Telyn Wrachïod

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:38, 7 Awst 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← At y diwygiad blaenorol | Y diwygiad cyfoes (gwahan) | At y diwygiad dilynol → (gwahan)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Telyn gynnar a oedd yn boblogaidd yng Nghymru rhwng y 14g. a’r 17g. Tarddiad y term ‘gwrachïod’ yw’r gair ‘gwrach’ neu ‘gwrachod’ sy’n dynodi sain ansoniarus y delyn. Ceid iddi naill ai 31 o dannau, yn ymestyn o A’ i c’’, neu 34 o dannau yn ymestyn o G’ i e’’. Fe’i chwaraeid yn y dull traddodiadol ar yr ysgwydd chwith gyda thechneg ganoloesol a olygai ddefnyddio’r ewinedd yn hytrach na chnawd y bysedd.

Roedd gwrachïod, sef pegiau bychain siâp L, wedi’u gosod yn seinfwrdd y delyn a hynny mewn modd a olygai eu bod yn cyffwrdd y tannau’n ysgafn wrth i’r rheini ddirgrynu yn eu herbyn gan greu sain suo nid annhebyg i’r delyn Wyddelig gyda’r tannau weiren. Yn unol â repertoire telynorion o’r 16g., defnyddid pum cyweiriad gwahanol, sef is gywair, cras gywair, lleddf gywair y gwyddil, go gywair a bragod gywair. Gellir gweld enghreifftiau ohonynt yn llawysgrif Robert ap Huw, gyda’r gerddoriaeth yn galw am delyn unrhes ddiatonig gydag oddeutu 25 o dannau. Yn ogystal â nifer y tannau, ceir cyfarwyddiadau ar gyfer byseddu a thechneg y telynor wrth dynnu a distewi’r tannau. Byddai’r delyn wrachïod yn gweddu i dechnegau o’r fath. Cyfeirir at y delyn wrachïod mewn cywydd gan Huw Machno, sy’n crybwyll y gwrachïod lluniaidd a rydd lais i bob emosiwn yn ystod datganiad ar yr offeryn.

Mae recordiadau o’r delyn wrachïod yn hynod brin, er y ceisir atgynhyrchu’r telynau hyn ar gyfer diben hanesyddol heddiw. Un o’r arloeswyr pennaf ym myd y delyn wrachïod yw William (Bill) Taylor sydd wedi perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth ar yr offeryn. O ganlyniad i’w waith ar lawysgrif Robert ap Huw, mae wedi llwyddo i ddod â’r delyn yn ôl i sylw’r byd cerddorol yng Nghymru drwy gynhyrchu cryno-ddisg o ddeunydd o’r casgliad hanesyddol hwn.

Gwawr Jones

Disgyddiaeth

  • Bill Taylor, Musica (Cornelyn 5637724966, 2010)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.