Tegid, Llew (1851-1928)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Ganed Llew Tegid yn Ffriddgymen, ger y Bala, a’i enw bedydd oedd Lewis David Jones. Daeth yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau’r Eisteddfod Genedlaethol yn annerch cynulleidfaoedd wrth arwain ac fel eisteddfodwr y’i hadwaenid yn bennaf. Bu’n fyfyriwr yn y Coleg Normal (Bangor) rhwng 1872 ac 1873 cyn cael ei benodi’n athro ym Methesda. Prin flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1875, dychwelodd i Fangor fel athro yn Ysgol y Garth a bu yno am 27 mlynedd. Cynhyrchodd waith llenyddol pwysig ond ei ddiddordeb pennaf oedd ei alwedigaeth fel arweinydd eisteddfodol, fel yr atega T. I. Ellis isod:

Yr oedd ganddo fedr arbennig i drin tyrfa fawr; meddai ar lais soniarus, treiddgar, arabedd parod, a phersonoliaeth hoffus. (Ellis 2009)

Bu’n weithgar ym myd yr eisteddfod rhwng 1902 ac 1925 (Stephens 1997, 403), a hyd at 1916 bu’n ddyfal yn codi arian ar gyfer adeiladau newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (Ellis 2009). Erbyn troad y ganrif daeth i ymwneud yn helaeth â’r Athro J. Lloyd Williams, sef cyd-sylfaenydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a sefydlwyd yn 1906.

Yn sgil dylanwad J. Lloyd Williams arno aeth ati i ‘gasglu alawon a hen benillion’ i’w cyhoeddi yng Nghylchgrawn y Gymdeithas (Stephens 1997, 403). Ambell dro, gwnâi hyn ar ei liwt ei hun ond yn amlach na pheidio âi i’w cofnodi ar y cyd â’i gyfaill. Bu’n cyfansoddi geiriau ar gyfer yr alawon a gasglai er mwyn eu gosod ar glawr. Yn ogystal â hyn, ei eiriau ef a osodwyd ar ddwy opereta fechan o eiddo J. Lloyd Williams sy’n dwyn y teitlau Aelwyd Angharad a Cadifor, sef ‘cynhyrchion mwyaf adnabyddus’ (Roberts 2009) cyfnod diweddarach yr Athro. Datblygodd partneriaeth amlwg rhwng y ddau, gyda’r naill yn ysbrydoli’r llall; byddai Lloyd Williams yn llunio trefniannau ar gyfer yr alawon a Llew Tegid yn cyfansoddi geiriau ar eu cyfer. Defnyddiai’r naill ei allu a’i grebwyll cerddorol tra tynnai’r llall ar ei ddawn fel llenor.

Roedd gosod geiriau ar ganeuon llafar gwlad yn gyfraniad pwysig i draddodiad canu gwerin Cymru gan ei fod yn cyfoethogi’r traddodiad ymhellach wrth ategu casgliadau cynharach. Roedd hefyd yn fodd o roi geiriau newydd sbon i hen alawon, nad oeddynt, o reidrwydd, yn cynnwys geiriau yn y gwreiddiol. Dyma lle amlygir dawn lenyddol Llew Tegid.

Ymhen blynyddoedd gwelwyd ei gyfraniad at fywyd a gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn cynyddu’n sylweddol, nid yn unig trwy ei waith cadwraethol yn casglu a chyfansoddi ond hefyd drwy ei waith gweinyddol. Fe’i penodwyd yn ysgrifennydd cyntaf i’r Gymdeithas a dadleuai rhai y gellir ei gyfrif ymysg ei chyd-sylfaenwyr, ochr yn ochr â J. Lloyd Williams ( Kinney 2011, 205). Bu farw ym Mangor ar 4 Awst 1928.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • W. E. Penllyn Jones (gol.), Bywgraffiad Llew Tegid gyda detholiad o’i weithiau (Wrecsam, 1931)
  • M. Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997)
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.