yr adeg honno oedd sail ei grefft, a hynny’n arwydd o ddylanwad mewnfudwyr o Wlad yr Haf flynyddoedd lawer ynghynt. Ffermio, pysgota, melinau blawd, melinau gweu a’r chwareli llechi oedd cyfrwng diwydiant yr ardal a’r rhain hefyd fu’n ffynhonnell ac yn ysbrydoliaeth i ganu Phil Tanner am weddill ei oes.
 
Roedd Llangynydd (‘Tipperary Bro Gŵyr’ yn nhyb rhai) yn enwog am ei dathliadau Gwylmabsant (5 Gorffennaf) ac am rialtwch y dawnsio a’r canu ar Ddydd Sant Cennydd. Ar adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd cynhelid traddodiad y Fari Lwyd, cystadlaethau chwaraeon y Mudchwaraewyr ''(Mummers)'' yn ogystal â defodau gwaseila yn y pentref (gw. [[Gwasael, Canu]]). Tyfodd Tanner yn arbenigwr ar yr arferion traddodiadol hyn a chofir amdano fel yr olaf o’r gwahoddwyr ''(bidders)'' priodasol yn y gymdogaeth. Ar adegau o’r fath byddai’r [[ddawns]] ''The Gower Reel'' yn cael ei pherfformio (i gyfeiliant [[ffidil]] ac i gyfeiliant ''mouth music'' Phil Tanner). Tystia rhai i’w sêl a’i arddeliad fel canwr gwerin, ond roedd hefyd yn adnabyddus fel storïwr a digrifwr ffraeth ei dafod.
+
Roedd Llangynydd (‘Tipperary Bro Gŵyr’ yn nhyb rhai) yn enwog am ei dathliadau Gwylmabsant (5 Gorffennaf) ac am rialtwch y dawnsio a’r canu ar Ddydd Sant Cennydd. Ar adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd cynhelid traddodiad y Fari Lwyd, cystadlaethau chwaraeon y Mudchwaraewyr ''(Mummers)'' yn ogystal â defodau gwaseila yn y pentref (gw. [[Gwasael, Canu]]). Tyfodd Tanner yn arbenigwr ar yr arferion traddodiadol hyn a chofir amdano fel yr olaf o’r gwahoddwyr ''(bidders)'' priodasol yn y gymdogaeth. Ar adegau o’r fath byddai’r [[Gwerin, Arferion Dawnsio | ddawns]] ''The Gower Reel'' yn cael ei pherfformio (i gyfeiliant [[ffidil]] ac i gyfeiliant ''mouth music'' Phil Tanner). Tystia rhai i’w sêl a’i arddeliad fel canwr gwerin, ond roedd hefyd yn adnabyddus fel storïwr a digrifwr ffraeth ei dafod.
  
Yn 1937 y daeth ei ddawn fel canwr gwerin i sylw’r cyhoedd y tu hwnt i Fro Gŵyr pan wahoddwyd ef gan Maud Karpeles i recordio rhai o’i ganeuon ar gyfer archif sain The English Folk Song Society (Llundain) cyn iddo eu darlledu ar raglen y BBC, ''In Town Tonight''. Recordiodd ‘The Banks of the Sweet Primroses’, ‘Henry Martin’, ‘Gower Reel’ a’r ‘Gower Wassail’ ar gyfer Cwmni Columbia yn 1937 a rhyddhaodd record hir yn 1949 a oedd yn cynnwys ei ddehongliadau unigryw o ‘The Oyster Girl’, ‘The Bonny Bunch of Roses’, ‘The Parson and The Clerk’, ‘Barbara Ellen’, ‘Young Roger Esquire’, ‘Swansea Barracks’, ‘Fair Phoebe and The Dark Eyed Sailor’, ‘Four-Handed Reel’ ac ‘Over The Hills To Gowerie’.
 
Y diwygiad cyfredol, am 21:02, 7 Awst 2021

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Brodor o Fro Gŵyr oedd Philip (neu Phil) Tanner a chynheilydd pennaf y traddodiad canu gwerin Saesneg yn y gymdogaeth honno. Daeth i enwogrwydd yng Nghymru a Lloegr drwy gyfrwng ei recordiadau masnachol a’i berfformiadau radio. Fe’i hystyrir ymhlith cantorion brodorol mwyaf gwreiddiol a gwybodus ei gyfnod a’i repertoire yn gyfuniad o faledi, caneuon tymhorol, caneuon gwaith a chanu defodol.

Ganed Phil Tanner yn Llangynydd, Sir Forgannwg, yr ieuengaf o saith o blant Isaac a Jennet Tanner. Roedd ei gyndeidiau a’i rieni yn adnabyddus fel cantorion a dawnswyr traddodiadol a dilynodd yntau yn ôl eu traed. Arddull a chaneuon Saesneg a oedd yn gyffredin yn y rhan orllewinol o Fro Gŵyr yr adeg honno oedd sail ei grefft, a hynny’n arwydd o ddylanwad mewnfudwyr o Wlad yr Haf flynyddoedd lawer ynghynt. Ffermio, pysgota, melinau blawd, melinau gweu a’r chwareli llechi oedd cyfrwng diwydiant yr ardal a’r rhain hefyd fu’n ffynhonnell ac yn ysbrydoliaeth i ganu Phil Tanner am weddill ei oes.

Roedd Llangynydd (‘Tipperary Bro Gŵyr’ yn nhyb rhai) yn enwog am ei dathliadau Gwylmabsant (5 Gorffennaf) ac am rialtwch y dawnsio a’r canu ar Ddydd Sant Cennydd. Ar adeg y Nadolig a’r flwyddyn newydd cynhelid traddodiad y Fari Lwyd, cystadlaethau chwaraeon y Mudchwaraewyr (Mummers) yn ogystal â defodau gwaseila yn y pentref (gw. Gwasael, Canu). Tyfodd Tanner yn arbenigwr ar yr arferion traddodiadol hyn a chofir amdano fel yr olaf o’r gwahoddwyr (bidders) priodasol yn y gymdogaeth. Ar adegau o’r fath byddai’r ddawns The Gower Reel yn cael ei pherfformio (i gyfeiliant ffidil ac i gyfeiliant mouth music Phil Tanner). Tystia rhai i’w sêl a’i arddeliad fel canwr gwerin, ond roedd hefyd yn adnabyddus fel storïwr a digrifwr ffraeth ei dafod.

Yn 1937 y daeth ei ddawn fel canwr gwerin i sylw’r cyhoedd y tu hwnt i Fro Gŵyr pan wahoddwyd ef gan Maud Karpeles i recordio rhai o’i ganeuon ar gyfer archif sain The English Folk Song Society (Llundain) cyn iddo eu darlledu ar raglen y BBC, In Town Tonight. Recordiodd ‘The Banks of the Sweet Primroses’, ‘Henry Martin’, ‘Gower Reel’ a’r ‘Gower Wassail’ ar gyfer Cwmni Columbia yn 1937 a rhyddhaodd record hir yn 1949 a oedd yn cynnwys ei ddehongliadau unigryw o ‘The Oyster Girl’, ‘The Bonny Bunch of Roses’, ‘The Parson and The Clerk’, ‘Barbara Ellen’, ‘Young Roger Esquire’, ‘Swansea Barracks’, ‘Fair Phoebe and The Dark Eyed Sailor’, ‘Four-Handed Reel’ ac ‘Over The Hills To Gowerie’.

Ailgyhoeddwyd y rhain ar label Cwmni Caedmon (Unol Daleithiau America) yn y gyfres Folksongs of Britain (1961) ond coron ar ei yrfa fu’r casgliad o’i ganeuon, The Great Man of Gower, a ryddhawyd gan gwmni Folktracks Recordings yn 1975. Meddai ar gasgliad o oddeutu 80-90 cân a ddysgodd oddi wrth ei daid, ei dad, ei ewythredd a’i frodyr, yn ogystal â’r gweithwyr a’r sipsiwn crwydrol a ddeuai i’r ardal. Parhaodd i ganu a diddanu ei gyd-bentrefwyr wedi iddo ymddeol ac fe’i hystyrid yn geidwad traddodiadau llafar-gwlad bro ei febyd.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • J. Mansel Thomas, ‘Profile ... Phil Tanner’, Gower, 1 (1948), 16–19
  • John Ormond Thomas, ‘The Old Singer of Gower’, Picture Post (19 Mawrth 1949)
  • Doug Fraser a Tony Green, ‘Phil Tanner’, Traditional Music, 7 (1977), 4–9
  • David Rees, ‘Phil Tanner and the Royal Commission’, Gower, 31 (1980), 4–10
  • Doug Fraser, ‘Phil Tanner, 1862–1950’, Taplas, 98 (Chwefror–Mawrth, 2000), 12–14
  • Roy Harris, ‘Phil Tanner – an appreciation’, Taplas, 98 (Chwefror-Mawrth, 2000), 15
  • ———, ‘Tanner sings again’, Taplas, 120 (Hydref-Tachwedd, 2003), 10

Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.