Thomas, John (Pencerdd Gwalia; 1826-1913)

Oddi ar WICI
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:35, 19 Mai 2021 gan CadiW (Sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r cofnod hwn ymysg y cannoedd sydd i'w gweld yn Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Medi 2018.

Roedd Llundain y 19g. yn ganolfan gerddorol Ewropeaidd o statws arbennig ac o ganlyniad denwyd nifer o delynorion addawol Cymru’r cyfnod i ddilyn gyrfa broffesiynol yno. Yn eu plith yr oedd Edward Jones (Bardd y Brenin), John Parry (Bardd Alaw) a John Thomas (Pencerdd Gwalia).

Brodor o Ben-y-bont ar Ogwr oedd John Thomas a symudodd ynghyd â’i rieni i’r ddinas yn bedair ar ddeg oed i fod yn ddisgybl yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Derbyniodd nawdd a chefnogaeth Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer; 1802–96) yn ystod ei gyfnod yn chwarae’r delyn deires, ond wrth droi ei olygon i gyfeiriad y delyn bedal ‘glasurol’ a gyrfa broffesiynol y tu hwnt i Glawdd Offa, enynnodd ei dicter am weddill ei oes. John Balsir Chatterton (1804–71), telynor swyddogol y Frenhines Victoria, oedd ei athro telyn, Cipriani Potter (1792–1871) oedd ei athro harmoni a chyfansoddi, ac yr oedd y pianydd o dref Caerfyrddin, Brinley Richards (Cerddor Tywi), yn un o’i gyfoeswyr. Wedi chwe mlynedd yn astudio yn yr Academi sicrhaodd le fel telynor Her Majesty’s Theatre (Llundain), ond blynyddoedd llwm a dilewyrch fu’r rhain gan fod Chatterton a’r telynor amryddawn Parish Alvars (1808–49) yn dal i ddenu cynulleidfaoedd niferus ac yn tra-arglwyddiaethu yn y maes.

Rhwng 1851 ac 1874 ymwelodd John Thomas yn gyson â chyfandir Ewrop i gynnal cyngherddau a chreu cysylltiadau yn yr Almaen, Awstria, Y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, Yr Eidal, Rwsia a.y.b. – yn wir, yr oedd ymhlith Cymry mwyaf uchelgeisiol a mentrus ei gyfnod. Cadwodd ddyddiaduron manwl (Llsgau 23391E–23406/7A, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) sy’n olrhain ei brofiadau, ac yn rhestru cynnwys ei berfformiadau a’i deithiau niferus. Daeth i gyswllt â Liszt, Berlioz a Rossini yn ystod yr ymweliadau hyn a alluogodd iddo gael mynediad i rai o gylchoedd cerddorol mwyaf dylanwadol ei ddydd. Er mai perfformiwr ydoedd, cyfansoddodd nifer o ddarnau ar gyfer y delyn gan gynnwys gweithiau gwreiddiol (e.e. Echoes of a waterfall, The Seasons a Scenes of Childhood) yn ogystal â threfniannau o alawon Cymreig (e.e. ‘Dafydd y Garreg Wen’, ‘Clychau Aberdyfi’ a ‘Ffarwel y Telynor’) a threfniannau o alawon cyfarwydd gan gyfansoddwyr clasurol yr oes (e.e. The Trout, Lieder Ohne Worte a Carmen). Bu’n ddiwyd yn ailolygu consierto telyn Handel (Bb fwyaf, Op. 4, rhif 6, HWV 294) a consierto Mozart i ffliwt a thelyn (C fwyaf, K299) gan ddwyn y gweithiau hyn i sylw’r cyhoedd, ac ailgyhoeddodd rai o weithiau Parish Alvars er mwyn eu diogelu ar gyfer telynorion y dyfodol.

Nid anghofiodd am Gymru a’i thraddodiadau, fodd bynnag (fe’i gwahoddwyd yn gyson i feirniadu yn Eisteddfodau Cenedlaethol y cyfnod), a sefydlodd gyfres o gyngherddau Cymreig (yn Neuadd St James ac yn Neuadd Albert, Llundain) mewn cydweithrediad â Brinley Richards a fu’n gyfrwng i boblogeiddio’r delyn a cherddoriaeth gorawl Gymreig dros gyfnod o ddeugain mlynedd. Fe’i dyrchafwyd yn delynor i’r Frenhines Victoria (1871) ac yn ddiweddarach i’r Brenin Edward VII, fe’i hurddwyd yn ‘Bencerdd Gwalia’ yn Eisteddfod Aberdâr, 1861, a chafodd ei benodi’n Athro’r delyn yn yr Academi Gerdd Frenhinol, y Coleg Cerdd Brenhinol ac yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, Llundain. Perfformir ei gyfansoddiadau i’r delyn, sy’n gyforiog o nodweddion Rhamantaidd ac arddull flodeuog yr oes, gan delynorion amatur a phroffesiynol ledled y byd.

Wyn Thomas

Llyfryddiaeth

  • Carys Ann Roberts, ‘Agwedd Gosmopolitanaidd John Thomas, “Pencerdd Gwalia” (1826–1913)’, Hanes Cerddoriaeth Cymru, 4 (2000), 88–99
  • Owain T. Edwards, ‘John Thomas (Pencerdd Gwalia)’, New Grove Dictionary of Music and Musicians, gol. Stanley Sadie, 25 (Llundain, 2001), 410–11



Comisiynwyd y cofnod hwn ar gyfer Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, cyfrol a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa yn 2018. Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.