Thomas, John (Ieuan Ddu; 1795-1871)

Oddi ar WICI
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Cerddor a enillodd ei blwyf fel cyfansoddwr, hyfforddwr ac addysgwr oedd John Thomas, a aned ym Mhibwrlwyd, ger Caerfyrddin. Cafodd addysg o safon ac roedd cerddoriaeth yn rhan annatod o’i fagwraeth. Nid syndod, felly, iddo arwain y band lleol ac yntau ond yn llencyn un ar bymtheg oed. Symudodd i Ferthyr Tydfil yn 1830 ac ymgartrefodd mewn amryw drefi yn ne-ddwyrain Cymru hyd weddill ei oes.

Nodweddid ardaloedd y Cymoedd yng nghyfnod Ieuan gan fwrlwm cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol a oedd wedi’i ganoli o amgylch y capel a’r dafarn ac roedd yntau wrth ei fodd yng nghanol y cyffro. Agorodd amryw ysgolion yng nghyffiniau Merthyr Tydfil a Phontypridd lle bu’n addysgu cerddorion ifanc a bu hefyd yn ganwr bas, yn arweinydd côr, yn gyfansoddwr, yn feirniad eisteddfodol ac yn gasglwr alawon gwerin. Daeth i amlygrwydd yn bennaf yn sgil ei gyfraniad i fyd yr eisteddfod gan lwyddo i gymhwyso ei gasgliadau ei hun a chasgliadau eraill o alawon gwerin Cymreig ar gyfer dibenion cystadlaethau eisteddfodol a gweithgarwch adloniannol cyngherddau’r oes. O ganlyniad, ychwanegodd yn helaeth at repertoire Cymreig y traddodiad corawl yng Nghymru.

Roedd yn eisteddfodwr brwd a bu’n arweinydd côr llwyddiannus ar sawl achlysur rhwng 1838 ac 1845 yn ystod eisteddfodau Cymreigyddion y Fenni. Flwyddyn ynghynt, yn 1837, daeth yn ail i Maria Jane Williams yn y gystadleuaeth am ‘y casgliad gorau o alawon gwreiddiol Cymreig heb eu cyhoeddi, ynghyd â’r geiriau, fel y’u cenir hwy gan werin Cymru’ (Williams 1994, xvi). Yn ogystal â hyn daeth ei ddawn ysgrifennu i’r amlwg pan ddaeth i’r brig ddwywaith yng nghystadleuaeth y traethawd, y naill yn 1838 yn dwyn y teitl ‘Gwahanol Beroriaethau Cymru a’r Iwerddon’ a’r llall yn 1840 yn trafod ‘Yr hanes gorau o Delyn Gwent a Morgannwg’ a oedd yn cynnwys ‘enghreifftiau o gyfalawon datgeiniaid cerdd dant sydd gyda’r rhai argraffedig cynharaf ar gael’ (Evans 1986, 63). Cyhoeddwyd yr olaf o’r rhain yn y Cambrian Journal yn y flwyddyn 1855.

Ddegawd yn gynt, yn 1845, daeth ei gyhoeddiad cyntaf i olau dydd, sef Y Caniedydd Cymreig (Thomas 1845). Dyma gasgliad o dros gant o alawon Cymreig gydag oddeutu hanner cant ohonynt wedi’u codi o’i waith ei hun a geiriau wedi’u darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ceir yn rhagymadrodd y gyfrol hon ddatganiad o’i awydd i gael dewis ehangach o ganeuon Cymraeg i’w defnyddio mewn eisteddfodau a chyngherddau. Dywedai hefyd sut y gwelai’r angen am gofnodi a chywain alawon gwerin Cymreig cyn iddynt ddiflannu o’r tir. I’r perwyl hwn, aeth ati i greu casgliad o drefniannau o’r alawon traddodiadol, rhai a gasglodd ei hun ac eraill a gymerwyd o gasgliadau cynharach y telynorion, rhai megis John Parry (Bardd Alaw) ac Edward Jones (Bardd y Brenin).

Maes o law, perfformiwyd ei drefniannau gan unawdwyr, deuawdau, triawdau a phartïon adeg eisteddfodau’r Fenni. O ganlyniad, llwyddodd i lenwi bwlch yn y repertoire cerddorol a diwallu angen Cymry’r cyfnod mewn cyngerdd ac eisteddfod am ddeunydd cerddorol Cymraeg a lwyddai i gystadlu â chyhoeddiadau mawr Seisnig y dydd. Gwnaeth Ieuan yn fawr o’i gyfle i boblogeiddio alawon traddodiadol y Cymry mewn oes pan welwyd Seisnigrwydd yn rhemp ar lwyfan yr eisteddfod. Bu farw yn Nhrefforest ar 30 Mehefin 1871.

Leila Salisbury

Llyfryddiaeth

  • J. Thomas, Y Caniedydd Cymreig (Merthyr Tydfil, 1845)
  • Meredydd Evans, ‘Ieuan Ddu: Eisteddfodwr a Cherddor’, Taliesin, 58 (Rhagfyr, 1986), 61–71
  • M. J. Williams, Ancient National Airs of Gwent and Morganwg (Aberystwyth, 1994)
  • Nigel Ruddock, ‘Tair Cân Ieuan Ddu a’u Geiriau Gwreiddiol’, Canu Gwerin, 28 (2005), 42–51
  • ———, ‘Y Caniedydd Cymreig – Rhagor am Ieuan Ddu a’i Ganeuon’, Canu Gwerin, 30 (2007), 63–78
  • ———, ‘Y Caniedydd Cymreig – Rhagor am Ieuan Ddu a’i Ganeuon’, Canu Gwerin, 31 (2008), 95–120
  • Phyllis Kinney, Welsh Traditional Music (Caerdydd, 2011)



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.