Terfyn amser

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Saesneg: Deadline

Yr amser neu’r dyddiad hwyraf y mae’n rhaid i stori newyddion fod yn orffenedig os yw i ymddangos yn rhifyn nesaf y papur newydd, cylchgrawn neu fwletin darlledu. Mae gosod terfyn amser yn rhoi ffocws i’r newyddiadurwr wrth fynd ati i greu stori a’r dyddiad cau neu’r terfyn amser yw’r pwynt di-droi’n-ôl. Pan fydd y terfyn amser yn pasio, ni all golygyddion brosesu’r deunydd – y copi, adroddiad fideo neu sain – mwyach fel newyddion o fewn y cylch newyddion parhaus o gasglu newyddion, ei gyflwyno a’i ddosbarthu.



Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.